Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ddim bob amser fel mae pethau’n ymddangos!

Hanes bywyd Irena Sendler – gwasanaeth ar gyfer Diwrnod Coffa

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i werthfawrogi y gall ymddangosiadau fod yn dwyllodrus.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o Irena Sendler.

    Gofynnwch i'r plant ddisgrifio'r hyn y maen nhw'n ei feddwl ynghylch sut un oedd y wraig hon. Efallai yr hoffech chi wneud rhestr o eiriau disgrifiadol.
    Gofynnwch i'r plant edrych arni'n ofalus a dyfalu pa fath o waith yr oedd yn ei wneud. Gofynnwch i'r plant pam y gwnaethon nhw awgrymu’r syniadau hynny.

  2. Dangoswch y ddelwedd o blant Iddewig o’r Warsaw Ghetto.

    Gofynnwch i'r plant a yw'r ddelwedd yn cyfleu'r syniad beth oedd gwaith Irena.
    Atgoffwch y plant ein bod, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn neilltuo amser i feddwl am bobl wnaeth aberthau enfawr er mwyn caniatáu i ni fyw mewn heddwch. Rydyn ni’n meddwl yn arbennig am y rhai a roddodd eu bywyd i frwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

  3. Mae llawer o bobl wedi cael eu galw'n arwyr yn y rhyfeloedd hyn: milwyr, awyrenwyr, meddygon, nyrsys ac eraill. Roedd y wraig sy'n derbyn sylw gennym heddiw hefyd yn arwres, a'i henw hi oedd Irena Sendler.

    Cafodd Irena Sendler ei geni yng Ngwlad Pwyl ym mis Chwefror 1910.  Roedd yn gweithio fel gweithwraig gymdeithasol, ond pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, llwyddodd i gael swydd fel arbenigwraig ar bibellau dwr a charthffosydd yng Ngeto Warsaw, lle'r oedd Iddewon yn byw. Roedd hi’n methu â deall pam yr oedd yr Iddewon yn cael eu cam-drin yn y fath fodd, ac roedd yn awyddus i'w helpu.

    Roedd Irena yn gwybod mai'r bwriad oedd cymryd plant Iddewig oddi wrth eu rhieni a'u cam-drin, felly fe geisiodd hi eu hachub. Gyda chymorth eu rhieni, llwyddodd Irena i smyglo plant allan o'r Geto yn ei thryc, yn ei bocs offer neu mewn sachau. Roedd ganddi gi yn ei chwmni bob amser a dysgodd iddo gyfarth pan oedd hi yn dod i mewn neu'n mynd allan o'r Geto. Roedd y cyfarthiad yn golygu y byddai'r milwyr yn cadw draw oddi wrth ei thryc, a hefyd roedd yn fodd i guddio unrhyw swn y byddai'r plant yn ei wneud, pe bydden nhw'n  ofidus.

    Ar ôl llwyddo i gael y plant allan o'r Geto, trefnodd Irena dai diogel lle byddai'r plant yn gallu byw. Cadwodd Irena gofnodion o'r holl blant a’r teuluoedd y gwnaeth hi eu helpu, ond rhag ofn i filwyr yr Almaen ddod i chwilio am ei chofnodion, fe'i cadwodd hi nhw mewn jariau a chladdu'r rheini dan goeden yn ei gardd gefn.

    Gyda chymorth ychydig o bobl eraill, llwyddodd Irena i smyglo tua 2,500 o blant allan o'r Geto. Yn ystod y rhyfel, cafodd Irena ei dal unwaith yn rhagor, ei holi a'i cham-drin yn ddrwg, ond wnaeth hynny ddim ei hatal rhag parhau i helpu eraill.

    Ar ddiwedd y rhyfel, aeth Irena ati i gloddio am y jariau gyda'r cofnodion ynddyn nhw a'u codi o'r ddaear. Ceisiodd olrhain hanes teuluoedd yr holl blant yr oedd hi wedi eu helpu fel eu bod yn gallu ail-ymuno a'i gilydd a chael gwybod beth fu eu hanes.

  4. Dangoswch y ddelwedd o’r oedolion y gwnaeth Irena Sendler eu helpu pan oedden nhw’n blant.

    Mae'r ddelwedd hon yn dangos Irena fel yr oedd hi'n ymddangos yn y flwyddyn 2005, gyda rhai o'r plant y llwyddodd hi i'w hachub yn ystod y rhyfel.

    Soniwch wrth y plant fod y syniadau a oedd ganddyn nhw am y wraig hon, y tro cyntaf y gwnaethon nhw weld llun ohoni, o bosib, yn wahanol i'r gwirionedd am ei bywyd. Pan fyddwn ni’n edrych ar bobl, ddylen ni ddim eu barnu ynghylch sut rai ydyn nhw oddi wrth y ffordd y maen nhw'n ymddangos. Os gwnawn ni hynny, byddwn yn aml yn creu'r argraff anghywir amdanyn nhw. Mae angen i ni gymryd amser i ddod i adnabod pobl yn well a dysgu sut bobl ydyn nhw o ddifrif.

  5. Mae adnod yn y Beibl (1 Samuel 16.7)sy’n dweud, ‘Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae’r Arglwydd yn gweld beth sydd yn y galon.’ Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn fwy gofalgar ynghylch sut rai ydyn ni ar y tu mewn nag ynghylch sut rydyn ni’n ymddangos ar y tu allan.

    Mae’r ddelwedd a welsom o Irena Sendler ar ddechrau'r gwasanaeth yn dangos llun o hen wraig fach annwyl, ond bu ei bywyd yn fywyd arwrol.

Amser i feddwl

Oedwch am foment a meddyliwch am Irena Sendler. Gadewch i ni benderfynu yn ein calon i garu pobl eraill fel y gwnaeth hi, a meddwl am eraill cyn meddwl amdanom ni ein hunain.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bobl fel Irena Sendler a fu’n gofalu am bobl eraill hyd yn oed pan oedd yr amgylchiadau’n beryglus iawn.
Helpa ni i fod yn ofalgar tuag at y rhai sydd o’n cwmpas.
Helpa ni gymryd amser i ddod i wybod sut rai yw pobl o ddifrif, a pheidio â barnu pobl yn ôl y ffordd maen nhw’n ymddangos.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon