Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae’n bwysig helpu

Mae helpu’n gallu gwneud gwahaniaeth i’r bobl sydd o’n cwmpas

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i fod yn gyfrifol am bethau a phwysleisio pa mor bwysig yw helpu eraill.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi ddetholiad o ddelweddau sy’n darlunio tasgau gwaith ty, fel:

- golchi’r llestri, ar gael ar: http://tinyurl.com/hhfbbww
- tynnu llwch, ar gael ar: http://tinyurl.com/h4tvrde
- paratoi prydau bwyd, ar gael ar: http://tinyurl.com/jgoemmz
- gwagu’r biniau, ar gael ar: http://tinyurl.com/gmeqxqv
- golchi’r llawr, ar gael ar: http://tinyurl.com/jkt4esl

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant faint ohonyn nhw sy’n hoffi helpu. Gofynnwch iddyn nhw feddwl o ddifrif am hyn. Ydyn nhw bob amser yn fodlon cadw eu teganau? Fyddan nhw’n helpu i dacluso’r dosbarth? Pa mor aml y maen nhw’n helpu eu rhieni gartref?

  2. Dangoswch y delweddau sy’n darlunio gwaith ty 
    Wrth i bob llun gael ei ddangos, gofynnwch i'r plant godi eu dwylo os ydyn nhw’n mwynhau helpu gyda'r dasg honno.

  3. Eglurwch eich bod yn mynd i adrodd stori am eneth fach o’r enw Shakira. Dydi hon ddim yn stori wir, ond fel gyda phob stori dda, mae ystyr arbennig ynddi i ni.

    Merch fach bump oed oedd Shakira, ac fel arfer, fe fyddai hi’n cael popeth roedd hi ei eisiau. A dweud y gwir, roedd Shakira wedi cael ei difetha braidd. Roedd hi’n dyheu am gael ci bach yn anrheg pen-blwydd. Roedd ganddi un bochdew (hamster) eisoes, ac er ei bod yn hoffi rhoi ychydig o sylw iddo o dro i dro, doedd hi ddim yn gofalu amdano mewn gwirionedd. Ei mam oedd yn gofalu rhoi bwyd iddo. Ei mam fyddai’n rhoi dwr iddo. A’i mam fyddai bob amser yn glanhau cawell y bochdew.

    ‘Weli di, Shakira, ti sydd piau’r bochdew,’ meddai ei mam wrthi, ‘ond dwyt ti ddim yn gwneud llawer i ofalu amdano. Sut yn y byd rwyt ti’n disgwyl cael ci bach a thithau ddim yn mynd i ofalu amdano? Nid tegan yw ci bach wyddost ti, a dydi hi ddim yn ddigon i ddim ond chwarae gyda chi bach. Rhaid i ti ofalu amdano drwy’r amser. Rydw i’n meddwl fod arnat ti angen gwers ar beth yw helpu!’

    Felly, fe benderfynodd mam Shakira ddysgu gwers iddi ynghylch beth yw ystyr helpu. Fe wnaeth hi barhau i chwarae gemau gyda Shakira, fel roedd hi’n gwneud o’r blaen, ac fe wnaeth hi ddal i fynd a hi am dro i’r parc i chwarae, ac roedden nhw’n dal i gael llawer o hwyl gyda’i gilydd. Ond, fe beidiodd ei mam helpu Shakira mewn rhai ffyrdd. Pan oedd Sharika wedi baeddu ei dillad, doedd ei mam ddim yn eu rhoi yn y fasged olchi. Doedd hi ddim yn gwneud gwely Shakira iddi nac yn tacluso ei hystafell. Doedd ei mam ddim yn gwneud prydau bwyd arbennig i Shakira, dim ond paratoi bwyd cyffredin, ac roedd yn rhaid i Sharika fwyta pethau nad oedd hi’n eu hoffi’n fawr, gan nad oedd ei mam yn cynnig pethau eraill iddi.

    Ar y dechrau doedd dim ots gan Shakira, ond ar ôl ychydig ddyddiau roedd hi’n dyheu am gael pethau neis i’w bwyta, a doedd hi ddim yn teimlo’n braf wrth wisgo dillad oedd ddim yn lân. Doedd hi ddim yn hoffi mynd i gysgu mewn gwely blêr ynghanol llanast, ac roedd hi’n methu dod o hyd i bethau yn ei hystafell wely. Roedd Shakira’n dechrau teimlo’n anhapus. Ymhen ychydig, fe ofynnodd Shakira i’w mam, ‘Plîs wnewch chi fy helpu i fel roeddech chi’n ei wneud o’r blaen? Rydw i’n gweld eisiau’r holl help roeddech chi’n ei roi i mi, ac rydw i’n deall nawr pa mor bwysig yw helpu pobl eraill.’

    Teimlai ei mam bod Shakira wedi dysgu ei gwers erbyn hyn. Roedd hi wedi bod yn ddigon anodd iddi hithau hefyd i beidio helpu ei merch. Ond roedd yr arbrawf wedi gweithio ac roedd Shakira wedi newid ei hagwedd. Yn bennaf oll, roedd hi’n edrych ar ôl ei bochdew ar ei phen ei hun.

    Pan ddaeth diwrnod ei phen-blwydd yn chwech oed, rai misoedd wedyn, fe gafodd Shakira syndod mawr. ‘Nawr dy fod ti’n gwybod pa mor bwysig yw helpu,’ meddai ei mam wrthi, ‘rydw i’n meddwl y gallwn ni fentro cael un anifail anwes arall.’Roedd Shakira wrth ei bodd pan welodd hi ei thad yn dod adref y diwrnod hwnnw gan gario basged. Yn y fasged roedd y ci bach du delaf a welodd hi erioed.

    Er bod Shakira wedi dysgu ei gwers mewn ffordd anodd, rwy’n meddwl ei bod wedi haeddu cael ei chi bach yn y diwedd. Ydych chi’n cytuno?

  4. Gofynnwch i'r plant pa wersi tybed maen nhw’n meddwl y mae’r stori hon yn ein hannog i’w dysgu.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl tybed beth fydden nhw’n gallu ei wneud heddiw i helpu:

- yn yr ysgol
- ar yr iard
- gartref                                                                                                                                                 

Rhowch her i’r plant wneud o leiaf un peth heddiw a fyddai’n helpu rhywun!

Gweddi
Arglwydd y galon garedig, gwna fy nghalon innau’n un garedig.
Arglwydd y dwylo tyner, gwna fy nwylo innau’n rhai tyner.
Arglwydd y traed parod a bodlon, gwna fy rhai innau’n barod a bodlon,
fel y gallaf dyfu’n debycach i ti ym mhob peth y byddaf i yn ei ddweud a’i wneud.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon