Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dysgu oddi wrth Deyrnas yr Anifeiliaid – Cwn

Y drydedd mewn cyfres o bedair rhan am wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth deyrnas yr anifeiliaid

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried nodweddion cwn, a’u dathlu, yn enwedig ansawdd eu teyrngarwch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod y delweddau canlynol ar gael gennych chi, a'r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:

    - cwn o wahanol fridiau, ar gael ar:http://tinyurl.com/zd6uvhk
    - ci heddlu,ar gael ar:http://tinyurl.com/ho6gqdv
    - ci tywys,ar gael ar:http://tinyurl.com/h6xaoth
    - ci sy’n gwneud gwaith sniffian,ar gael ar:http://tinyurl.com/hm93fgl
  • Mae rhagor o wybodaeth am gwn ar gael ar wefan yr elusen filfeddygol, PDSA (www.pdsa.org.uk/awards), ac am y sioe gwn fwyaf yn y byd, Crufts (www.crufts.org.uk). Mae’r gwefannau hyn yn cynnwys nifer o straeon a allai ein hysbrydoli.

    Mae llawer o sefydliadau eraill hefyd sy’n ymwneud â’r berthynas ardderchog rhwng pobl a chwn, yn cynnwys elusennau fel elusen cwn tywys y deillion, Guide Dogs for the Blind, Hounds for Heroes, Assistance Dogs UK, Dogs for Good, Pets As Therapy (PAT) Dogs and Hearing Dogs for Deaf People.

Gwasanaeth

  1. Holwch a oes gan rai o'r plant anifeiliaid anwes. Gofynnwch i'r plant sôn wrthych chi am eu hanifeiliaid anwes, a nodi pam eu bod yn mwynhau eu cael. Os yw hynny’n bosibl, dywedwch wrth y plant am eich profiadau chi eich hunan ag anifeiliaid anwes, a beth wnaethoch chi ei ddysgu wrth ofalu amdanyn nhw.

  2. Eglurwch fod llawer o bobl yn berchen ar gi. Gofynnwch i'r plant godi eu dwylo os oes ci gan eu teulu nhw. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei feddwl yw’r rheswm pam fod pobl yn hoffi cwn, a pham mae rhai eraill ddim mor hoff o gwn.

  3. Mae llawer o bobl yn hoffi cwn oherwydd eu bod yn cynnig math arbennig o gariad sy'n cael ei alw'n aml yn gariad diamod. Mae hynny’n golygu, os yw cwn yn cael eu trin gyda gofal a pharch, maen nhw wedyn yn caru eu perchnogion yn union yn y ffordd honno hefyd. Nid yw eu cyfeillgarwch yn dibynnu ar ba mor glyfar, talentog na pha mor llwyddiannus yw'r perchennog; mae’n seiliedig ar barch a hoffter tuag at nodweddion personol fel caredigrwydd neu amynedd. 

  4. Dangoswch y delweddau o gwn o wahanol fridiau.

    Gofynnwch i'r plant ydyn nhw’n gallu adnabod unrhyw rai o’r bridiau.

  5. Yn ogystal â gwneud anifeiliaid anwes da, mae’n bosib hyfforddi cwn i helpu pobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r rolau hyn yn aml yn gofyn llawer iawn o sgil a dewrder.

    Dangoswch y delweddau o gwn gweithio.

    Gofynnwch i'r plant ydyn nhw’n gallu dyfalu pa swydd mae’r cwn yn y lluniau’n ei gwneud.

  6. Ar ôl i’r cwn gael eu hyfforddi, mae llawer o'u gallu i wneud eu gwaith yn cael ei gysylltu â'r teyrngarwch y maen nhw’n ei deimlo tuag at eu perchnogion. Bydd ci sy’n cael ei drin â pharch yn ymddiried yn ei berchennog ac yn dilyn cyfarwyddiadau yn ddi-gwestiwn. Yn gyfnewid, mae perchennog y ci yn ymddiried yn y ci i wneud y gwaith hyd eithaf ei allu. Gall cwn drawsnewid bywydau pobl sydd â chyflyrau meddygol, er enghraifft drwy weithio fel cwn tywys ar gyfer y deillion a'r byddar.

  7. Dros y blynyddoedd, bu llawer o straeon rhyfeddol ynghylch y teyrngarwch y mae cwn wedi ei ddangos tuag at bobl ac anifeiliaid eraill. Rydyn ni’n mynd i edrych ar un neu ddwy o enghreifftiau o hyn (gyda diolch i’r elusenPDSA (gwelwch www.pdsa.org.uk/awards) a Crufts (gwelwch www.crufts.org.uk).

    Ci bach  ifanc Lhasa Apso yw Morgany dyfarnwyd iddo Gymeradwyaeth PDSA am ddod â chymorth i’w berchennog, John Stevenson, pan oedd John wedi cael damwain ddifrifol. Fe ddangosodd Morgan ffyddlondeb a deallusrwydd eithriadol wrth ddeall y sefyllfa roedd ei feistr ynddi.

    Roedd Mary Stevenson, gwraig John, wedi bod yn teimlo'n sâl ac wedi mynd i orffwys yn y ty tra roedd ei gwr y tu allan yn gwneud rhywfaint o waith garddio. Pan glywodd hi Morgan y ci yn cyfarth yn uchel iawn, aeth Mary i'r ardd i weld beth oedd yn bod, ac fe ddaeth o hyd i John yn gorwedd yn lled ymwybodol ar y glaswellt. Roedd Morgan yn ymyl John a golwg bryderus iawn arno. Roedd John, a oedd yn 76, wedi bod ar ben ysgol yn tocio coeden pan gollodd ei gydbwysedd a syrthio i’r llawr. Roedd John wedi cael anaf difrifol, ond fe alwodd Mary ar unwaith am ambiwlans, ac yn fuan iawn roedd John wedi cael ei gludo i'r ysbyty. Yn ôl pob tebyg, mae’r ffaith fod Morgan wedi parhau i gyfarth yn uchel nes bod help yn dod wedi bod yn gyfrwng i achub bywyd John.

    Adargi Labrador yw Scooby, ac roedd yn un o brif enillwyr y rownd derfynol yn y gystadleuaeth Friends Life sy’n cael ei rhedeg gan Crufts. Mae Scooby, nid yn unig yn ffrind ffyddlon i’w berchennog, sef Sophie Pearman, merch yn ei harddegau, ond hefyd yn un sydd wedi achub bywyd. Cyn i Scooby gyrraedd i fyw gyda’r teulu roedd Sophie yn isel ei hysbryd ac yn tueddu i fod yn fewnblyg iawn oherwydd ei bod yn teimlo yn wahanol i blant eraill. Roedd Sophie, nid yn unig wedi cael sawl llawdriniaeth fawr ar ei hymennydd, ond mae hi hefyd yn dioddef o ddiabetes math 1, cyflwr sy'n effeithio ar lefelau siwgr yn y gwaed. Mae gallu rhyfeddol gan Scooby i arogli newidiadau cynnil yn arogl corff Sophie sy'n dangos newid yn lefel y siwgr yn ei gwaed. Ddwywaith, mae Scooby wedi deffro'r teulu yn y nos pan wnaeth lefel siwgr yng ngwaed Sophie saethu i fyny i lefelau peryglus yn ei chwsg. Fe wnaeth  ymateb Scooby olygu bod Sophie wedi gallu cael ei chludo i’r ysbyty am driniaeth frys. Mae Sophie’n dweud bod Scooby wedi dod â hi allan o'i chragen hefyd ac wedi ei hysbrydoli hi i gymryd rhan ym myd hyfforddi cwn.

  8. Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth Morgan, Scooby a chwn eraill? Wel, gallwn ddysgu llawer o bethau gyda chwn, ond un peth yw bod arnom ni i gyd angen ffrindiau sy'n ein deall ac yn ein derbyn ni yn union fel yr ydyn ni. Er bod rhinweddau pwysig eraill mewn cyfeillgarwch, teyrngarwch yw hyn sy'n ein clymu at ei gilydd. Mae arnom ni angen pobl y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw ac sy'n dibynnu arnom ninnau. Mae'n cymryd amser ac ymdrech i sefydlu teyrngarwch. Nid yw ffrindiau go iawn yn rhedeg i ffwrdd ar yr arwydd cyntaf o drwbl, neu’n newid ochr, dim ond oherwydd ei fod yn ffasiynol neu'n haws gwneud hynny.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am yr anifeiliaid anwes rydyn ni’n berchen arnyn nhw, neu feddwl am ein hoff anifeiliaid. Gadewch i ni feddwl am eu nodweddion a'r gwersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrthyn nhw.

Nawr, gadewch i ni feddwl am gwn ac atgoffa ein hunain o'r gwersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrthyn nhw. Pan fydd cwn yn cael eu trin yn dda, maen nhw’n ein caru ni am bwy ydyn ni. Mae hyn yn cael effaith enfawr ar fywydau llawer o bobl ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles. Mae cael eich caru am bwy ydych chi, neu eich bod chi’n caru rhyw rai am eu bod yn pwy ydyn nhw, yn golygu nad oes rhaid i chi brofi eich hun o hyd ac o hyd er mwyn ennill eu cymeradwyaeth neu eu cyfeillgarwch. Mae cwn hefyd gwmni da ac yn gallu bod yn serchog ac annwyl.

Gadewch i ni geisio dangos y rhinweddau hyn i'n ffrindiau: cariad, cymeradwyaeth, parch a ffyddlondeb, a’n bod ni yn eu derbyn. Gallwn ddysgu llawer iawn gan gwn!

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am ein ffrindiau, ac am y ffordd y maen nhw’n cyfoethogi ein bywyd.
Rydyn ni’n diolch i ti am anifeiliaid anhygoel fel cwn, sy’n gallu dysgu cymaint i ni.
Rho i ni’r amynedd, y ddealltwriaeth, a’r dewrder i gefnogi ein cyfeillion pan fydd arnyn nhw ein hangen ni.
Helpa ni i ddangos nodweddion cariad, gallu derbyn rhywun, gallu cymeradwyo, dangos parch a bod yn ffyddlon.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon