Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y freuddwyd i ddod â heddwch i’r byd

Heddwch a Martin Luther King

gan Hilary Karen

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl beth yw ystyr heddwch, gan edrych ar fywyd Martin Luther King.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a saith Darllenydd, a fydd angen amser i ymarfer eu rhannau cyn y gwasanaeth.
  • Trefnwch fod gennych chi rai delweddau sy'n gysylltiedig â Martin Luther King a'r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:

    - Martin Luther King yn fachgen, ar gael ar :
    http://tinyurl.com/gqufwcg

    - Martin Luther King a Coretta, ar gael ar :
    http://tinyurl.com/jk2la47

    - Yr orymdaith yn Washington - March on Washington, ar gael ar : http://tinyurl.com/h5dbraw
    - Martin Luther King yn traddodi ei anerchiad enwocaf, ar gael ar : http://tinyurl.com/hwoteq5
    - darn allan o’r anerchiad ‘I have a dream’, ar gael ar : http://tinyurl.com/grkmtwy

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi drefnu cael recordiad o’r gân ‘A change is gonna come’ gan Sam Cooke, a’r modd o’i chwarae yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 3.10 munud, ac mae ar gael ar :https://www.youtube.com/watch?v=wEBlaMOmKV4
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi drefnu bod y clip fideo YouTube, ‘Tribute to Dr Martin Luther King’ ar gael gennych chi, a’r modd o ddangos y clip yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para am 4.51 munud, ac mae’n cynnwys lluniau o Martin Luther King gyda cherddoriaeth gefndir sef y gân‘Happy birthday’gan Stevie Wonder. Efallai yr hoffech chi ddangos rhan fechan o’r clip fideo hwn. Mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=anWx36QPmco

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gân ‘A change is gonna come’ gan Sam Cooke.

  2. Arweinydd: Y darn hwn o gerddoriaeth yw’r gân enwog o'r enw 'A change is gonna come '. Mae'n sôn am gyfnod yn yr Unol Daleithiau pan oedd llawer o bobl yn dymuno gweld y gyfraith yn cael ei newid, fel y byddai pobl dduon yn cael eu trin yr un fath â phobl wyn. Efallai y byddwn yn cael hyn yn beth anodd ei ddeall y dyddiau hyn, a ninnau’n gwybod bod yr holl bobl yr un mor werthfawr â’i gilydd, a phan fyddwn ni’n gwylltio am wahaniaethu o unrhyw fath. Fodd bynnag, roedd hon yn broblem enfawr yn y gorffennol.

    Heddiw, rydym yn mynd i glywed am ddyn arbennig yr oedd breuddwyd ganddo ynghylch rhywbeth arbennig.

  3. Dangoswch y ddelwedd o Martin Luther King yn fachgen.

    Darllenydd 1:Dyma lun o Martin Luther King yn fachgen. Cafodd ei eni yn Atlanta, Georgia, yn 1929. Roedd yn hoffi chwarae pêl-fas a phêl-droed, a reidio ei feic. Chwaraeodd gyda barcutiaid ac awyrennau model. Nid oedd unrhyw blant gwyn yn yr un ysgol â Martin oherwydd bod y gyfraith yn yr Unol Daleithiau yn nodi na allai plant gwyn fynd i'r un ysgol â phlant nad oedden nhw’n wyn.

    Darllenydd 2:Roedd Martin yn fachgen clyfar iawn, a gweithiodd yn galed iawn yn yr ysgol. Dim ond 15 mlwydd oed oedd o pan aeth i goleg. Roedd Martin eisiau bod yn weinidog yn yr eglwys. Roedd yn awyddus i wneud bywyd yn well i bobl ddu oherwydd bod rhai yn cael eu trin yn wael iawn. Gweithiodd yn galed ac fe ddysgodd am bobl a geisiodd newid pethau mewn ffordd heddychlon. Doedd Martin ddim am ddefnyddio dulliau treisgar ac ymladd. Yr oedd yn siaradwr gwych ac wrth i bobl wrando arno roedden nhw’n cael eu hysgwyd gan ei eiriau.

    Dangoswch y ddelwedd o Martin Luther King a Coretta.

    Darllenydd 3:Yn 1952, fe gwrddodd Martin â merch o’r enw Coretta, a oedd yn astudio cerddoriaeth a chanu yn y coleg. Fe briododd y ddau a chael pedwar o blant. Roedd Coretta’n helpu Martin gyda’i waith.

    Dangoswch y ddelwedd o ‘The March on Washington’.

    Darllenydd 4:
    Fe drefnodd Martin orymdeithiau heddychlon i helpu pobl i fod yn fwy caredig, ac yn decach tuag at ei gilydd. Roedd eisiau i bobl drin ei gilydd yn dda, waeth sut roedden nhw’n ymddangos, waeth beth oedd lliw eu croen. Roedd eisiau i bobl siarad yn agored yn erbyn annhegwch o unrhyw fath, ond byth i fod yn dreisgar yn erbyn eraill, hyd yn oed pan fydden nhw’n wynebu pobl eraill a oedd yn dreisgar iawn.

    Dangoswch y ddelwedd o Martin Luther King yn traddodi ei araith enwog iawn.

    Darllenydd 5:Yn ystod y March on Washington, yn 1963, fe draddododd Martin araith enwog lle siaradodd am ei freuddwyd. Fe wrandawodd miloedd o bobl arno’n siarad a chytuno â’r hyn oedd ganddo i’w ddweud.

    Dangoswch y ddelwedd o’r dyfyniad o’r araith ‘I have a dream’.

    Darllenydd 6:Mae’r geiriau enwog iawn hyn gan Martin wedi cael eu defnyddio lawer gwaith gan lawer iawn o bobl. Dyma beth ddywedodd: ‘I have a dream that my four children will one day live in a nation where they will not be judged by the colour of their skin, but by the content of their character.’

    Darllenydd 7:Fe newidiodd Martin feddyliau llawer o bobl, ac fe basiwyd deddfau newydd a oedd yn decach i bawb. Yn anffodus, er bod Martin ei hunan yn casáu trais yn fawr iawn, cafodd ei saethu’n farw gan rywun oedd ddim yn cytuno ag ef. Pan fu farw, roedd pobl ledled y byd i gyd yn drist iawn.

    Roedd gwaith Martin mor bwysig, er mwyn ei anrhydeddu, ac i gofio amdano, mae’r Unol Daleithiau yn dathlu diwrnod arbennig bob blwyddyn o'r enw Martin Luther King Jr Day.

Amser i feddwl

Arweinydd:Gadewch i ni feddwl am y dyfyniad hwn ynghylch breuddwyd Martin Luther King eto gyda’n gilydd.

Darllenwch y dyfyniad eto’n araf ac yn feddylgar.

- Beth ydych chi’n ei feddwl roedd Martin Luther King yn ei olygu wrth sôn am ‘the content of their character’?
- Beth ydych chi’n ei dybio fyddai pobl eraill yn ei ddweud fyddai ‘the content of your character - cynnwys eich cymeriad chi?
- Fyddech chi’n falch o glywed yr hyn y bydden nhw’n ei ddweud am eich cymeriad chi?
- Fyddech chi’n gallu ceisio bod yn heddychlon gyda rhywun roeddech chi wedi anghydweld ag ef neu hi, heb fod yn dreisgar na hyd yn oed yn ddig?

Cyfieithiad o eiriau Martin Luther King yw dechrau’r weddi ganlynol.

Gweddi
Dduw, rho i ni’r cryfder corfforol i ddal ati i gerdded er mwyn rhyddid.
Dduw, rho i ni’r cryfder i barhau’n ddi-drais.
Heddiw, rydyn ni’n gweddïo y bydd gennym y dewrder i sefyll dros yr hyn sy’n iawn, hyd yn oed ar adegau pan fydd pobl eraill yn gwneud hynny’n anodd i ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dewisol yw’r adran hon o’r gwasanaeth.

Arweinydd:Fe gyfansoddodd Stevie Wonder gân arbennig am Martin Luther King, cân o’r enw ‘Happy birthday’. Bydd y gân hon yn cael ei chwarae i chi gael gwrando arni ar eich ffordd allan o’r gwasanaeth.

Chwaraewch y clip fideo YouTube, ‘Tribute to Dr Martin Luther King’, ar gael ar :https://www.youtube.com/watch?v=anWx36QPmco

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon