Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cadw at y rheolau (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’)

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd cadw at reolau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau.

  2. Roedd yn brynhawn cynnes, heulog, ac roedd Liwsi Jên a'i ffrindiau yn mynd ar daith gerdded ddirgel o amgylch y fferm gyda Sgryffi. Roedd Liwsi Jên a Sgryffi wedi gweld Mr Bryn yn gadael y buarth yn gynnar yn y bore, yn cario sawl arwyddbost. Nawr, roedden nhw i gyd yn barod i fynd i chwilio am yr arwyddbyst hynny. Dyma nhw’n rhedeg ar draws y buarth i ble roedden nhw’n gallu gweld yr arwydd cyntaf. Ar yr arwydd roedd yn dweud, 'Ewch ar draws y cae. Cadwch at y llwybr.’

    Gofynnwch i'r plant pam maen nhw’n meddwl bod yr arwydd yn dweud wrth Liwsi Jên a'i ffrindiau am aros ar y llwybr.

    ‘Mae hynny er mwyn i ni beidio â chrafu ein coesau ar yr ysgall,' esboniodd Liwsi Jên.

    Doedd yw'r arwydd nesaf ddim ymhell iawn oddi wrth y giât fawr. Ar yr arwydd hwnnw roedd yn dweud, 'Ewch dros y gamfa.’

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw bob amser yn ufuddhau i gyfarwyddiadau. Gofynnwch iddynt pam maen nhw’n meddwl ei fod yn beth da dilyn cyfarwyddiadau.

    ‘Mae hyn oherwydd bod llawer o fwd bob amser wrth y giât, lle mae'r gwartheg yn sefyll,' esboniodd Liwsi Jên.

    Cyn bo hir, roedd y plant a Sgryffi wedi cyrraedd y berllan. Mae'r arwydd yn dweud wrthyn nhw am fynd i eistedd dan y dderwen fawr. 'O, da iawn!' meddai Rebecca. 'Dwi'n barod i gael gorffwys!!’
    ‘Dilynwch fi!’ meddai Liwsi Jên. ‘Dwi’n gwybod ble mae’r goeden honno.’
    Goleuodd llygaid y plant wrth iddyn nhw weld yr hyn a oedd yno ar eu cyfer o dan ganghennau’r goeden dderw fawr. Roedd blanced bicnic fawr yno, gyda jwg yn llawn o sudd oren arni, a chwpanau, a llond plât o fisgedi.

    Gofynnwch i'r plant beth yw eu hoff ddiodydd nhw. Gofynnwch iddyn nhw pa fath o fisgedi y bydden nhw wedi hoffi eu gweld ar y plât.

    ‘O, da iawn!’ gwaeddodd Liwsi Jên yn hapus. ‘Mae Mam wedi prynu Jammie Dodgers i ni. Dyna fy hoff fisgedi! 'gwaeddodd Liwsi yn hapus eto.

    Mae pob un o'r plant yn eistedd ar y flanced o dan y goeden i gael eu byrbryd. 'Ble nesa?' gofynnodd Inca.
    ‘Dwi’n gallu gweld arwydd arall draw acw,' meddai Bethan, ac mae hi'n rhedeg draw i weld beth mae'n ei ddweud. Roedd yr arwydd yn nodi, 'Dilynwch y saethau coch.' Roedd y saethau yn eu harwain ar hyd y ffordd droellog drwy'r coed, ac ar draws cae arall.
    ‘Mae llawer o fannau gwlyb o gwmpas yma,’ meddai Inca. ‘Dyna pam roedd rhaid i ni ddilyn y saethau. Dwi'n credu ein bod yn mynd i gyfeiriad yr afon fach. Dewch ymlaen!’

    Rhedodd pawb i lawr y llethr glaswelltog. Ar y gwaelod, fe ddaethon nhw o hyd i arwydd arall, a oedd yn dweud, 'Ewch ar draws yr afon ar y cerrig camu o un i un. . . a byddwch yn dod o hyd i syrpreis!’

    Croesodd pob un o’r plant yr afon fach yn ofalus ac yn ddiogel.

    Gofynnwch i'r plant ydyn nhw'n gallu dyfalu beth tybed oedd y syrpreis.

    Yn sydyn, fe ymddangosodd tad a mam Liwsi Jên o ganol y coed.‘Ydych chi wedi cael hwyl yn dilyn y cyfarwyddiadau ar yr arwyddion?’ gofynnodd Mr Bryn.
    ‘O, do!’ gwaeddodd pawb.
    ‘Diolch, Dad. Mae hyn wedi bod yn hwyl fawr!’ meddai Liwsi Jên, gan roi cwtsh mawr i’w thad. ‘Chafodd neb eu cripio gan yr ysgall, wnaeth neb fynd trwy’r mwd na syrthio iddo . . . dim ond Sgryffi aeth trwyddo. Doedd Sgryffi ddim yn gallu dringo dros y gamfa, felly fe sblashiodd o drwy’r mwd wrth y giât. Ac wedyn, doedd o ddim yn gallu croesi’r cerrig camu yn yr afon, felly fe gafodd o olchi ei garnau yn y dwr wrth gerdded trwy’r afon!’
    ‘Hi-ho! Hi-ho!’ meddai Sgryffi’n uchel, a cherdded at Liwsi Jên.Chwarddodd pawb!
    ‘Ydych chi’n barod am y syrpreis?’ gofynnodd Mrs Bryn.
    ‘Ydyn, os gwelwch yn dda!’ gwaeddodd pawb.
    ‘Hi-ho! Hi-ho!’ added Sgryffi.
    ‘Yna, dilynwch fi, meddai Mrs Bryn.

    Fe arweiniodd hi y plant a Sgryffi i fyny drwy'r coed at ddarn glaswelltog yn y cae, ac yno roedd picnic blasus iawn yn barod iddyn nhw i gyd ei fwynhau. 'Hi-ho! Hi-ho!’ meddai Sgryffi yn llawn cyffro, pan welodd blât enfawr yng nghanol y picnic â moron arno yn arbennig iddo fo!

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Mae stori yn y Beibl am ddyn o’r enw Ioan, mab Sachareias ac Elisabeth. (Dewisol: er mwyn cael y stori am enedigaeth Ioan, gwelwch y gwasanaeth ‘Gwaith arbennig’ (Rhagfyr 2015), a’r ddolen ar gyfer y fersiwn Saesneg yw: http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2427/gwaith-arbennig.) Wedi i Ioan dyfu’n oedolyn, aeth i fyw mewn lle anial, yn meddwl tybed beth oedd y gwaith arbennig Duw yr oedd eisiau iddo ei wneud. Un diwrnod, gorchmynnodd Duw i Ioan fynd a dweud wrth y bobl am fod yn barod i groesawu ei Fab, felly aeth Ioan at afon yr Iorddonen. Daeth llawer i syllu ar y dyn gwyllt yr olwg, gyda'i wallt hir a barf, a’i ddillad o groen anifail. Dyma beth ddywedodd Ioan wrthyn nhw. 'Dydych chi bob amser ddim wedi ufuddhau i gyfarwyddiadau Duw. Mae Duw eisiau i chi edifarhau a dweud ei bod yn ddrwg gennych chi am hynny. Felly dewch i gael eich golchi'n lân yn yr afon.’
    Gofynnodd llawer o bobl i Ioan, ‘Pwy wyt ti?’
    Pan ofynnwyd hyn i Ioan, atebodd, 'Dim ond negesydd Duw ydw i. Mae rhywun llawer mwy na fi yn dod yn fuan. Mae'n rhaid i chi fod yn barod i ddilyn y dyn hwnnw.’
    Pan ddywedodd Ioan hynny, am Iesu yr oedd yn sôn.

    Yn fuan wedyn, roedd Iesu yn barod! Roedd yn gwybod bod yr amser wedi dod iddo adael ei gartref yn Nasareth a dechrau ar ei waith pwysig dros Dduw. Y peth cyntaf a wnaeth oedd mynd at afon yr Iorddonen, lle gwnaeth Ioan ei fedyddio. Wrth i Iesu dod i fyny allan o'r dwr, hedfanodd colomen i lawr a gorffwys arno. Roedd Iesu’n gwybod fod Duw yn falch ohono.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am y cwestiwn canlynol.

- Pam mae angen i ni ddilyn rheolau yn y cartref, yn yr ysgol, ar y ffordd fawr, ac mewn llefydd eraill hefyd?

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i weld pa mor bwysig yw rheolau.
Helpa ni i sylweddoli bod y rheolau yno i’n cadw ni’n ddiogel ac yn hapus.
Helpa ni i wneud penderfyniadau da ynghylch sut rydyn ni’n ymddwyn ac am yr hyn y byddwn ni’n ei wneud o ddydd i ddydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon