Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Argyfwng ar adeg y Nadolig

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y mater o ddigartrefedd, gyda phwyslais arbennig ar waith Crisis, yr elusen ym Mhrydain ar gyfer y rhai sy’n ddigartref.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o’r gwahanol dai a gofynnwch i'r plant enwi pob math o dy. Nodwch fod y cyfan o'r tai yn wahanol, ond maen nhw’n dal i fod yn gartref i rywun. Gofynnwch i'r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am unrhyw fathau eraill o dai y gallai rhywun fyw ynddo, yn unrhyw le yn y byd.

  2. Eglurwch fod cartrefi pawb â rhywbeth yn arbennig yn eu cylch. Gofynnwch i'r plant rannu rhywbeth y maen nhw’n arbennig o hoff ohono ynghylch eu cartref eu hunain neu gartref rhywun sy'n agos atyn nhw.

  3. Atgoffwch y plant fod y Nadolig yn nesu! Gofynnwch pa newidiadau a fydd yn amlwg yn ein tai, y tu allan i’n tai ac mewn gerddi, yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at y Nadolig. (Byddai enghreifftiau’n cynnwys coeden Nadolig, addurniadau a goleuadau.)

    Pa newidiadau fydd yn ein tai ar Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig? (Ymhlith yr enghreifftiau mae hongian hosanau neu gasys gobennydd, anrhegion, bwydydd arbennig ar gyfer y Nadolig, cracers, hetiau ffansi, ymwelwyr a gemau parti.)

  4. Nawr, gofynnwch i'r plant sut beth maen nhw'n ei feddwl a fyddai'r sefyllfa pe na byddai ganddyn nhw unrhyw fath o gartref i fyw ynddo, neb i wneud eu bwyd, nac unrhyw un i siarad â fo ar ddiwrnod y Nadolig, nac unrhyw un i roi anrhegion iddo ef neu hi ychwaith.

    Eglurwch fod miloedd o bobl, yn y DU, nad oes ganddyn nhw unrhyw fath o gartref i fyw ynddo. Mae rhai o’r bobl ddigartref hyn yn cysgu ar feinciau mewn parciau, neu yn ymyl drysau siopau. Mae rhai yn symud o dref i dref i ddod o hyd i lochesi y gallan nhw gysgu ynddyn nhw.

  5. Mae nifer o elusennau sy'n ceisio helpu’r bobl hyn, a’r elusen o’r enw Crisis yw un o'r rhai mwyaf. Mae gan Crisis ddau nod: yn gyntaf, helpu i atal pobl rhag bod yn ddigartref, ac yn ail, pan fydd pobl yn ddigartref, i drawsnewid eu bywydau drwy eu helpu i gael swyddi, a dod o hyd i leoedd i fyw ynddyn nhw.

  6. Eglurwch fod y Nadolig yn amser arbennig o drist i bobl sy’n ddigartref. Er bod y rhan fwyaf ohonom yn mwynhau amser gyda'n teuluoedd, gall pobl sy’n ddigartref deimlo'n arbennig o unig. Dyma pam mae Crisis yn rhedeg prosiect arbennig o'r enw Crisis at Christmas, sydd ar gyfer pobl sy’n ddigartref mewn gwahanol rannau o Brydain.

  7. Mae Crisis at Christmas yn darparu bwyd, cynhesrwydd, cyngor a chyfeillgarwch ynghyd â mynediad at wasanaeth deintyddion, optegwyr, arbenigwyr gofal iechyd, siopau trin gwallt, ac yn y blaen.

    Eleni, mae paratoadau’n cael eu cwblhau ar gyfer bron i 3,000 o bobl i dreulio wythnos y Nadolig (o 23 i 30 Rhagfyr) mewn saith canolfan Crisis. Mae hyn yn costio llawer iawn o arian ac yn gofyn am lawer o wirfoddolwyr, ond mae'n galluogi llawer o bobl ddigartref i gael Nadolig hapusach.

  8. Os yn briodol, efallai yr hoffech chi egluro y bydd cyfle i helpu gwaith Crisis. Neu, efallai yr hoffech chi gyfrannu at waith y banc bwyd lleol - mae'r rhan fwyaf o drefi erbyn hyn wedi sefydlu banc bwyd (gwelwchhttp://www.fareshare.org.uk/).

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant gau eu llygaid a meddwl am eu hoff ran o'r Nadolig.

Saib i feddwl.

Sut mae hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo? (Efallai y byddwch yn dymuno gofyn i'r plant ddangos sut maen nhw’n teimlo mewn gweithred neu ystum syml - tra bod pawb yn cadw eu llygaid ar gau!)

Nawr, gofynnwch iddyn nhw ddychmygu Nadolig lle y maen nhw ar ben ei hunain heb unrhyw un i ofalu amdanyn nhw. (Efallai y byddech chi’n hoffi iddyn nhw ddangos yr emosiwn hwn mewn rhyw ffordd hefyd.)

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein teuluoedd a’r rhai sy’n gofalu amdanom.
Diolch fod gennym ni gartrefi i fyw ynddyn nhw lle gallwn ni fod yn ddiogel a chynnes.
Gweddïwn dros y rhai hynny sy’n ddigartref.
Bydd di gyda’r rhai sy’n gweithio i elusennau fel Crisis, wrth iddyn nhw geisio gwneud y Nadolig yn amser hapusach i bobl sy’n ddigartref.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon