Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod yn ffrind (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’)

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd bod yn garedig wrth bawb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Rhedodd Liwsi Jên i mewn i’r stabl at Sgryffi i ddweud wrtho am y ferch newydd oedd yn ei dosbarth.
    ‘Ei henw hi ydi Mali Prys,’ eglurodd Liwsi Jên. ‘Mae hi bob amser yn gwenu, ond mae hi’n ddistaw iawn. Mae hi’n symud o gwmpas mewn cadair olwyn am fod ei choesau ddim yn gweithio’n dda iawn. Dwi’n mynd i ofyn i Mam fydd o’n bosib i ni ei gwahodd yma i gael te efo ni. Wyt ti’n meddwl y byddai hynny’n syniad da, Sgryffi?’
    ‘Hi-ho, hi-ho!’ nodiodd Sgryffi wrth i Liwsi Jên redeg yn ôl i’r ty i ofyn i’w mam.

    Holwch y plant a oes rhywun newydd yn eu dosbarth nhw yn yr ysgol. Sut bydden nhw’n gallu gwneud i’r plentyn newydd deimlo ei fod ef neu hi’n cael croeso? Fydden nhw’n gallu bod yn ffrindiau?

    Pan ddaeth Liwsi Jên adref o’r ysgol gyda’i mam y diwrnod wedyn, sylwodd Sgryffi ar gar arall yn cyrraedd y buarth y tu ôl iddyn nhw. Daeth dynes allan, estyn cadair olwyn o gefn y car a’i hagor, ac yna fe gododd hi ferch fach o sedd y car a’i rhoi i eistedd yn y gadair olwyn. Ffrind newydd Liwsi Jên oedd hi, Mali.
    ‘Dewch!’ meddai Liwsi Jên, yn llawn cyffro. ‘Gadewch i ni fynd i’r stabl. Mae rhywun yno sy’n edrych ymlaen at gael dy gyfarfod di, Mali!’
    ‘Fe ddo’ i â diod a bisgedi allan i chi,’ galwodd mam Liwsi Jên wrth i’r merched fynd ar draws y buarth at y stabl.
    ‘Diolch, Mam,’ gwaeddodd Liwsi Jên.
    Gwyliodd Mali Liwsi Jên yn cofleidio Sgryffi ac yn dechrau brwsio ei got yn dyner.
    ‘Hoffet ti roi moronen i Sgryffi, Mali?’ gofynnodd Liwsi Jên.
    Petrusodd Mali i ddechrau, roedd hi’n teimlo ychydig yn nerfus. Ond, wedyn, fe nodiodd a dal y foronen yn ddewr, i’w chynnig i Sgryffi. Cymerodd Sgryffi’r foronen yn dyner gan Mali, ac ar ôl iddo ei bwyta, fe roddodd ei ben i lawr fel y gallai Mali roi mwythau iddo.
    ‘Mae Sgryffi’n dy hoffi di,’ meddai Liwsi Jên. ‘Mae o eisiau i ti roi mwythau iddo.’
    Mwythodd Mali ben Sgryffi’n dyner.
    ‘Hi-ho, hi-ho!’ meddai Sgryffi’n uchel, gan wneud i ddwy ferch roi naid fach a dechrau chwerthin.
    Dilynodd Sgryffi’r merched ar draws y buarth at y bwrdd picnic lle’r oedd mam Liwsi Jên wedi gosod y diodydd a’r bisgedi. Roedd y merched bach yn sgwrsio wrth fwyta’u bisgedi, ac roedd y ddwy fam yn ymuno yn y sgwrs hefyd.
    ‘Wyddoch chi be, Mam?’ meddai Mali. ‘Fe wnes i roi moronen i Sgryffi ac fe gefais i roi mwythau i’w drwyn. Roedd o’n gynnes ac yn esmwyth!’
    Yn sydyn, fe gododd Liwsi Jên ar ei thraed yn gyffrous.
    ‘Mae gen i syniad!’ dywedodd. ‘Fyddai Mali’n hoffi cael reid ar gefn Sgryffi?’
    ‘O, Mam!’ gwaeddodd Mali. ‘Ga i, plîs? Fe fydda i’n ofalus!’
    ‘Mae Sgryffi yn anifail tyner iawn,’ meddai mam Liwsi Jên. ‘Dwi’n meddwl y byddai Mali’n ddigon diogel.’
    Nodiodd mam Mali. ‘Pam lai?’ dywedodd, gan godi ar ei thraed a mynd at Mali i’w chodi o’r gadair olwyn a’i rhoi ar gefn Sgryffi.
    ‘Gafael yn dynn!’ ddywedodd Liwsi Jên wrth iddi arwain Sgryffi’n araf o gwmpas y buarth.
    Dechreuodd Mali chwerthin a rhoi mwy o fwythau i Sgryffi. Roedd Liwsi Jên yn chwerthin hefyd.
    ‘Dydw i ddim wedi gweld Mali mor hapus ers talwm,’ sibrydodd ei mam pan oedd y merched yr ochr arall i’r buarth. ‘Mae’n beth anodd cyrraedd ysgol newydd pan fyddwch chi’n adnabod neb yno. Mae Liwsi wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddi. Mae Liwsi a hithau’n ffrindiau da.’
    Gwenodd mam Liwsi Jên yn hapus. Roedd hi’n falch iawn o Liwsi Jên.
    ‘Mae Sgryffi’n ffrind arbennig hefyd,’ meddai wedyn, ac fe chwarddodd pawb wrth i Sgryffi ddweud ‘Hi-ho, hi-ho!’ yn uchel iawn!

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Mae stori yn y Beibl am ddyn nad oedd yn gallu cerdded, ond roedd rhai ffrindiau da iawn ganddo. Dydyn ni ddim yn gwybod enw'r dyn, ond ar gyfer heddiw, rydyn ni’n mynd i’w alw’n Joshua.

    Doedd Joshua ddim yn gallu cerdded. Un diwrnod, roedd yn gorwedd ar ei fat, yn teimlo’n drist, ac yn sydyn, fe ddaeth ei bedwar ffrind ato. Roedden nhw’n ymddangos yn llawn cyffro!
    ‘Rydyn ni wedi clywed bod Iesu’n dod i’r dre hon!’ dywedodd ei ffrindiau wrtho. ‘Rydyn ni wedi clywed bod Iesu wedi gallu gwella rhai pobl oedd ddim yn gallu cerdded, a gwneud iddyn nhw gerdded yn iawn. Rydyn ni am fynd â thi i’w weld o!’
    Mae'r ffrindiau yn codi mat Joshua a mynd â fo i'r ty lle'r oedd Iesu. Fodd bynnag, pan wnaethon nhw gyrraedd, roedd y ty lle yr oedd Iesu’n aros yn llawn o bobl. Edrychodd y ffrindiau ar ei gilydd yn drist ac yn ddiobaith. Beth fydden nhw’n gallu ei wneud?

    Gofynnwch i’r plant oes ganddyn nhw ryw syniadau.

    Mae'r ffrindiau’n cario Joshua yn ofalus ar ei fat i fyny'r grisiau y tu allan i'r ty ac i ben y to gwastad.

    Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei feddwl a fyddai’n digwydd nesaf

    Mae'r ffrindiau’n gwneud twll yn y to a gostwng Joshua ar ei fat drwy'r twll, nes ei fod yn gorwedd ar y llawr o flaen Iesu. Edrychodd Iesu i fyny drwy’r twll yn y to ar y pedwar ffrind a oedd yn sbecian drwy'r twll, ac fe wenodd. Yna, fe edrychodd i lawr ar Josua a dweud yn garedig, "Nid oes angen i ti fod yn anhapus, ddim mwy. Fe alli di godi ar dy draed, rholio dy fat, a cherdded.’

    Er syndod i bawb, fe neidiodd Joshua ar ei draed a dechrau cerdded. 'Diolch!' gwaeddodd, wrth iddo redeg allan o'r ty i ddod o hyd i’w ffrindiau. Rwy'n gobeithio eu bod wedi trwsio’r twll yn y to cyn iddyn nhw fynd adref i ddathlu!

Amser i feddwl

Roedd y bobl yn y stori hon o’r Beibl yn ffrindiau da. Fe arweiniodd eu cyfeillgarwch at ddigwyddiad rhyfeddol.

Mae cael ffrindiau’n beth gwych. Ond, weithiau, mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau, neu maen nhw’n cyrraedd lle newydd ac yn teimlo’n unig iawn.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r plant.

- Oes rhywun newydd yn eich dosbarth chi?
- Sut gallech chi eu helpu?
- Beth fyddech chi’n ei wneud pe byddech chi’n gweld rhywun sy’n amlwg yn teimlo’n unig ar fuarth chwarae’r ysgol?
- Oes rhywun y gallech chi ei helpu heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ein ffrindiau.
Diolch eu bod yn gallu gwneud i ni deimlo’n hapus pan fyddwn ni’n drist.
Diolch eu bod yn chwerthin gyda ni pan fyddwn ni’n hapus.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da i eraill.
Helpa ni i beidio byth ag anwybyddu eraill, ond ceisio meddwl am ffyrdd o’u cynnwys ym mhob peth y byddwn ni’n ei wneud.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon