Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut rydych chi’n teimlo?

Mae ein teimladau’n dibynnu’n aml ar ein hamgylchiadau

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog ni i weld y gall newidiadau o'n cwmpas effeithio ar ein teimladau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddangos delweddau o’r gwahanol dymhorau.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i ddisgrifio pedair golygfa wahanol. Eglurwch y byddwch yn oedi ar wahanol adegau er mwyn gofyn i'r plant fynegi sut y maen nhw’n meddwl y bydden nhw’n teimlo yn y sefyllfa honno.

    Golygfa 1
    Rydych chi’n deffro’n gynnar un bore Sadwrn ac rydych chi’n gallu teimlo ias oer yn yr awyr o’ch cwmpas. Rydych chi’n swatio ymhellach i lawr yn eich gwely ac yn tynnu’r gorchudd i fyny at eich wyneb a’ch clustiau.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo tybed.

    Yn sydyn, rydych chi’n clywed rhywun yn gweiddi o ystafell arall. 'Mae'n bwrw eira!' Rydych chi’n neidio allan o'r gwely ac yn rhedeg at y ffenestr. Y tu allan, mae'r ddaear yn wyn, wyn, a phlu eira’n disgyn o'r awyr.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

    Rydych chi’n gwisgo eich dillad amdanoch yn sydyn, ac yn rhedeg allan o’r ty. Drwy’r bore, fe fyddwch chi’n cael hwyl yn adeiladu dynion eira ac yn taflu peli eira gyda'ch ffrindiau. Amser cinio, fe fyddwch yn mynd i mewn i gael bwyd. Mae eich bysedd, a bysedd eich traed, yn merwino wrth iddyn nhw ddadmer. Rydych chi’n dal cwpanaid o ddiod gynnes yn eich dwylo oer ac yn eistedd ar y soffa. Mae'r goleuadau Nadolig yn lliwgar ar y goeden, cardiau wedi cael eu hongian ar y waliau ac mae rhai anrhegion o dan y goeden.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

  2. Golygfa 2
    Mae'r tywydd wedi dechrau cynhesu, felly rydych chi wedi mynd allan am dro gyda'ch teulu ar daith gerdded. Dydych chi, yn wir, ddim yn hoffi cerdded ar deithiau cerdded hir, a doeddech chi ddim eisiau mynd.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

    Wrth i chi gerdded drwy’r ardal yng nghefn gwlad, rydych chi’n edrych dros ffens ac yn gweld wyn bach ifanc yn rhedeg ac yn sgipio o gwmpas yn y cae. Rydych chi’n sefyll ac yn eu gwylio am ychydig ac yn sylweddoli bod yr haul yn eithaf cynnes ar eich cefn. Wrth i chi ddal ati i gerdded, rydych chi’n sylwi bod blagur ar y coed a'r llwyni. Rydych chi’n edrych ar y ddaear ac yn gweld bod planhigion yn ymddangos a rhai blodau cynnar yn dechrau blodeuo.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

  3. Golygfa 3
    Rydych chi ar fin mynd ar wyliau i lan y môr.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

    Dylai'r daith gymryd tua dwy awr yn y car, ond ar ôl dim ond hanner awr, rydych chi’n cael eich dal mewn tagfa draffig enfawr. Dydych chi ddim yn llwyddo i symud ymlaen o gwbl am hydoedd. Rydych chi wedi bwyta'r picnic i gyd ac wedi diflasu ceisio meddwl am bethau i'w gwneud wrth i chi aros.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

    Yn y pen draw, mae'r traffig yn dechrau symud, ac awr a hanner yn ddiweddarach, rydych chi’n gweld y môr! Rydych chi’n chwilio am y safle carafanau lle rydych chi’n mynd i aros. Pan fyddwch yn dod o hyd i'r garafán, rydych chi’n dadbacio’r car yn gyflym ac yna’n rasio i lawr i'r traeth, sydd ddim ond taith gerdded fer o’r maes carafanau. Rydych chi’n rhedeg ar hyd y traeth ac yn plymio i’r dwr. Mae'r dwr yn gynnes ac yn hyfryd.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

  4. Golygfa 4
    Mae'r haf wedi dod i ben, ac am wythnosau mae'n ymddangos na fu dim byd yn digwydd, dim ond glaw, glaw, a glaw! Allwch chi ddim mynd allan i chwarae. Rydych chi’n gorfod aros yn y ty drwy'r amser.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

    O'r diwedd, mae'r glaw yn peidio, ac rydych chi’n cael mynd i'r parc gyda'ch ffrindiau. Rydych chi’n rhoi eich esgidiau glaw am eich traed ac yn neidio drwy'r pyllau ar eich ffordd. Rydych chi’n cyrraedd y parc ac yn chwarae am gyfnod. Yn sydyn, daw’r haul allan o'r tu ôl i gwmwl. Mae un o'ch ffrindiau yn dweud, ‘Waw!’ ac yn pwyntio i fyny. Mae enfys ddwbl enfawr wedi ymddangos yn yr awyr.

    Oedwch a gofynnwch i'r plant sut y bydden nhw’n teimlo.

  5. Gofynnwch i'r plant ddychmygu’r pedair golygfa rydych chi newydd eu disgrifio. Ar ba adegau ar y flwyddyn y mae’r rhain yn digwydd? (Ateb: yn y gaeaf, y gwanwyn, yr haf a'r hydref) Eglurwch y gallwn fod yn sicr, bob blwyddyn, y bydd pedwar tymor. Efallai y bydd y dyddiadau’n amrywio ychydig ac efallai y byddwn yn cael amrywiadau yn y tywydd, ond mae'r tymhorau’n dal i barhau, ynghyd â chylchoedd bywyd planhigion, coed, pryfed ac yn y blaen.

    Mae pob un ohonom â gwahanol deimladau am y tymhorau. Mae rhai ohonom yn caru’r gaeaf. Mae'n well gan bobl eraill yr haf, y gwanwyn neu'r hydref. Efallai y bydd rhai tymhorau'r flwyddyn yn gwneud i ni deimlo'n drist; mae eraill yn gwneud i ni deimlo'n hapus. Nid yw hyn yn anghywir - dim ond dyna sut rydyn ni’n digwydd teimlo.

  6. Yn union fel y mae newid yn y tymhorau, felly mae newidiadau yn ein bywyd hefyd. Efallai y byddwn yn symud ysgol, yn cael athro newydd mewn dosbarth newydd, efallai y bydd rhywun sy'n agos atom yn symud i ffwrdd i fyw neu’n marw, efallai y bydd rhywun yn ein teulu yn gwahanu, efallai y bydd babi newydd yn cael ei eni i’r teulu, neu efallai y byddwn yn symud i fyw mewn ty arall.

    Efallai y byddwch am ofyn i'r plant am eu syniadau eu hunain am y pethau sy’n newid.

    Gall pob un o'r newidiadau hyn wneud i ni deimlo nifer o wahanol emosiynau. Nid yw'r teimladau hyn yn anghywir, maen nhw’n gwbl normal.

  7. Esboniwch ei bod yn bwysig i ni ddysgu deall sut yr ydyn ni ein hunain yn teimlo a hefyd sut mae pobl eraill yn teimlo. Os byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn gallu cydweithio ag eraill i wneud yr ysgol, ein cartrefi, a’n byd hefyd,yn llefydd gwell ac yn llefydd hapusach.

Amser i feddwl

Sut rydych chi’n teimlo ar hyn o bryd?

Efallai y bydd rhai ohonoch chi’n teimlo'n hapus. Efallai y bydd rhai ohonoch chi’n teimlo'n drist neu'n ddig. Efallai y bydd rhai ohonoch chi’n teimlo’n unig neu'n teimlo’n ddryslyd.

Efallai bod angen i chi siarad â'ch athro neu athrawes, neu rannu sut rydych chi’n teimlo gyda ffrind. Cofiwch ei fod yn beth da rhannu hapusrwydd hefyd gyda phobl, nid dim ond rhannu tristwch. Mae adnod yn y Beibl yn dweud, ‘Llawenhewch gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylwch gyda’r rhai sy’n wylo’ (Rhufeiniaid 12.15).Gadewch i ni geisio gwneud hyn heddiw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am roi teimladau i ni.
Helpa ni i feddwl am y rhai sy’n teimlo’n drist heddiw.
Helpa ni i fod yn ffrindiau â phobl sy’n teimlo’n unig.
Helpa ni i ddod â heddwch pan fydd pobl yn ddig.
Helpa ni i rannu llawenydd a hapusrwydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon