Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dysgu oddi wrth Deyrnas yr Anifeiliaid – Eliffantod

Y gyntaf mewn cyfres o bedair rhan am wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth deyrnas yr anifeiliaid

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried rhinweddau rhyfeddol eliffantod, a thynnu sylw at y ffaith eu bod yn anifeiliaid sydd mewn perygl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae cynnwys y gwasanaeth hwn wedi cael ei wirio gan Sw Whipsnade. Mae rhagor o wybodaeth am y Sw ar gael ar:https://www.zsl.org/

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth gyda rhai ffeithiau sylfaenol am eliffantod.

    Mae dau brif rywogaeth o eliffantod: eliffantod Affricanaidd ac eliffantod Asiaidd. Mae'r rhain yn rhannu'n isrywogaethau hefyd, fel eliffantod coedwig ac eliffantod pigmi Borneo.

    Dangoswch y delweddau o'r eliffantod Asiaidd ac Affricanaidd a gofynnwch i'r plant ydyn nhw’n gallu nodi’r gwahaniaethau. (Efallai y byddwch yn dymuno ailadrodd hyn gyda'r isrywogaethau, hefyd.)
  2. Caiff eliffantod Affricanaidd eu hystyried yn rhywogaeth sy'n agored i niwed ac mae eliffantod Indiaidd yn cael eu hystyried yn rhywogaethau sydd mewn perygl. Mae hyn yn golygu bod niferoedd eu poblogaeth wedi gostwng, ac mae’r rhywogaethau mewn peryg o ddiflannu oherwydd rhesymau amrywiol.

(Paragraff dewisol: un achos pryder yw bod eliffantod yn cael eu hela ar gyfer eu hysgithrau (tusks). Blaenddannedd yr eliffant yw’r rhain, y bydd yr eliffantod yn eu defnyddio ar gyfer amddiffyn, er mwyn palu’r tir i chwilio am ddwr, a’u defnyddio i godi pethau. Mae’r ysgithrau wedi cael eu gwneud o ifori, a gellir gwerthu’r deunydd hwn am lawer o arian.)

  1. Mae eliffantod yn anifeiliaid hynod. Pe bydden nhw’n diflannu oddi ar wyneb y Ddaear fe fyddai’n golled fawr i'r byd. Oeddech chi'n gwybod eu bod yn gallu clywed seiniau drwy eu traed? Maen nhw’n gallu clywed murmuron is-sonig o fewn y ddaear drwy ddirgryniadau yn y ddaear, ac maen nhw’n gallu synhwyro taranau hefyd fel hyn. Oeddech chi'n gwybod bod gan eliffantod lygaid bach iawn a bod eu golwg yn wael iawn, ond bod ganddyn nhw synnwyr arogli anhygoel? Ac mae’n debyg eich bod yn gwybod bod cof ardderchog gan eliffant a chof hir hefyd.

  2. Ochr yn ochr â'r nodweddion ffisegol diddorol hyn, mae eliffantod yn arddangos ymddygiad rhyfeddol mewn ffyrdd eraill hefyd. Maen nhw’n arddangos bondio datblygedig a chymhleth rhwng aelodau'r teulu ac eliffantod eraill sydd ddim yn perthyn i’w teulu hefyd. Maen nhw’n dangos tosturi ac yn gallu gofalu mewn gwahanol ffyrdd, gyda'r eliffantod hyn, mwy profiadol yn trosglwyddo sgiliau bywyd i'r genhedlaeth nesaf. (Efallai y byddwch yn dymuno dangos un o'r fideos ar y pwynt hwn.)

  3. Mae’n bosib i fuches eliffantod gynnwys hyd at 12 eliffant, ac mae’r fuches yn cael ei harwain gan y fenyw ddoethaf a'r hynaf. Hi yw’r pennaeth benywaidd, y ‘mhatriarch’. Mae'r fuches yn dibynnu arni i arwain y lleill a gwneud penderfyniadau ar bob achlysur. Mae hi'n cymryd y rôl arweiniol nid trwy ymddygiad ymosodol neu oherwydd ei chryfder corfforol neu ei maint, ond trwy ennill parch yr eliffantod eraill drwy arddangos sgiliau fel y gallu i ddatrys problemau, dangos tosturi, deallusrwydd cymdeithasol, bod yn agored,  a dangos pendantrwydd, amynedd a hyder.

  4. Mae’r eliffantod hyn yn fodelau rôl ar gyfer eliffantod iau er mwyn dysgu sgiliau cymdeithasol. Maen nhw’n dysgu ymddwyn yn briodol â'i gilydd. Er enghraifft, mae menywod ifanc yn dysgu sgiliau sut i fod yn fam drwy ofalu am fabanod eliffantod o famau eraill. Pan fydd eliffant benyw ifanc yn cael eliffant bach am y tro cyntaf, bydd y mamau mwy profiadol yn ei helpu i ymdopi â gofynion corfforol yr enedigaeth. Yn yr un modd, bydd eliffantod gwryw yn fodelau rôl i eliffantod gwrywaidd iau wrth fondio â nhw trwy chwarae. At ei gilydd, mae eliffantod yn dangos ymdeimlad o gymuned, yn cysylltu â'i gilydd trwy gyfathrebu a rhannu gwybodaeth. Dydyn nhw ddim yn goddef ymddygiad gwael ac fe fyddan nhw’n ceryddu aelodau iau os ydyn nhw’n mynd dros ben llestri.

  5. Bydd eliffantod yn helpu eliffantod eraill a fydd mewn trafferthion hefyd. Mae’n ffaith eu bod yn aml yn achub eliffantod ifanc sydd wedi mynd yn sownd mewn mwd ac ati, ac fe fydd eliffantod benywaidd eraill yn mabwysiadu babanod eliffant sy’n amddifad. Maen nhw hefyd yn galaru am aelodau a gollwyd o’r fuches, gan ddangos ymlyniad dwfn at eliffantod eraill. (Efallai y byddwch am ddangos un arall o'r fideos ar y pwynt hwn.)

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am yr eliffantod, ac am y rhinweddau y maen nhw’n eu harddangos.

Mae eliffantod yn arddangos amynedd wrth iddyn nhw helpu pobl eraill, tosturi wrth iddyn nhw ofalu am ei gilydd a pharch tuagat bob aelod o'r fuches. Wrth ystyried y pethau hyn, mae eliffantod yn ein hatgoffa o'r effaith y gallwn ni ei chael ar ein gilydd.

Mae eliffantod yn dangos ymdeimlad o gymuned ardderchog, a chyfrifoldeb cymdeithasol tuag at ei gilydd drwy rannu gwybodaeth er lles, ac mae hyn yn dangos eu deallusrwydd cynhenid. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda'i gilydd fel tîm er lles, er mwyn amddiffyn ei gilydd rhag ysglyfaethwyr ac er mwyn cytgord cymdeithasol.

Ailadroddwch y geiriau sydd mewn prin trwm yn y paragraff uchod.

Oedwch ar ôl pob un o'r cwestiynau canlynol er mwyn rhoi cyfle i’r plant feddwl.

- Pa rai o'r nodweddion hyn rydyn ni’n eu dangos yn ein bywydau ein hunain?
- A allwn ni ddysgu oddi wrth yr eliffantod a dilyn eu hesiampl?
-Sut y gallwn ni weithio i ddiogelu’r anifeiliaid anhygoel hyn?

Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r byd rhyfeddol hwn rydyn ni’n byw ynddo a'r ddyletswydd sydd arnom ni er mwyn i ni allu cadw’r Ddaear ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y byd rydyn ni’n byw ynddo, ac am yr holl anifeiliaid rhyfeddol.
Gad i ni ddysgu gwerthfawrogi’r Ddaear a phopeth sy’n gysylltiedig â’r blaned.
Helpa ni ddysgu oddi wrth greaduriaid fel yr eliffant.
Helpa ni i fod yn garedig a thosturiol.
Helpa ni i fod yn chwaraewyr tîm sy’n ystyried anghenion pobl eraill.
Helpa ni i werthfawrogi’r gymuned sydd o’n cwmpas ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon