Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Syndod mawr i bawb

Roedd y Nadolig cyntaf un yn syndod mawr!

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio'r syniad fod dyfodiad Iesu wedi bod yn syndod mawr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai neu bob un o'r pethau canlynol: hosan Nadolig, cracer Nadolig, anrheg wedi ei lapio, calendr Adfent a bag twba lwcus.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw, ryw dro, wedi cael syndod mawr. Gofynnwch i un neu ddau o blant ddweud wrthych chi am eu syrpreis, neu am ryw ddigwyddiad a barodd syndod mawr iddyn nhw. Os yn bosibl, efallai y gallech chi rannu gyda nhw hanes am syrpreis mawr gawsoch chi ryw dro.

  2. Dangoswch y gwrthrychau sydd gennych chi i'r plant, un ar y tro, a gofyn sut mae pob un yn gysylltiedig â syrpreis. Er enghraifft, bydd yr hosan Nadolig yn llawn o bethau annisgwyl ar fore Nadolig; rhaid i chi dynnu'r cracer i ddod o hyd i syrpreis bach a jôc y tu mewn; fyddwch chi ddim yn gwybod beth sydd yn yr anrheg nes byddwch chi’n ei agor, ac felly bydd hynny'n syndod hefyd, o bosib.

  3. Eglurwch fod y Nadolig yn amser gwych i gael syrpreisys, ond mae Cristnogion yn credu bod y cyfan wedi dechrau gyda syrpreis gan Dduw. Roedd y genedl Iddewig wedi credu ers amser maith fod Duw yn mynd i anfon brenin mawr ac arweinydd i’r byd. Ond wnaeth Duw ddim anfon brenin mawr cyfoethog i’r byd; yn lle hynny, fe anfonodd faban bach a gafodd ei eni i bobl gyffredin, dlawd – dyna i chi beth oedd syndod!

  4. I lawer o bobl, roedd y syniad o Dduw yn anfon baban bach tlawd i’r byd yn ymddangos mor annhebygol fel nad oedden nhw’n credu y gallai Iesu fod yn rhywun arbennig yr oedd Duw wedi ei anfon. Fodd bynnag, mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi cael ei anfon gan Dduw i ddangos faint mae Duw yn ein caru ni. Dyna pam y maen nhw’n credu bod y Nadolig yn amser i ddathlu.

  5. Darllenwch y gerdd hon neu gofynnwch i un o’r plant wneud hynny.

    Syndod, syndod!
    Ddim yr hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl . . .
    Eich car newydd wedi ei wneud o beli,
    Eich cath yn gwisgo ’sgidiau,
    Eich pensiliau wedi troi’n jeli,
    A’ch athrawon wedi troi’n gypyrddau!
    Yr ysgol yn hedfan ymhell i ffwrdd,
    Eich mam â choesau cennin.
    Mae’r lleuad o dan eich bwrdd,
    a’r gadair yn canu yn y gegin!
    . . . ac a yw’r baban a anwyd mewn stabl, i gwpwl di-nod, yn wir yn frenin?

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu cofio rhai o’r pethau doniol yn y gerdd oedd yn peri syndod. Efallai yr hoffech chi ail ddarllen y darn.

Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am syndod neu syrpreis maen nhw wedi ei gael yn y gorffennol, neu am ryw syrpreis yr hoffen nhw ei gael yn y dyfodol!

Atgoffwch y plant bod y Nadolig yn llawr syrpreisys, ond gadewch i ni beidio ag anghofio’r syrpreis neu’r syndod roddodd ddechrau i ddathliadau’r Nadolig . . . y baban Iesu!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am syrpreisys o bob math.
Diolch am anrhegion ac am y pleser o roi a derbyn
Diolch i ti am y syrpreis Nadolig cyntaf – y baban Iesu!
Yng nghanol yr holl hwyl eleni, helpa ni i aros a chofio am funud beth yw gwir ystyr y Nadolig.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw garol Nadolig.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon