Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y blwch o hapusrwydd pennaf

Beth sy’n ein gwneud ni’n wirioneddol hapus?

gan Kirk Hayles

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y pethau hynny mewn bywyd sy'n ein gwneud ni’n hapus

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd angen i chi gael blwch wedi'i labelu 'blwch mawr o hapusrwydd' sy'n cynnwys eitemau y bydd y plant yn cydnabod eu bod yn bwysig i chi, pethau fel siocled, eich hoff lyfr a’ch ffôn symudol.

    Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio orau os bydd gan y plant rywfaint o wybodaeth am eich hoff bethau a’ch cas bethau. Os nad yw hyn yn bosib, fe allwch chi addasu'r gwasanaeth fel eich bod yn rhoi cliwiau am yr hyn sydd yn y blwch.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen blwch llai wedi ei labelu 'blwch bach o hapusrwydd pennaf' sy'n cynnwys eitemau sy'n arbennig yn eich golwg chi, ond sydd o fawr ddim gwerth ariannol, pethau fel llun o'ch plentyn fel baban a chragen y gwnaethoch chi ddod o hyd iddi ar draeth pan oeddech chi ar wyliau arbennig.
  • Cyn y gwasanaeth, gosodwch y ddau flwch fel y gall y plant eu gweld, ond gwnewch yn siwr bod y blwch mwyaf yn fwy amlwg.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y blwch mwyaf o faint i'r plant ac esbonio bod yr eitemau y tu mewn i'r blwch yn bethau sy'n eich gwneud chi’n hapus. Gofynnwch i'r plant ddyfalu beth sydd y tu mewn i'r blwch. Os nad yw'r plant yn eich adnabod yn dda, efallai y byddwch am roi cliwiau, fel 'Mae llawer o bobl yn hoffi bwyta hwn, ac rwyf fi’n hoffi ei gael fel gwobr fach ar ôl diwrnod prysur yn yr ysgol.’

    Ewch drwy bob eitem, gan bwysleisio sut mae pob un o’r pethau’n eich gwneud chi'n hapus.

  2. Pan fyddwch chi wedi bod trwy'r holl eitemau yn y blwch mwyaf, ceisiwch ymddangos fel pe byddech chi’n dod hyd yn oed yn fwy cyffrous wrth i chi symud tuag at y blwch llai - y blwch bach o hapusrwydd pennaf.

  3. Pwysleisiwch, er mai dim ond blwch bach yw hwn, mae ei gynnwys hyd yn oed yn fwy pwysig yn eich golwg chi na'r pethau a oedd yn y blwch mwyaf.

  4. Gofynnwch i’r plant geisio dyfalu beth sydd yn y blwch bach.

    Ewch drwy bob eitem, gan bwysleisio pam ei bod mor arbennig i chi ac adroddwch ei stori.

  5. Nodwch fod y gwrthrychau yn y blwch bychan o fawr ddim gwerth ariannol. I'r rhan fwyaf o bobl, fe fydden nhw’n ymddangos yn bethau dibwys, ond i chi maen nhw’n bwysig iawn, iawn.

    Gofynnwch i'r plant a oes ganddyn nhw eitemau tebyg. Gofynnwch iddyn nhw, ‘Beth fyddech chi'n ei rhoi yn eich blwch o hapusrwydd pennaf?’

Amser i feddwl

Weithiau, fe allwn ni ymgolli cymaint gydag eisiau pethau sydd ddim gennym ni fel ein bod yn methu â gweld y pethau hynny sydd gennym ni, ac sydd fwyaf arbennig a phwysig mewn bywyd. Weithiau, rydyn ni’n teimlo'n genfigennus oherwydd bod pobl eraill yn berchen ar eiddo sydd ddim gennym ni. Efallai bod ganddyn nhw dy mawr, car newydd neu ddillad sy’n cario label ddylunydd, neu efallai eu bod yn gallu mynd i ffwrdd ar wyliau anhygoel. Fodd bynnag, er bod y pethau hyn yn hyfryd i’w cael, fyddan nhw ddim yn dod â hapusrwydd llwyr i unrhyw un. Y pethau sy'n dod â'r hapusrwydd mwyaf i'n bywydau fel arfer yw’r pethau sy’n costio dim neu ddim ond ychydig iawn o arian. Maen nhw’n aml yn bethau sy'n cynnwys pobl arbennig - fel teulu, ffrindiau a phobl sy'n ofalgar tuag atom ni - neu’n cynnwys atgofion.

Gofynnwch i'r plant feddwl am eu blwch ei hunain o wir hapusrwydd. A oes pobl yn y blwch, pobl y gallen nhw wneud rhywbeth arbennig ar eu cyfer er mwyn dangos iddyn nhw pa mor bwysig ydyn nhw yn eu golwg?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Dysga ni i beidio â bod eisiau mwy a mwy o bethau, ond i drysori’r pethau pwysicaf mewn bywyd.
Helpa ni i wybod pa bethau mewn bywyd sydd o wir werth,
Y pethau sy’n dod â gwir hapusrwydd, fel atgofion a phrofiadau ardderchog,
a phobl arbennig fel aelodau ein teulu a’n ffrindiau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon