Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae gwên yn bwysig

Mae ein geiriau a’n gweithredoedd yn gallu ysbrydoli eraill

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gall geiriau a gweithredoedd gael eu defnyddio i ysbrydoli eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi rai lluniau o bobl enwog a'r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth. Gallech ddefnyddio rhai o’r enwogion canlynol fel enghreifftiau:

    - Y Fam Teresa, ar gael ar: <http://tinyurl.com/gs9xedb>
    - Winston Churchill, ar gael ar: <http://tinyurl.com/jv4msyz>
    - Nelson Mandela, ar gael ar: <http://tinyurl.com/gqauxkl>
    - Andy Murray, ar gael ar: <http://tinyurl.com/h3m6q6b>
    - Wolfgang Amadeus Mozart, ar gael ar: <http://tinyurl.com/j6jbyq9> 
    - Cristiano Ronaldo, ar gael ar: <http://tinyurl.com/hmrd66x>
  • Fe fydd arnoch chi angen cannwyll hefyd, a'r geiriau canlynol i’w harddangos: 'Mae heddwch yn dechrau gyda gwên'.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant ddweud wrthych chi beth yw enw eu hoff berson enwog.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  2. Dangoswch y delweddau o bobl enwog fesul un.

    Gofynnwch i'r plant ydyn nhw’n gallu nodi pwy yw pob un. Eglurwch yn gryno pam y mae pob person yn enwog.
  3. Mae rhai o'r bobl enwog yma wedi ysbrydoli pobl eraill i geisio gwneud pethau gwych. Er enghraifft, mae enwogion o fyd chwaraeon yn aml yn ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn eu hesiampl. Mae pobl enwog eraill wedi ysbrydoli eraill drwy eu hesiampl yn eu bywyd. Enghraifft dda o hyn yw'r Fam Teresa.
  4. Dangoswch y ddelwedd o’r Fam Teresa.

    Mae’r Fam Teresa yn un enghraifft o ffigur ysbrydoledig. Yn gorfforol, mae hi'n edrych yn wahanol iawn i enwogion o fyd chwaraeon, ond mae ei bywyd a’i hagwedd wedi cael effaith enfawr ar lawer o bobl eraill.
  5. Ambell dro, fe fyddai pobl gyfoethog a fyddai’n ymweld â’r Fam Teresa’n gofyn iddi, 'Beth allwn ni ei wneud i ddod â gobaith a heddwch i’r byd fel rydych chi’n ei wneud?’

    Roedd llawer ohonyn nhw’n disgwyl iddi ddweud, 'Rhowch yn hael', 'Dewch i weithio yma am flwyddyn', neu 'Sefydlwch gartref i blant amddifad lle rydych chi’n byw'. Fodd bynnag, yn aml fe fyddai’r Fam Teresa yn rhoi’r ateb canlynol syml iawn iddyn nhw, 'Mae heddwch yn dechrau gyda gwên.’

  6. Onid yw hynny'n anhygoel? Pe byddem ddim ond yn dechrau gwenu ar bobl eraill a bod yn ofalgar tuag atyn nhw gyda gwên, fe allem ddechrau newid pethau yn ein cartrefi, yn ein hystafelloedd dosbarth, ac yn ein tref, neu yn ein byd hyd yn oed.

  7. (Dewisol) Yr ydym yn awr yn nhymor Cristnogol y Garawys. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n draddodiadol i bobl roi'r gorau i rywbeth er mwyn dangos eu bod yn caru Duw, ac rydyn ni’n cael ein hannog i feddwl am y rhai sydd â llai o bethau nag sydd gennym ni. Efallai y gallech chi benderfynu gwenu yn fwy aml yn ystod y cyfnod hwn, fel ffordd o helpu ein cymuned i deimlo'n fwy heddychol.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a rhoi rhywfaint o amser tawel i’r plant fyfyrio eto ar eiriau’r Fam Teresa, 'Mae heddwch yn dechrau gyda gwên.’

Meddyliwch am unrhyw sefyllfa yr ydych eisoes wedi cael profiad ohoni ers i chi godi fore heddiw, fel amser brecwast, wrth i chi adael y ty, neu wrth i chi gyrraedd yr ysgol.

- Tybed sut byddai gwên wedi gallu helpu i newid y sefyllfa?
- Sut byddai gwên wedi gallu cael effaith ar y person arall?
- A wnaeth unrhyw un wenu arnoch chi heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae gwên yn beth mor syml.
Mae’n gwneud i ni deimlo’n dda, ac mae wedi ei brofi bod gwenu’n beth da ar ein lles.
Dydi gwên ddim yn costio unrhyw beth, ac mae mor hawdd ei gwneud, drosodd a throsodd eto.
Helpa ni i gwrdd â sefyllfaoedd a chwrdd â phobl eraill gyda gwên heddiw.
Helpa ni i fendithio eraill gyda’n gwên ac i ddod â heddwch gyda’n gwên.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon