Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dysgu oddi wrth Deyrnas yr Anifeiliaid – Gwiwerod

Y bedwaredd mewn cyfres o bedair rhan am wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth deyrnas yr anifeiliaid

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bywyd y wiwer a dathlu manteision blaengynllunio.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o’r wiwer goch a’r wiwer lwyd.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw’n gallu adnabod yr anifeiliaid, ac a ydyn nhw wedi gweld y naill neu'r llall ohonyn nhw erioed.

  2. Dywedwch y ffeithiau a ganlyn wrth y plant.

    - Mamaliaid bach yw gwiwerod.
    - Maen nhw’n anifeiliaid bach hyblyg iawn ac yn byw yn bennaf mewn parciau, argloddiau a choedwigoedd, er y gallwch ddod o hyd iddynt mewn unrhyw le bron.
    -Mae tua 280 o fathau o wiwer, er mai’r wiwer goch a gwiwerod llwyd sy'n byw yma ym Mhrydain yn bennaf.
    - Mae gwiwerod coch wedi byw ym Mhrydain ers miloedd o flynyddoedd ond yn awr yn cael eu hystyried fel rhywogaeth sydd dan fygythiad.
    - Dim ond ers tua 140 o flynyddoedd y mae gwiwerod llwyd wedi byw ym Mhrydain.

  3. Pwysleisiwch mai’r wiwer lwyd yw'r math mwyaf cyffredin o wiwer ym Mhrydain, felly dyma fydd y prif ffocws ar gyfer y gwasanaeth hwn.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n gwybod beth mae'r gair 'gaeafgysgu' yn ei olygu.

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Esboniwch fod gaeafgysgu yn wahanol i gwsg rheolaidd gan ei fod yn gyflwr o anweithgarwch a gostyngiad yn y metaboledd. Mae rhai anifeiliaid, fel pathewod a draenogod, yn gaeafgysgu ar hyd misoedd oer y gaeaf, ond er bod gwiwerod yn dod yn fwy anweithgar ac aros yn eu nythod yn y gaeaf, dydyn nhw ddim yn gaeafgysgu, mewn gwirionedd. Mae hyn oherwydd nad ydyn nhw’n gallu storio digon o ynni i oroesi am gyfnodau hir heb fwyd. Er mwyn goroesi'r amser hwn pan fo bwyd yn brin, fe fydd gwiwerod yn cynllunio ymlaen llaw drwy gasglu cnau yn ystod yr hydref a’u cuddio mewn nifer o wahanol leoedd.

  1. Dangoswch y clip fideo YouTube, ‘Funny squirrel hiding nuts’. Mae’n para am 1.25 munud.

Yn ddiweddarach, fe all y gwiwerod ddod o hyd i ble maen nhw wedi cuddio eu cnau. Maen nhw, fel arfer, yn gallu gwneud hyn drwy arogli.

Dangoswch y clip fideo YouTube ‘Squirrel looking for his nut(s)’. Mae’n para am 1.26 munud.

  1. Mae gwiwerod yn byw mewn nythod, sy'n cael eu gwneud o frigau ac wedi eu leinio ar y tu mewn gyda deunyddiau naturiol fel glaswellt sych, mwsogl a phlu. Mae’r nythod tua maint pêl-droed, ac yn cael eu hadeiladu yng nghanghennau’r coed. Mae nythod yr haf yn rhai ysgafnach, yn eithaf tenau, ac yn cael eu hadeiladu yn uchel i fyny ar y goeden. Fodd bynnag, er mwyn gallu goroesi'r gaeaf, mae gwiwerod yn adeiladu nythod mawr, mwy trwchus, fel arfer ar gangen gref yn agos at foncyff y goeden.

Dangoswch y delweddau o nyth yr haf a nyth y gaeaf.

  1. Yn ystod y gaeaf, mae angen i’r gwiwerod gadw'n gynnes ac fe fyddan nhw’n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn y nyth, a dim ond yn dod allan pan fyddan nhw’n llwglyd. Felly, mae'n bwysig iawn bod gwiwerod yn storio digon o fwyd ar gyfer eu hunain er mwyn gallu goroesi hyd y gwanwyn canlynol.

  1. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei feddwl y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth y gwiwerod.

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Eglurwch fod gwiwerod yn dangos pa mor bwysig yw cynllunio ar gyfer y dyfodol.

  1. Eglurwch fod yna lawer o ffyrdd y gallai cynllunio ymlaen llaw fod yn bwysig.
  • Fe allem gynilo ein harian ar gyfer rhywbeth mwy drud y byddem yn wir yn hoffi ei gael, yn hytrach na gwario’r arian sydd gennym ar felysion a fydd yn diflannu yn gyflym! Gall yr arferiad hwn ein helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol pan fyddwn yn meddwl am gynilo ar gyfer pethau mwy o lawer, fel prynu car neu brynu ty.
  • Fe allem weithio'n galed yn yr ysgol yn ein gwersi neu drwy ymarfer hobi neu dalent. Gallai hyn arwain y ffordd i ni fynd i brifysgol neu i gael prentisiaeth dda neu swydd. Neu, fe allai hyd yn oed arwain y ffordd i ni ddod yn athletwr Olympaidd. Os ydym am gyflawni unrhyw un o'r pethau hyn, mae angen i ni weithio'n galed yn awr i baratoi ar gyfer hynny.
  • Fe allem weithio'n galed ar adeiladu perthynas dda gyda phobl. Mae'n cymryd amser ac ymdrech i feithrin cyfeillgarwch da. Mae'n hawdd bod yn ffrindiau pan fydd pethau'n mynd yn dda a phan fydd pawb yn hapus. Fodd bynnag, bydd adegau yn ystod bywyd pawb pan fydd pobl yn drist neu'n anhapus, neu pan fydd pethau'n mynd o'u lle. Mae cyfeillgarwch go iawn yn golygu cadw’n ffyddlon i’r bobl yr ydym yn hoff ohonyn nhw hyd yn oed pan nad yw pethau'n mynd yn dda. Pan fyddwn yn gwneud hynny, gall arwain at sicrwydd ac ymdeimlad arbennig o berthyn yn y dyfodol.

Amser i feddwl

Mae gwiwerod yn dangos i ni pa mor bwysig yw cynllunio ymlaen llaw. Maen nhw’n dangos i ni pa mor bwysig yw gwneud amser ac ymdrech, hyd yn oed os yw'n golygu gwneud rhai aberthau ar gyfer dyfodol mwy diogel neu lwyddiannus. Mae'r wiwer yn storio dim ond ychydig o gnau ar y tro, ond pan fyddan nhw’n cael eu cloddio drwy gydol y gaeaf, maen nhw’n cadw’r wiwer yn fyw ac yn iach. Bydd rhoi ymdrech i mewn i'n gwaith, ein chwarae a’n perthnasoedd yn awr yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n dyfodol.

Allwch chi feddwl am adeg pan wnaethoch chi wneud ymdrech ychwanegol ar gyfer rhywbeth roeddech chi ei eisiau? Efallai eich bod eisiau bod mewn tîm chwaraeon ysgol. Efallai eich bod wedi dysgu llinellau ar gyfer rhan mewn drama. Efallai eich bod wedi cynilo ar gyfer rhywbeth yr oeddech chi ag awydd mawr i’w brynu.

Sut deimlad oedd hwnnw pan wnaethoch chi gyflawni hynny?

Gadewch i ni i gyd fwynhau'r pethau yr ydym yn ei gwneud bob dydd, ond gadewch i ni bob amser gadw mewn cof bod yr hyn a wnawn yn effeithio ar y dyfodol.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn ddiolchgar am bopeth sydd gennym ni.
Helpa ni i beidio â chymryd pethau’n ganiataol.
Helpa ni i fwynhau pob dydd tra byddwn ni'n cofio bod ein gweithredoedd heddiw yn mynd i beri canlyniadau ar gyfer y dyfodol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon