Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhoi nod sialc ar y drws

Ystyried Gwyl yr Ystwyll

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y traddodiad o 'sialcio'r drws' yn ystod Gwyl yr Ystwyll.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bwrdd du a darn o sialc. Fe fyddwch yn defnyddio’r rhain yn ystod y gwasanaeth i ysgrifennu‘20 + C + M + B + 17’a’r geiriau Lladin ‘Christus mansionem benedicat’, sy’n golygu ‘Boed i Grist fendithio’r ty hwn’.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant a gawson nhw ymwelwyr i'w cartrefi dros y Nadolig. Gofynnwch sut y byddai modd iddyn nhw groesawu pobl sy'n ymweld â'u cartrefi.

    Gwrandewch ar amryw o awgrymiadau.

  2. Gofynnwch i'r plant ddychmygu bod ymwelwyr pwysig iawn yn dod heibio, fel y Frenhines, y Tywysog William neu'r Prif Weinidog. Pa ddarpariaethau fyddai'n debygol o gael eu gwneud? Gofynnwch iddyn nhw sut y bydden nhw'n teimlo, pan fyddai'r gwahoddedigion yn cyrraedd, a rhywun yn eu tywys yn syth i'r sied ardd anniben, a fyddai'n fydr ac yn llawn llwch a chorynnod!

  3. Eglurwch mai rhywbeth tebyg i hyn oedd hi ar yr ymwelwyr brenhinol a aeth i chwilio am frenin newydd ym Methlehem flynyddoedd lawer yn ôl. Atgoffwch y plant o stori'r Nadolig – am enedigaeth Iesu mewn stabl a'r ymweliad gan y bugeiliaid. Eglurwch, rywdro ar ôl genedigaeth Iesu, fe ddaeth nifer o ymwelwyr pwysig iawn i chwilio am y baban. Mae'r Beibl yn dweud wrthym mai tri o ddoethion adnabyddus a pharchus o'r Dwyrain oedd y rhain, a oedd wedi dilyn seren wrth iddyn nhw chwilio am faban. Mae'n rhaid eu bod nhw'n ddynion cyfoethog oherwydd fe wnaethon nhw gario anrhegion drudfawr i'w rhoi i’r brenin newydd. Roedden nhw wedi mynd gyntaf oll i'r palas yn Jerwsalem oherwydd yn y fan honno yr oedden nhw'n disgwyl i frenin gael ei eni. Yn y palas, fe fydden nhw wedi cael eu croesawu â'r bwyd a'r gwin gorau gan Frenin Herod, ond wnaethon nhw ddim cael hyd i dywysog o frenin yno. Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod, er derbyn croeso mawreddog, fod Herod mewn gwirionedd yn cynllwynio i niweidio'r baban.

  4. Mae rhai pobl yn meddwl fod Mair a Joseff wedi symud i letya yng nghartref rhywun yn fuan ar ôl i'r baban Iesu gael ei eni. Fodd bynnag, pa un ai os gwnaethon nhw barhau i aros yn y stabl neu mewn ystafell, dydy hynny ddim yn bwysig - fe fyddai'r lle y gwnaethon nhw aros wedi bod yn wahanol iawn i balas Herod! Gofynnwch i'r plant ddychmygu sut y byddai'r doethion yn teimlo wrth ymadael ag ysblander y palas a chyrraedd y stabl neu'r ty lle'r oedd Mair, Joseff a’r baban Iesu yn lletya. Rhaid eu bod nhw wedi eu synnu'n enfawr fod brenin yn byw yn y fath le! 

  5. Gofynnwch i'r plant ddychmygu bod y tri gwr doeth yn curo ar y drws. Efallai mai Joseff agorodd y drws iddyn nhw a'u croesawu i mewn a dangos iddyn nhw ymhle roedd y baban Iesu'n cysgu. Dychmygwch eu bod yn mynd i lawr ar eu gliniau i offrymu eu rhoddion i'r baban.

  6. Eglurwch fod 6 Ionawr yn cael ei adnabod fel Nos Ystwyll neu'r Ystwyll. Mae'n coffáu ymweliad y doethion â'r baban Iesu. Mewn llawer o wledydd, bydd Cristnogion yn cyflawni act symbolaidd er mwyn cofio am ymweliad y doethion. Un ffordd y maen nhw'n gwneud hyn yw trwy 'sialcio'r drws'. 

  7. Eglurwch y bydd rhai Cristnogion, eleni, yn ysgrifennu‘20 + C + M + B + 17’mewn sialc uwchben y drws yn eu cartref.

  8. Defnyddiwch y bwrdd du a’r sialc i ysgrifennu‘20 + C + M + B + 17’.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n gallu dyfalu beth tybed yw ystyr yr ysgrifen hon.
    Eglurwch fod y rhifau sydd mewn sialc yn golygu'r flwyddyn: 2017.

    Mae dau ystyr i’r llythrennau.
    - Dyma lythrennau cyntaf enwau traddodiadol y Sêr Ddewiniaid/Doethion: Caspar, Melchior a Balthasar.
    - Maen nhw hefyd yn dalfyriad o'r geiriau Lladin, ‘Christus mansionem benedicat’.

    Holwch y plant ydyn nhw’n gallu dyfalu beth yw ystyr y geiriau Lladin hyn.

    Eglurwch eu bod yn golygu, ‘Boed i Grist fendithio’r ty hwn’.

  9. Gwahoddiad i Dduw gan berchen y ty yw'r ‘Bendith Ystwyll ar y cartref’. Mae'n golygu ‘Tyrd i ymuno â'n teulu ni yn ein cartref. Gofala amdanom ac am bawb sy'n dod i mewn ac allan o'r ty hwn, a chynnal ni os gweli di'n dda.’

Amser i feddwl

Fyddech chi’n hoffi ysgrifennu‘20 + C + M + B + 17’uwchben eich drws ffrynt chi?

Dychmygwch pe bydden ni’n ysgrifennu hyn uwchben drws yr ysgol.

Pa wahaniaeth y gallai hynny ei wneud i fywyd yr ysgol?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti eisiau rhannu ein bywydau â ni.
Rydyn ni’n ddiolchgar dy fod ti’n hapus i fyw yn y math symlaf o gartref.
Gwylia drosom ni a bendithia ein teuluoedd, ein hysgol, a phawb sy’n ymweld â ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon