Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Addunedau plentyn

Gobeithion a breuddwydion ar gyfer y dyfodol

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i drafod ein gobeithion a’n breuddwydion ar gyfer y dyfodol, a meddwl sut y byddwn yn eu cyflawni.

Gwasanaeth

  1. Atgoffwch y plant fod Ionawr yn nodi dechrau blwyddyn newydd. Yn achos llawer ohonom, mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau. Mae pobl fel arfer yn gwneud penderfyniadau, neu addunedau, am eu bod yn awyddus i wella eu hunain.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi gwneud unrhyw benderfyniadau neu addunedau, neu a ydyn nhw’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud hynny.

    Gwrandewch ar ymateb nifer o’r plant.
  2. Eglurwch i’r plant eu bod yn mynd i wrando ar gerdd am fachgen o'r enw Mathew. Bachgen yw Mathew, ond fe allai'r gerdd fod am unrhyw fachgen neu ferch yn yr ystafell. Roedd Mathew yn aml yn cael ei hun mewn trafferth, felly fe benderfynodd y dylai fod yn gwneud rhai Addunedau Blwyddyn Newydd.

Gofynnwch i'r plant wrando ar y gerdd, a gweld a ydyn nhw’n gallu sylwi ar y math o ymddygiad y mae Mathew’n teimlo y dylai geisio ei wella. Gofynnwch iddyn nhw feddwl a oes unrhyw un o benderfyniadau Mathew a allai hefyd fod yn berthnasol iddyn nhw.

Addunedau Mathew
Wrth i flwyddyn newydd ddechrau, mae gen i awydd,
Ceisio fy ngorau i ddechrau o’r newydd.
Fe geisiaf weithio’n galed bob dydd yn yr ysgol,
A chofio gwneud ymdrech i gadw pob rheol.

Fe fydda i’n gyfeillgar â phawb ar y stryd,
gan roi gwên ar fy wyneb i’w cyfarch i gyd.
Fe geisia i fod yn ddoeth gyda beth fydda i’n wneud,
A meddwl yn union beth ddylwn ei ddweud.

Dysgu rhannu â’n gilydd, pryd i roi, pryd i gymryd,
Meddwl am eraill, yn lle fi fy hun bob munud.
Addo gwrando ar Mam pan fydd hi’n fy ngalw
Neu ar Dad pan fydd yn dwrdio am fy mod yn gwneud twrw!

Gobeithio y gallaf gadw’n driw at hyn i gyd,
a pheidio â hel straeon am neb yn y byd.
Wrth i flwyddyn newydd ddechrau, mae gen i awydd,
Ceisio fy ngorau i ddechrau o’r newydd.

Amser i feddwl

Trafodwch y ffyrdd y Mathew’n teimlo y gallai wella ei ymddygiad. Faint o bethau y mae wedi penderfynu y bydd yn ceisio eu gwneud? Ewch drwy bob enghraifft, gan egluro os bydd angen.

Gofynnwch i'r plant feddwl am bethau y bydden nhw’n hoffi ei wneud yn well yn y flwyddyn sydd i ddod. Efallai y bydden nhw’n hoffi ysgrifennu’n fwy taclus, hoffi cael bod yn aelod o'r tîm pêl-droed, neu wneud yn dda mewn profion sillafu. Fodd bynnag, ceisiwch ei gwneud yn glir iawn y byddai’r byd i gyd yn lle gwell os byddai pob un ohonom yn syml yn fwy caredig, yn gyfeillgar, yn fwy tyner ac yn fwy cariadus!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i weithio’n galed yn yr ysgol eleni.
Helpa ni i ddysgu llawer o bethau.
Ac yn bwysicach fyth, helpa ni i dyfu fel pobl.
Helpa ni bob amser i weld pa mor bwysig yw bod yn garedig, yn deg, yn amyneddgar ac yn gyfeillgar.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon