Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dysgu oddi wrth Deyrnas yr Anifeiliaid – Gwaith tîm

Yr ail mewn cyfres o bedair rhan am wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth deyrnas yr anifeiliaid

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried enghreifftiau o anifeiliaid sy’n gweithio gyda'i gilydd er lles.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant a oes unrhyw rai ohonyn nhw’n mwynhau gwylio rhaglenni teledu fel The X-Factor, Strictly Come Dancing a rhaglenni sy’n rhoi sylw i Gemau fel y Gemau Olympaidd. Soniwch ein bod yn byw mewn byd cystadleuol iawn, lle mae pawb eisiau bod yn enillydd. Gall cystadleuaeth iach ddod â'r gorau allan ohonom ni. Gall wneud i ni weithio'n galed er mwyn datblygu ein talentau a chyflawni ein nodau. Fodd bynnag, yn aml mewn bywyd, nid yw'n bwysig ennill fel unigolyn, ond yn hytrach, i weithio fel tîm.

  2. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw’n rhan o dîm.

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Nodwch nad yw gwaith tîm yn cyfeirio at weithgaredd chwaraeon yn unig. Mae gwaith tîm yn bwysig ym mhob agwedd ar fywyd: yn yr ysgol, yn y cartref, yn yr iard chwarae, mewn dosbarth dawns a, phan fyddwch yn mynd yn hyn, yn y man gwaith hefyd.

Drwy ddysgu parchu a gwerthfawrogi sgiliau a galluoedd arbennig pobl eraill, rydyn ni’n rhoi'r gorau i fod yn hunanol ac yn hunan-ganolog. Er y dylem ymfalchïo yn ein talentau eu hunain, fe allwn ni fod yn aelodau tîm da drwy oddef a deall pobl eraill. Gallwn ddysgu gwerthfawrogi’r agweddau lle maen nhw’n wannaf ynddyn nhw, dathlu eu cryfderau, a'u rhannu ein bod yn cydnabod ein gilydd. Dylem gofio na all unrhyw un ddod yn enillydd yn hollol ar ei ben ei hun.

Dangoswch y ddelwedd o’r dawnswyr bale, y gweithwyr ffatri, y staff meddygol a’r tîm chwaraeon.

Trafodwch pam ei bod yn bwysig i’r grwpiau hyn o bobl weithio'n dda gyda'i gilydd.

  1. Eglurwch fod anifeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd mewn llawer o ffyrdd gwahanol ac am lawer o wahanol resymau. Er enghraifft, mae bleiddiaid yn ffurfio grwpiau ac yn dangos teyrngarwch trwy warchod ei gilydd. Mae pengwiniaid yn tyrru at ei gilydd ac yn swatio gyda'i gilydd i gadw'n gynnes mewn tymheredd rhewllyd oer iawn. Gofynnwch a yw’r plant yn gallu meddwl am ffyrdd eraill y mae anifeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd.

  2. Gofynnwch a oes unrhyw un o'r plant erioed wedi gwylio grwp o forgrug cario eitemau megis dail neu laswellt o un lle i'r llall. Mae morgrug yn greaduriaid cryf ac yn gallu codi eitemau sy'n llawer trymach na'u pwysau eu hunain oherwydd bod ganddyn nhw gymhareb uchel o gyhyrau-i-faint corff. Fodd bynnag, drwy weithio gyda'i gilydd mewn modd cydlynol, fe allan nhw symud eitemau llawer mwy swmpus nag y byddai un morgrugyn sengl yn gallu ei wneud. Yn y modd hwn, maen nhw’n cyflawni pethau yn llawer mwy cyflym, a hynny gyda llai o ymdrech bersonol hefyd.

    Dangoswch y clip fideo YouTube,‘How crazy ants carry heavy loads’. Mae’n funud o hyd.

    Dangoswch y ddelwedd o’r gwyddau’n hedfan yn eu ffurf arbennig.

    Gofynnwch i'r plant pa fath o aderyn mae’r ddelwedd yn ei ddangos, ac a ydyn nhw wedi gweld ffurfiant fel hwn yn yr awyr erioed. Eglurwch fod gwyddau, ar adeg benodol o'r flwyddyn, yn ymfudo i lefydd lle mae’r hinsawdd yn gynhesach. Pan fyddan nhw’n gwneud hyn, maen nhw’n hedfan ar ffurf y llythyren V ac yn ysgwyd eu hadenydd i fyny ac i lawr ar yr un pryd. Pa mor bell bynnag yn ôl yn y ffurfiant hwn ar siâp V y mae gwydd yn hedfan, y mwyaf yn y byd o gymorth mae'n ei gael gan symudiadau’r gwyddau sydd o’i blaen oherwydd y ffordd mae adenydd y lleill yn curo a’r awyrgludiad sy’n digwydd oherwydd hyn. Yr arweinydd sydd â'r swydd anoddaf, sef y cyntaf i wthio’i ffordd drwy'r awyr. Felly, pan fydd yr arweinydd yn dechrau blino, mae'n symud yn ôl, ymhellach i lawr y grwp, a gwydd arall yn cymryd ei lle. Trwy gylchdroi yr arweinyddiaeth, mae hyn yn golygu bod y gwyddau’n defnyddio llai o egni ac yn gallu cyrraedd eu cyrchfan yn gyflymach na phe bydden nhw’n hedfan ar ben eu hunain. Mae'n golygu hefyd bod y gwyddau gwannach yn cael cymorth a bod gwyddau blinedig yn cael cyfle i adennill eu cryfder.

  3. Gofynnwch i'r plant ydyn nhw'n gwybod sut anifail yw’r swricat (meerkat). Gofynnwch iddynt ddisgrifio un o’r anifeiliaid bach hyn.

    Eglurwch fod swricatiaid yn famaliaid bach sy'n byw mewn hinsoddau anialwch llym. Maen nhw’n greaduriaid bach cymdeithasol iawn, ac yn byw gyda'i gilydd mewn rhwydweithiau mawr o lwybrau o dan y ddaear, fyddan nhw ddim ond yn dod allan yn ystod y dydd. Pan fyddan nhw’n chwilio am fwyd, fe fydd un aelod yn gweithredu fel gwyliwr drwy sefyll ar ei goesau ôl, ac fe fydd yn galw cri o ddychryn os bydd yn sylwi ar unrhyw anifail ysglyfaethus yn nesu atyn nhw neu’n gweld unrhyw berygl arall. Wrth wneud hynny, mae'n cadw ei grwp yn ddiogel rhag niwed.

    Dangoswch y clip fideo YouTube, ‘One meerkat looks out for danger . . .’. Mae’n para am 2.29 munud.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am yr anifeiliaid hyn, ac atgoffa ein hunain o'r ffordd y maen nhw’n gweithio gyda'i gilydd.

- Fe fydd morgrug yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni nodau llawer mwy nag y bydden nhw’n gallu eu cyflawni ar ben eu hunain.
- Fe fydd gwyddau yn cymryd eu tro mewn arweinyddiaeth, gan weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pawb yn cael seibiant.
- Tra bydd grwp o swricatiaid yn edrych am fwyd, fe fydd un ohonyn nhw’n gweithredu fel gwyliwr, yn cadw golwg i bob cyfeiriad rhag perygl.

Mae anifeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd yn aml at ddibenion goroesi. Mae adegau pan fydd angen i bobl wneud yr un peth. Yn ogystal, mae llawer ohonom yn mwynhau'r gwaith tîm sydd wedi ei anelu at helpu pobl eraill heb dderbyn unrhyw fudd materol yn gyfnewid. Gallai hyn fod yn weithgaredd codi arian ar gyfer elusennau neu helpu eraill mewn rhyw ffordd neilltuol.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol, gan roi amser i feddwl ar ôl pob un.

- Ydych chi’n hoffi cydweithio â phobl eraill mewn tîm?
- Ydych chi’n chwaraewr da mewn tîm?
- Beth allwn ni ei wneud a fydd yn ein helpu ni i weithio'n well yn yr holl dimau yr ydyn ni’n rhan ohonyn nhw?

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y byd yr wyt ti wedi ei greu, y byd rydyn ni’n ei rannu â phobl eraill.
Helpa ni i werthfawrogi a dathlu doniau pobl eraill.
Helpa ni i beidio â bod yn genfigennus, ond i fod yn ddiolchgar am ein galluoedd a’n doniau ein hunain.
Diolch i ti am y bobl sy’n ein helpu ni bob dydd.
Helpa ni, bob un ohonom, i chwarae ein rhan yn y gymuned ac yn y byd ehangach.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon