Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

O fes bach

O fes bach mae coed derw mawr yn tyfu

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i gredu y gallwn wneud pethau mawr, hyd yn oed er ein bod yn dal i fod yn blant.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi rai delweddau o fes a choeden dderw fawr, a'r modd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth:

    - mes, ar gael ar:http://tinyurl.com/zwzzgd8
    - coeden dderw, ar gael ar:http://tinyurl.com/goexg8d
  • Bydd angen i chi hefyd lapio dau barsel. Dylai un parsel fod yn fawr ac wedi ei lapio’n hardd mewn papur disglair gyda rhubanau, ond yn cynnwys dim ond un da-da neu losinen. Dylai'r parsel arall fod wedi cael ei lapio’n anniben mewn hen amlen neu bapur disylw, ond fe fydd hwn yn cynnwys pecyn cyfan o felysion.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o’r mes.

    Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod beth mae’r ddelwedd yn ei ddangos.

    Gofynnwch iddyn nhw ydyn nhw wedi clywed y dywediad, ‘O fes bach mae coed derw mawr yn tyfu’, neu yn Saesneg ‘Great oaks from little acorns grow’. Gofynnwch beth maen nhw'n feddwl y gallai'r dywediad fod yn ei olygu. Awgrymwch ei fod yn ôl pob tebyg yn golygu y gall pethau mawr ddod o ddechreuadau bach.

    Dangoswch y ddelwedd o’r goeden dderw.

    Eglurwch mai thema’r gwasanaeth heddiw yw, ‘O fes bach mae coed derw mawr yn tyfu’.

  2. Gofynnwch am ddau wirfoddolwr i ddewis anrheg i’w hagor. Gofynnwch iddyn nhw pam eu bod wedi dewis yr anrheg benodol honno.

    Gofynnwch i'r plant agor yr anrhegion ac yna gofynnwch iddyn nhw a oedden nhw wedi synnu wrth weld beth oedd cynnwys yr anrhegion. A oedden nhw’n credu y byddai'r parsel mawr yn cynnwys yr anrheg orau? Awgrymwch nad yw pethau bob amser yn union fel maen nhw’n ymddangos ar y tu allan.

  3. Eglurwch fod llawer o storïau yn y Beibl am blant. Mae'r straeon yn ein dysgu bod Duw yn gwerthfawrogi plant yn fawr iawn, a bod ganddo swyddi pwysig iddyn nhw eu gwneud yn aml. Mae’r stori heddiw am fachgen ifanc o'r enw Dafydd.

    Dewis brenin newydd

    Roedd Samuel wedi bod yn arwain yr Israeliaid am gyfnod maith, ac roedd wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda'r gwaith hwnnw. Fodd bynnag, erbyn hyn roedd yn heneiddio.  Fe ddywedodd y bobl wrth Samuel, ‘Yn wir, fe fydden ni'n hoffi cael brenin i'n harwain ni - fel sy’n digwydd yn yr holl wledydd eraill o'n cwmpas.’

    Roedd Samuel yn teimlo'n drist am hyn oherwydd roedd yn gwybod mai Duw mewn gwirionedd ddylai fod yn frenin arnyn nhw o ddifrif. Fodd bynnag, fe ddywedodd Duw, ‘Iawn, gad iddyn nhw gael brenin, ond rhybuddia nhw na fydd hynny'n gwneud eu bywyd ddim llawer haws!’ 

    Daeth Samuel o hyd i frenin o'r enw Saul ar gyfer y bobl. Ar y cychwyn, roedd Saul yn frenin da, ond yna fe ddechreuodd pethau fynd o chwith. Fe siaradodd Duw â Samuel eto. ‘Mae'n amser dod o hyd i frenin arall. Dos i Fethlehem a chwilia am gartref gwr o'r enw Jesse. Mae gan Jesse wyth o feibion, ac un ohonyn nhw fydd y brenin newydd. Paid â phryderu, mi ddangosaf i ti pa un ohonyn nhw fydd o. A gyda llaw, paid ag anghofio mynd â photel fach o olew gyda thi!’

    Felly, i ffwrdd â Samuel am dy Jesse. Cafodd Samuel groeso gan Jesse.  Aeth Jesse i chwilio am ei fab hynaf. Roedd Elihab yn ddyn ifanc cydnerth a golygus.‘Rhaid mai hwn yw'r un!’ meddyliodd Samuel ar unwaith.

    Roedd gan Dduw, fodd bynnag, gynlluniau eraill. ‘Anghywir!’ oedd ei ateb i Samuel. ‘Dydy'r ffaith ei fod yn dal ddim yn golygu fy mod wedi ei ddewis i fod yn frenin. Mae llawer o bobl yn barnu eraill yn ôl sut y maen nhw'n edrych, ond rwyf i yn barnu eraill trwy'r hyn sydd yn eu calonnau.’

    Anfonodd Jesse ei fab nesaf, Abinadab, at Samuel, ond fe ddywedodd Samuel, ‘Na, nid ef yw’r un ychwaith!

    Cafodd meibion Jesse eu hanfon at Samuel un ar y tro, a phob tro fe arweiniodd Duw Samuel i ddweud, ‘Na, nid hwn yw'r una fydd yn frenin!’

    Dechreuodd Samuel deimlo ychydig yn anobeithiol ac fe ddywedodd wrth Jesse, ‘Dydy Duw ddim wedi dewis yr un o'r dynion ifanc hyn i fod yn frenin. A oes gennyt ti feibion eraill’

    ‘Dim ond Dafydd bach, sydd allan yn y maes yn gofalu am y defaid,’ atebodd Jesse.

    ‘Anfon amdano ar unwaith,’ dywedodd Samuel.

    Cyn gynted ag y gwelodd Samuel y bachgen ifanc, fe sibrydodd Duw yn ei glust, ‘Hwn yw'r un! Wyt ti'n cofio'r botel fach o olew y gwnest ti ddod â hi gyda thi? Dos ag arllwys yr olew ar ei ben er mwyn dangos i bawb mai Dafydd yw fy newis i’

    Felly, o flaen holl deulu Dafydd, arllwysodd Samuel yr olew ar ben Dafydd yn arwydd, er mor ifanc yr oedd, ei fod wedi cael ei ddewis gan Dduw i fod yn frenin dros ei bobl, ac y byddai Duw gydag ef yn ei dasg.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant droi at y plentyn sydd nesaf atyn nhw a thrafod y cwestiwn canlynol.

- Sut ydych chi'n meddwl y byddai'r bachgen ifanc, Dafydd, yn teimlo pan wnaeth o ddarganfod bod Duw wedi ei ddewis i fod yn frenin?

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Mae'n rhaid bod hyn wedi bod yn brofiad brawychus i fachgen ifanc, eto rhaid ei fod hefyd wedi teimlo'n freintiedig o wybod fod Duw wedi credu ynddo ac ymddiried ynddo, hyd yn oed er ei fod mor ifanc.  Yn ychwanegol, rhaid ei fod yn rhyddhad iddo nad oedd y dewis yn seiliedig ar ba mor dal oedd Dafydd nac yn ôl fel yr oedd yn edrych.

Nid oes yr un ohonom yn debygol o ddod yn frenin neu’n frenhines. Fodd bynnag, mae'r stori'n ein hatgoffa na ddylem edrych yn unig ar y modd y mae rhywun yn edrych ar y tu allan - mae'r hyn sydd ar y tu mewn yn bwysicach o lawer! Mae gan bob un ohonom bwrpas yn ei fywyd ac, wrth i ni dyfu'n hyn, fe ddaw hynny'n glir i ni. Fodd bynnag, hyd yn oed fel plant, mae gennym rolau pwysig i'w chwarae. Mae yna rai pethau y gallwn ni eu gwneud yn yr ysgol neu yn eu cartref na all neb arall sylwi arnyn nhw, ond mae Duw yn eu gweld ac yn meddwl amdanyn nhw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n gwerthfawrogi pob plentyn.
Diolch nad wyt ti’n barnu pobl yn ôl yr olwg sydd arnyn nhw,
Ond yn hytrach, rwyt ti’n edrych i weld sut rai ydyn nhw ar y tu mewn.
Helpa ni i wneud yr un fath.
Helpa ni i wneud pethau da wrth i ni fynd trwy ein bywyd.
Helpa ni wrth i ni baratoi ar gyfer ein dyfodol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon