Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mater o gariad

Mae cariad y lledaenu ar draws y byd

gan Hilary Karen

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio'r syniad o rannu ein cariad o amgylch y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arddangos arwydd yn dweud '> 300' (mwy na 300), darlun o'r ardal leol, map o Brydain, a glôb.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen arddangos y rhestrau geiriau canlynol.

    - Rhestr 1: hoffter, agosatrwydd, annwyl, hawddgarwch, bod yn driw, tynerwch, caredigrwydd
    - Rhestr 2: casineb, annymunol, diserch, atgasedd, ffieiddio, trin yn wael, bod yn gas

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr arwydd sy’n dangos ‘>300’a gofynnwch i’r plant at beth mae’r arwydd yn cyfeirio tybed.

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Eglurwch mai symbol i nodi’r nifer o weithiau y mae'r gair 'cariad' yn cael ei ddefnyddio yn y Beibl sydd gennym yma - mwy na 300! Mae’r gair 'cariad' i'w weld yn rhywle yn yr holl destunau crefyddol.

  1. Gofynnwch i'r plant sôn am rai o'r bobl sy'n dangos cariad tuag atyn nhw.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Mae'n debyg y bydd y plant yn siarad am ffrindiau, teulu, anifeiliaid anwes, athrawon ac yn y blaen. Eglurwch ein bod yn caru pobl mewn gwahanol ffyrdd ac mae hynny'n bwysig. Mae’r ffordd mae ein rhieni yn caru ei gilydd yn wahanol i’r ffordd rydyn ni’n eu caru nhw; mae’r ffordd yr ydyn ni’n caru ein rhieni yn wahanol i’r ffordd rydyn ni’n caru ein cyfeillion.

  2. Dangoswch lun o'r ardal leol a gofynnwch i'r plant faint o'r bobl y maen nhw’n eu caru sy’n byw yn rhywle yn yr ardal leol.

  3. Dangoswch y map o Brydain, a gofynnwch i'r plant faint o'r bobl y maen nhw’n eu caru sy’n byw yn rhywle ym Mhrydain.

    Dangoswch y glôb, a gofynnwch i'r plant a oes pobl y maen nhw’n eu caru yn byw mewn rhyw ran arall o’r byd. 

  4. Tynnwch sylw at y ffaith, ymysg yr holl bobl sydd yn yr ystafell, mae llawer o gariad wedi cael ei wasgaru ledled y byd.

  5. Dangoswch eich rhestrau gan ddechrau â Rhestr 1, ac eglurwch fod pob un o'r geiriau hyn ag ystyr tebyg i garu.

    Dangoswch yr ail Restr a darllen y geiriau’n uchel. Holwch sut mae’r geiriau hyn yn gwneud i’r plant deimlo. Pa restr sydd orau ganddyn nhw? 

  6. Dewch â sylw'r plant yn ôl at y glôb, a gofyn y cwestiynau canlynol iddyn nhw.

    - Pa un o’r ddwy restr o eiriau, yn eich barn chi, y byddai'r rhan fwyaf o bobl o gwmpas y byd yn ei dewis?
    - Pa restr o eiriau y byddai Iesu yn ei dewis?
    - Pa restr y mae Duw eisiau i ni ei defnyddio?

    Atgoffwch y plant fod y gair 'cariad' yn cael ei ddefnyddio gymaint o weithiau yn y Beibl oherwydd ei fod yn bwysig ar gyfer y byd i gyd.

Amser i feddwl

Fe allwn ni i gyd helpu'r byd er mwyn iddo fod â mwy o gariad ynddo. Bob dydd, mae gennym y cyfle i ddangos cariad tuag at y rhai o'n cwmpas.

Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn caru pawb yn fawr iawn. Maen nhw’n credu bod Duw yn awyddus i’r cariad hwn ledaenu allan i'r byd cyfan trwy ein geiriau a'n gweithredoedd.

Gofynnwch i'r plant beth y gallen nhw ei wneud heddiw i ddangos cariad tuag at eraill. Gallai enghreifftiau fod yn rhoi rhywbeth fel cofleidio rhywun, helpu rhywun yn y cartref, neu chwarae gyda rhywun gwahanol ar yr iard chwarae. Yn aml, mae ein gweithredoedd lleiaf gael effaith fawr pan fyddan nhw’n cael eu gwneud gyda chariad.

Gofynnwch i'r plant eistedd yn dawel a meddwl am yr hyn y maen nhw’n mynd i'w wneud heddiw er mwyn dangos cariad tuag at eraill.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am dy gariad.
Diolch i ti am yr holl bobl sy’n dangos cariad tuag atom ni.
Helpa ni i ledaenu mwy o gariad yn y byd drwy ymddwyn mewn ffordd fwy cariadus.
Helpa ni i wneud rhywbeth bob dydd i ddangos i bobl ein bod yn eu caru  nhw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon