Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pretzels y Grawys

Un o draddodiadau cyfnod y Grawys

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y traddodiad o fwyta pretzels y Grawys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen ychydig o does ar gyfer gwneud bara, neu ddelwedd o’r toes, ar gael ar:http://tinyurl.com/z4exkpa
  • Trefnwch fod y delweddau canlynol gennych chi o bretzels y Grawys, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:

    - llun pretzel, ar gael ar: http://tinyurl.com/gunxjw3
    - llun pretzel a llun o ferch gyda’i breichiau yn groes ar draws ei brest mewn gweddi, ar gael ar: http://tinyurl.com/jaxgdbm
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi roi pretzel bach i bob plentyn ar eu ffordd allan o’r gwasanaeth, ond cofiwch ddilyn polisi eich ysgol ynghylch alergedd bwyd.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant godi eu dwylo os ydyn nhw’n mwynhau chwarae gyda thoes chwarae neu ‘Play-doh’.

    Gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio'r modelau gorau maen nhw wedi eu gwneud erioed allan o does chwarae.

    Nodwch, er bod toes chwarae fel Play-doh yn ddyfais gymharol fodern, mae pobl wedi bod yn trin toes go iawn ers talwm iawn.

  2. Dangoswch y toes bara, neu’r ddelwedd o’r toes.

    Gofynnwch i'r plant beth maen nhw’n feddwl fyddai arnom ei angen i wneud toes. (Gall yr atebion gynnwys blawd, dwr a burum.)

    Gwrandewch ar ymateb amrywiol rhai o’r plant.

    Eglurwch fod bara wedi bod yn rhan annatod o’r hyn mae pobl yn ei fwyta ers miloedd o flynyddoedd. Roedd yn rhywbeth yr oedd pobl yn ei wneud, ei baratoi a’i goginio, ac yn ei fwyta bob dydd, ac roedd yn eu digoni.

  3. Adroddwch y stori ganlynol.

    Mae stori am fynach a oedd yn byw amser maith yn ôl, tua 1,400 o flynyddoedd yn ôl mewn gwirionedd. Mynachod yw dynion sydd wedi penderfynu rhoi eu bywydau i Dduw. Maen nhw’n byw gyda mynachod eraill mewn lle arbennig a elwir yn fynachlog. Maen nhw’n caru Duw â'u holl galon ac yn treulio eu dyddiau yn gweddïo, yn addoli Duw ac yn darllen y Beibl. Roedd y mynachod rydyn ni’n mynd i sôn amdanyn nhw yn y stori’n tyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain ac yn gwneud eu bwyd eu hunain. Fe fyddai eu diet yn ymddangos yn blaen iawn o'i gymharu â'r bwyd sydd ar gael i ni heddiw.

    Gofynnwch i'r plant am syniadau ynghylch y math o fwydydd y byddai'r mynachod yn debygol o fod yn eu bwyta. Eglurwch y byddai'r mynachod yn cael mêl o gychod gwenyn, yn ogystal â ffrwythau a llysiau o'u gardd eu hunain.

    Un diwrnod, roedd y mynach ifanc yn y gegin yn gwylio’r mynachod eraill yn gwneud bara arbennig ar gyfer y Grawys. I Gristnogion, mae’r Grawys yn amser o baratoi, yn amser arbennig iawn o 40 diwrnod cyn y Pasg. Yn ystod y 40 diwrnod, fe fydd Cristnogion yn neilltuo amser i feddwl am yr hyn a wnaeth Iesu drosom ni adeg y Pasg. Er mwyn helpu'r mynachod i fyfyrio ar aberth Iesu, doedden nhw ddim yn bwyta rhai bwydydd am 40 diwrnod. Dyna pam fod y bara arbennig yn cael ei wneud bryd hynny. Heddiw, mae llawer o Gristnogion yn penderfynu peidio â bwyta rhai bwydydd neilltuol, neu’n peidio â gwneud ambell weithgaredd arbennig yn ystod y 40 diwrnod y Garawys er mwyn i hynny eu helpu i gofio am Iesu.

    Yn y stori, mae'r mynach ifanc sylwi bod yna ychydig bach o’r toes dros ben, felly penderfynodd wneud rhywbeth arbennig â’r toes hwnnw. Fe wnaeth rolio’r toes yn stribed hir fel selsig ac yna ei droi fel hyn.

    Dangoswch hyn gyda’r toes go iawn, neu dangoswch y ddelwedd o’r pretzel.

    Roedd y mynach yn meddwl bod y siâp hwn yn edrych yn debyg i’r ffordd y mae plant weithiau'n cael eu dysgu i weddïo.

    Dangoswch y ffordd o groesi’r breichiau ar draws eich brest mewn ystum gweddi, a dangoswch y ddelwedd o’r pretzel a’r llun o’r ferch gyda’i breichiau yn groes ar draws ei brest mewn gweddi.

    Penderfynodd y mynachod y byddai'r siapiau bara hyn yn wledd braf ar gyfer y plant yr oedden nhw’n eu haddysgu. Fe fyddai’n bosib iddyn nhw ddefnyddio’r torthau arbennig hyn er mwyn annog y plant i ddweud eu gweddïau. Fe ddaeth y torthau hyn yn boblogaidd iawn gyda'r plant, ac roedd yn gymhelliad gwych iddyn nhw ddysgu eu gweddïau. Cyn bo hir, fe ddaeth y siâp hwn o fara yn hysbys ledled y byd fel pretzel. Gallwn brynu pretzels heddiw yn ein harchfarchnadoedd lleol, ond fe ddechreuodd y syniad yng nghegin mynachlog yn nychymyg mynach ifanc flynyddoedd lawer yn ôl!

Amser i feddwl

Yn yr ysgol, mae gennym lawer o gymhellion er mwyn ein helpu i ddysgu.

Soniwch am y cymhellion rydych chi’n eu defnyddio yn eich ysgol.

Roedd y mynachod yn credu ei fod yn beth pwysig iawn i'r plant ddysgu gweddïo.

Pam rydych chi'n meddwl fod y pretzel yn gymhelliant defnyddiol?

Efallai yr hoffech chi awgrymu bod y plant i gyd yn croesi eu breichiau ar draws eu brest wrth i chi adrodd y weddi, ar ffurf pretzel fel petai, yr un fath â’r ferch yn y llun gyda’i breichiau wedi eu croesi yn gweddïo.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod ni’n gallu siarad gyda thi wrth weddïo.
Diolch dy fod ti’n gallu clywed ein gweddïau. 
Boed i’r siâp pretzel syml hwn ein helpu ni i gofio paratoi ein calonnau ar gyfer y Pasg.
Amen.

Dewisol: os byddwch yn dymuno gwneud hynny, rhowch un pretzel i bob plentyn wrth iddyn nhw fynd allan o'r gwasanaeth. Awgrymwch eu bod, cyn iddyn nhw eu bwyta, yn meddwl am rywun arbennig ac yn gweddïo dros yr unigolyn hwnnw.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon