Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y rhodd fwyaf a'r rhodd orau yn y byd

Y rhodd o gariad yw’r rhodd orau erioed

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried bod y rhodd o gariad yn fwy nag unrhyw rodd arall. (Gallai’r gwasanaeth hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth Nadolig.)

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd. Fe fydd un darllenydd yn chwarae rhan y Siopwr a’r darllenydd arall yn chwarae rhan y Cwsmer.
  • Fe fydd arnoch chi angen pedwar bocs sy’n amrywio o ran maint, o focs siocledi bach i focs oedd yn dal teclyn mawr fel oergell neu beiriant golchi.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen delwedd o olygfa Gwyl y Geni, a’r modd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth. Mae enghraifft ar gael ar :http://tinyurl.com/h2zusft

Gwasanaeth

Arweinydd:Wrth i'r Nadolig nesáu, mae pawb yn dechrau meddwl am brynu anrhegion. Mae'r siopau yn llawn o syniadau. Nid yw bob amser yn hawdd dewis yr anrhegion cywir, ond efallai y bydd y ddrama fach hon yn helpu.

Mae’r Siopwr yn sefyll y tu ôl i fwrdd pan ddaw’r Cwsmer i mewn.

Siopwr: Sut gallaf i eich helpu chi?

Cwsmer:Bore da. Mae arna i angen bocs i anfon parsel Nadolig. Roeddwn yn meddwl tybed a oedd gennych unrhyw hen focsys sbâr.

Siopwr:Oes yn wir mae gen i rai. Dydi’r lori casglu pethau i’w hailgylchu ddim yn galw tan ddydd Mercher nesaf, ac mae cymaint o nwyddau wedi dod i’r siop ar gyfer y Nadolig, mae yma ddigonedd o focsys gwag! Gadewch i mi weld beth sydd gen i.

Mae’r Siopwr yn dod â bocs bach, yr un sydd wedi bod yn dal siocledi efallai.

Siopwr:Tybed beth sydd wedi bod yn hwn?

Arweinydd: Gofynnwch i’r plant am awgrymiadau beth allai fod wedi bod yn y bocs o’r blaen.

Cwsmer:Diolch i chi, mae hwn yn focs defnyddiol iawn. Ond mae arna i ofn fy mod i’n chwilio am focs mwy i ddal fy anrheg.

Siopwr:Iawn. Beth am hwn?

Mae’r Siopwryn dod â bocs ychydig mwy o faint, bocs esgidiau efallai.

Siopwr:Beth am hwn? Nawr, beth allai fod wedi bod yn y bocs yma o’r blaen?

Arweinydd:Gadewch i’r plant wneud rhai awgrymiadau.

Cwsmer(yn ysgwyd ei ben):Diolch, mae hwn yn focs da hefyd. Ond na, mae hwn eto yn rhy fach.

Daw’r Siopwrâ bocs arall, mwy.

Siopwr:Beth am hwn ’te? Dyma focs cryf, da. Nawr, beth allai fod wedi bod yn y bocs yma o’r blaen.

Arweinydd:Gadewch i’r plant wneud rhai awgrymiadau.

Cwsmer:Mae’n ddrwg iawn gen i, ond mae hwn yn rhy fach hefyd.

Siopwr: Rhaid bod yr anrheg hon rydych chi am ei hanfon yn enfawr! Ond rydw i bob amser yn ceisio helpu rhywun sy’n gofyn am rywbeth! Iawn, rwy’n meddwl fy mod i wedi cael gafael yn yr union beth rydych yn chwilio amdano. Dyma’r bocs mwyaf sydd gen i yn y siop.

Daw’r Siopwrâ’r bocs mwyaf sydd ar gael i’r golwg.

Siopwr:Tybed beth allai fod wedi bod yn y bocs yma o’r blaen?

Arweinydd:Gadewch i’r plant wneud rhai awgrymiadau.

Cwsmer:Mae’n wir ddrwg gen i, ac rwy’n teimlo’n ofnadwy yn gorfod dweud hyn, ond mae hwn yn rhy fach hefyd!

Siopwr(yn edrych yn ddryslyd iawn):Iawn, allwch chi ddweud wrtha i pa faint yw’r bocs sydd gennych chi mewn golwg? Pa mor llydan mae’n rhaid iddo i fod? Efallai y bydd y plant yn gallu ein helpu.

Arweinydd: Gwahoddwch rai plant i ddod i'r blaen. Gofynnwch iddyn nhw afael yn nwylo ei gilydd ac ymestyn allan ar draws yr ystafell.

Siopwr:Fyddech chi’n hoffi cael bocs sydd mor llydan â hyn, tybed?

Cwsmer(yn ysgwyd ei ben):Na, mewn gwirionedd, fe fyddai angen i’r bocs fod yn lletach na’r ystafell.

Siopwr:O, felly! A pha mor uchel y byddai’n rhaid iddo fod?

Arweinydd: Gwahoddwch blentyn i ddod ymlaen a sefyll ar flaenau ei draed i ymestyn yn dal iawn.

Cwsmer:Wel, a dweud y gwir, fe fyddwn i angen bocs sy’n llawer talach na hyn hefyd.

Arweinydd:Gwahoddwch oedolyn i ddod ymlaen a sefyll ar flaenau ei draed i ymestyn yn dal iawn.

Siopwr:Beth am yr uchder yma?

Cwsmer:Na, rhaid iddo fod yn uwch! O ie, fe wnes i anghofio dweud: mae’r anrheg hon i bawb yn y byd . . . felly fe fydda i angen llawer iawn o focsys!

Siopwr:Ga’ i ofyn beth yw’r anrheg hon?

Cwsmer:Wel, tybed oes rhai o’r plant yn gallu eich helpu i ddyfalu.

Siopwr:Beth sy’n anrheg y gallwch chi ei lledaenu i bawb sydd yn y byd?

Cwsmer:Rhodd na fydd mewn gwirionedd yn ffitio i unrhyw focs, ond sy’n bwysicach nag unrhyw un o’r anrhegion y byddwn ni’n eu derbyn y Nadolig hwn . . .

Siopwr:Rhodd rydyn ni’n meddwl amdani yn neilltuol ar adeg y Nadolig.

Arweinydd: Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Y rhodd y mae'r Cwsmer yn sôn amdani yw'r anrheg o gariad. Mae'r Nadolig yn amser pan fyddwn ni’n rhoi anrhegion i bobl rydyn ni’n hoff ohonyn nhw. Mae'n adeg pan rydyn ni’n mwynhau bod yng nghwmni'r bobl hynny rydyn ni’n eu caru a’r rhai sy'n ein caru ninnau. Fodd bynnag, mae’r Nadolig hefyd yn amser i feddwl am y byd ehangach, ac i ystyried sut y gallwn ni ddangos cariad at y rhai mewn angen.

Amser i feddwl

Mae Cristnogion yn credu bod y Nadolig yn amser arbennig i gofio fod Duw wedi dangos ei gariad tuag at y byd drwy anfon y baban Iesu i’r byd. Maen nhw’n credu mai mab Duw yw Iesu, a anfonwyd i’r byd o'r nef.

Dangoswch ddelwedd o olygfa Gwyl y Geni, ar gael ar:http://tinyurl.com/h2zusft

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am dy rodd arbennig, sef y baban Iesu.
Diolch i ti am ein caru ni.
Diolch i ti am ddangos dy gariad tuag atom ni.
Helpa ni i ddangos cariad adeg y Nadolig hwn.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw garol Nadolig.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon