Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Angylion ar adeg y Nadolig

Ydych chi’n credu mewn angylion?

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried yr angylion yn stori'r Nadolig fel negeseuwyr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pum cerdyn mawr gyda'r geiriau canlynol wedi eu hargraffu arnyn nhw.

    - Cerdyn 1: Mae angel yn ymweld â Sachareias ac yn dweud wrtho fod ei wraig, Elisabeth, a oedd yn gyfnither i Mair, yn mynd i gael babi.
    - Cerdyn 2: Mae angel yn ymweld â Mair ac yn dweud wrthi ei bod hi’n mynd i gael babi.
    - Cerdyn 3: Mae angel yn ymweld â Joseff ac yn dweud wrtho y dylai briodi Mair yr un fath gan fod ei babi wedi cael ei anfon gan Dduw.
    - Cerdyn 4: Mae grwp o angylion yn dweud y newyddion da wrth y bugeiliaid am eni’r baban Iesu.
    - Cerdyn 5: Mae angel yn rhybuddio Joseff fod y Brenin Herod eisiau niweidio’r baban Iesu, ac yn dweud wrth Joseff am ddianc i’r Aifft gyda Mair a Iesu.
  • Fe fydd arnoch chi angen y delweddau canlynol o angylion, a'r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:

    - ymddangosiad yr Angel Gabriel i Mair (The Annunciation) gan Henry Ossawa Tanner, ar gael ar:http://tinyurl.com/zvatw9a
    - ymddangosiad yr Angel Gabriel i Mair (The Annunciation) gan John Collier, ar gael ar:http://tinyurl.com/gv9cpqk
    -The Annunciationof the Angels to the Shepherds gan Benjamin Gerritz, ar gael ar:http://tinyurl.com/hsktwlo
    - The Angel Gabriel Appearing to the Shepherdsgan Alfred Morgan, ar gael ar:http://tinyurl.com/jh3xklr

Gwasanaeth

  1. Atgoffwch y plant fod y Nadolig ar ei ffordd! Gofynnwch i rai ohonyn nhw rannu'r hyn maen nhw’n ei hoffi fwyaf am adeg y Nadolig.

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i ofyn tri chwestiwn yr hoffech chi i'r plant eu trafod gyda'r rhai sy’n eistedd wrth eu hymyl.

    - Ydych chi’n credu mewn angylion?
    - Beth ydych chi’n ei feddwl fyddai angylion yn ei wneud?
    - Sut rai ydych chi’n meddwl yw angylion i edrych arnyn nhw?

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymateb y plant.

  3. Mae llawer o grefyddau yn sôn am angylion. Mae Cristnogion yn credu mai negeswyr arbennig Duw yw angylion ac, yn stori'r Nadolig, mae angylion yn dod â negeseuon arbennig i wahanol bobl.

    Gofynnwch i bump o blant ddod i'r blaen a rhoi cerdyn bob un iddyn nhw ar hap. Gofynnwch i'r plant sefyll mewn llinell yn y drefn gronolegol gywir ar gyfer y digwyddiadau hyn o stori'r Nadolig.

  4. Mae nifer o ffyrdd y gallem anfon neges i rywun, fel dros y ffôn, drwy lythyr neu neges destun, neu ar Facebook. Yn stori'r Nadolig, angylion oedd y negeseuwyr a ddaeth â newyddion annisgwyl iawn!

  5. Yn gyntaf, fe wnaeth angel o’r enw Angel Gabriel ymddangos i ddyn o’r enw Sachareias i ddweud wrtho fod ei wraig, Elisabeth, yn mynd i gael babi. Roedd hynny’n syndod mawr, yn enwedig o gofio bod Elisabeth erbyn hynny’n hen wraig! Roedd Elisabeth yn gyfnither i Mair.

    Yn ail, fe ymddangosodd yr Angel Gabriel i Mair a dweud wrthi ei bod hi’n mynd i gael babi a anfonwyd gan Dduw. Roedd hyn yn syndod gan fod Mair yn ifanc iawn, ac nid oedd wedi priodi eto. Geiriau tebyg i hyn oedd neges yr angel: 'Helo, Mair! Rwyt ti’n yn ferch ifanc anrhydeddus iawn - mae'r Arglwydd gyda thi! Paid ag edrych mor ofnus - mae gan Dduw waith arbennig ar dy gyfer di. Rwyt ti’n mynd i gael babi, a Iesu fydd ei enw. Bydd hefyd gael ei alw yn Fab y Goruchaf. Fe fydd Duw yn ei wneud yn frenin, fel ei hynafiad, Dafydd, ond fe fydd yn frenin arbennig y mae ei deyrnas yn mynd ymlaen am byth. Rwy’n gwybod nad wyt ti’n briod eto, ond bydd Ysbryd Glân Duw yn dod arnat ti a bydd dy fabi bach yn Fab Duw. Os yw hyn yn ymddangos yn amhosibl, mae gen i rywbeth arall i ddweud wrthyt ti: mae dy gyfnither Elisabeth, sy'n hen iawn, hefyd yn feichiog! Gyda Duw, nid oes dim yn amhosibl!’

    Yn drydydd, fe ymddangosodd angel i Joseff, a dweud wrtho am briodi Mair a gofalu amdani hi a’i babi bach.

    Yn bedwerydd, ymddangosodd nifer fawr o angylion i griw o fugeiliaid ar ochr bryn y tu allan i Fethlehem, a chyhoeddi bod y baban Iesu wedi cael ei eni. Mae'r bugeiliaid yn ofnus ar y dechrau, ond ar ôl i’r angylion ddiflannu, fe wnaeth y bugeiliaid fynd ar frys i ddod o hyd i'r baban newydd-anedig.

    Yn bumed, ymddangosodd angel eto i Joseff, gan ddweud wrtho fod angen iddyn nhw redeg i ffwrdd i'r Aifft, oherwydd bod y Brenin Herod eisiau niweidio’r baban Iesu. Gwnaeth Joseff yr hyn a ddywedodd yr angel, a wnaethon nhw ddim dychwelyd adref tan ar ôl i Herod farw, a hwythau’n sicr erbyn hynny y byddai Iesu’n ddiogel.

Amser i feddwl

Mae angylion yn chwarae rôl allweddol yn stori'r Nadolig. Mae llawer o bobl wedi ceisio cyfleu ymddangosiad angylion mewn peintiadau.

Dangoswch y delweddau canlynol o’r Forwyn Fair a’r Angel Gabriel:

- The Annunciation gan Henry Ossawa Tanner, ar gael ar :http://tinyurl.com/zvatw9a
-The Annunciation ganJohn Collier, ar gael ar:http://tinyurl.com/gv9cpqk

Gofynnwch i'r plant edrych ar y lluniau am foment, ac ystyried pa un maen nhw’n ei hoffi orau, a pham.

Efallai yr hoffech chi wrando ar ymateb rhai o’r plant.

Dangoswch y delweddau canlynol o’r bugeiliaid a’r angylion:

The Annunciationof the Angels to the Shepherds gan Benjamin Gerritz, ar gael ar :http://tinyurl.com/hsktwlo
TheAngel Gabriel Appearing to the Shepherds gan Alfred Morgan, ar gael ar :http://tinyurl.com/jh3xklr

Gofynnwch i'r plant edrych ar y lluniau am foment, ac ystyried pa un maen nhw’n ei hoffi orau, a pham.

Efallai yr hoffech chi wrando ar ymateb rhai o’r plant.

Ydych chi'n credu mewn angylion? Wel, pa un ai ydych chi’n credu ynddyn nhw ai peidio, maen nhw’n sicr yn chwarae rhan allweddol yn stori’r Nadolig, a byddwn i gyd yn gweld addurniadau ar ffurf angylion yn addurno coed Nadolig yn ystod yr wythnosau nesaf hyn!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y neges arbennig y gwnaeth yr angel ei rhoi i Mair.
Diolch i ti am anfon Iesu i’r byd.
Helpa ni i gofio Iesu yn ein holl ddathliadau y Nadolig hwn.
Amen.

Cerddoriaeth ychwanegol

The angel Gabriel’ gan Chrissy Pepper (Thankyou Music, 2003, ar y CD‘It’s Christmas!’ wedi ei rhyddhau gan Children’s Ministry)

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon