Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dathlu’r Pasg

Mae’n dda dathlu!

gan Melanie Glover (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried y gwahanol ffyrdd yr ydym yn dathlu, yn enwedig ar adeg y Pasg.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant am beth maen nhw'n meddwl wrth glywed y gair 'dathlu'.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  2. Gosodwch y 5 darn papur ar hap ar y llawr a gwahoddwch 5 o wirfoddolwyr i gasglu llythyren. Gofynnwch iddyn nhw ddal y llythrennau i fyny fel bod gweddill y plant yn gallu eu gweld. Gofynnwch i'r gynulleidfa helpu'r plant i sillafu'r gair ‘dathlu’. 

  3. Gofynnwch i'r plant feddwl am adegau arbennig pan fyddwn yn dathlu. Gwahoddwch un gwirfoddolwr i ddod ymlaen i ddal y deisen pen-blwydd. Holwch y plant am ddathliadau pen-blwydd arbennig y maen nhw wedi eu mwynhau. 

  4. Gwahoddwch un arall o’r gwirfoddolwyr i ddod ymlaen i ddal y cerdyn priodas neu lun priodas. Gofynnwch a oes unrhyw un o'r plant wedi bod mewn priodas ryw dro, ac anogwch nhw i ddweud wrth y plant eraill am eu profiadau. 

  5. Gwahoddwch wirfoddolwr arall i ddod ymlaen i ddal llun y babi neu ddillad babi. Eglurwch, weithiau pan fydd babi newydd yn y teulu, bydd gwasanaeth bedydd neu wasanaeth cysegriad er mwyn estyn croeso i'r babi newydd. Yn dilyn y gwasanaeth bydd pobl yn aml yn cael parti. 

  6. Gwahoddwch wirfoddolwr i ddod ymlaen i ddal yr anrheg sydd wedi cael ei lapio’n ddeniadol. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n hoffi derbyn anrhegion, a beth yw'r anrheg fwyaf arbennig y maen nhw wedi ei chael erioed. 

  7. Gwahoddwch wirfoddolwr arall i ddod ymlaen i ddal y balwnau i fyny. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi cael balwn ryw dro a fyddai'n codi i'r awyr pe byddech chi’n gollwng y llinyn. Os oes un felly gennych chi, gollyngwch y falwn heliwm fel ei bod yn codi ac yn mynd i fyny tua’r nenfwd. 

  8. Gofynnwch i’r plant pa ddathliad arbennig fydd yn digwydd yn fuan. Gwahoddwch wirfoddolwr i ddod ymlaen i ddal y groes, y llun o'r groes neu lun byns y Grog. Eglurwch y byddwn yn dathlu Gwyl y Pasg yn fuan. Dros y Pasg, byddwn yn meddwl am y modd y bu Iesu farw ar y groes. Mae'r siâp croes sydd ar fyns y Grog yn ein helpu i gofio am hyn. Yn ôl traddodiad, ar ddydd Gwener y Groglith y byddwn yn bwyta byns y Grog, y diwrnod pryd y bydd Cristnogion yn cofio am farwolaeth Iesu. 

  9. Gwahoddwch y gwirfoddolwr arall i ddod ymlaen i ddal yr Wy Pasg. Eglurwch fod wyau Pasg yn ein helpu i gofio bod Iesu wedi dod yn fyw wedyn ar ôl iddo farw. Maen nhw'n cynrychioli'r maen a gafodd ei symud oddi ar geg y bedd lle rhoddwyd corff Iesu i orwedd ynddo cyn iddo atgyfodi. Roedd y bedd yn wag wedyn. Mae wyau Pasg hefyd yn ein hatgoffa o fywyd newydd. Bydd Cristnogion yn credu, yn union fel y bydd cyw bach yn dod allan o wy, yn fywyd newydd, mae Duw yn rhoi bywyd newydd i bobl hefyd.

Amser i feddwl

Atgoffwch y plant bod nifer dda o adegau pryd y byddwn yn dathlu yng nghwmni pobl yr ydym yn eu caru ac yn ofalgar tuag atyn nhw. Adegau arbennig y dylem eu meithrin yw'r rhain. Mae'r Pasg yn un o'r adegau arbennig hyn.

Gofynnwch i'r 5 gwirfoddolwr sy'n dal y llythrennau i fyny i'w codi'n uchel. Gofynnwch i'r plant ymuno i floeddio'r gair olaf yn y frawddeg sy'n dilyn.

- Mae’r Pasg yn adeg wych ar gyfer ‘dathlu’!

Gweddi
Annwyl Dduw,

Diolch i ti am y gwanwyn ac am y bywyd newydd a welwn o'n cwmpas.
Diolch i ti am adeg y Pasg ac am y llawenydd a’r gobaith a ddaw gyda’r Pasg.
Diolch i ti am yr holl adegau y byddwn ni’n dathlu gyda theulu a ffrindiau.
Helpa ni i beidio byth â chymryd yr adegau hyn yn ganiataol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon