Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dweud y gwir

Ambell dro, mae’n gallu bod yn anodd dweud y gwir

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried ei bod yn well dweud y gwir.

Paratoad a Deunyddiau

Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r stori o'r Beibl sy’n sôn am Pedr yn gwadu Iesu, stori sydd i’w chael yn Efengyl Luc 22.54-62. Efallai yr hoffech chi ddarllen y stori neu ei hadrodd yn eich geiriau eich hun.

Gwasanaeth

  1. Fe ddigwyddodd yr hyn a ddigwyddodd yn y stori rydw i'n mynd i’w hadrodd i chi heddiw flynyddoedd lawer yn ôl. Mae'n stori wir, ond mae’r enwau wedi cael eu newid.

    Roedd unwaith ddwy ferch fach. Raisa oedd enw un a Jenny oedd enw’r llall. Roedden nhw’n ffrindiau mawr a bob amser yn mwynhau chwarae gyda'i gilydd. Un diwrnod glawog, roedd Jenny wedi bod yn nhy Raisa drwy’r pnawn. Roedd ei mam newydd gyrraedd i’w nôl er mwyn mynd â hi gartref i gael te. Roedd y ddwy fam yn brysur yn siarad yn yr ystafell fyw, a Jenny a Raisa wedi cael eu hanfon i'r gegin i gael diod. 
    Roedd arogl pobi hyfryd yno, ac ar y bwrdd roedd nifer o hambyrddau o gacennau a thartenni ffres wedi'u pobi. Roedd hyn yn peri i’r merched deimlo'n llwglyd iawn. Roedd y tartenni jam yn edrych yn arbennig o hyfryd, gyda'u jam mefus coch sgleiniog.
    ‘Beth am gael blas?’ meddai Raisa. Roedd y ddwy ferch yn gwybod na ddylen nhw gymryd un yn wir, yn enwedig heb ofyn.
    ‘Fe allen ni ddim ond blasu’r jam yn unig,’ meddai Jenny. ‘Felly, fydd neb yn gwybod.’
    Ac fe roddodd y ddwy eu bysedd i mewn yn y jam coch, cynnes, hyfryd. O! Dyna beth oedd blasus! Maen nhw’n penderfynu, drwy gymryd ychydig o jam o bob tarten, na fyddai unrhyw un yn dod i wybod.
    Ymhen amser, fe ddaeth y ddwy fam i chwilio am y ddwy ferch. Wrth fynd i mewn i'r gegin, beth welson nhw ond dwy ferch fach gydag wynebau gludiog iawn ac olion jam o gwmpas eu ceg.
    ‘Be ydych chi wedi bod yn ei wneud?’ holodd mam Raisa, fel pe na bai’n gwybod.
    ‘Dim byd,’ atebodd y merched.
    ‘Ydych chi wedi bod yn bwyta tartenni jam?’ gofynnodd mam Jenny.
    ‘Naddo,’ meddai Jenny.
    ‘Yna, pam mae eich wynebau chi’n goch? Pam mae eich bysedd yn ludiog? Beth sydd o gwmpas eich ceg?’
    ‘Dw i ddim yn gwybod,’ meddai’r ddwy ferch fach.
    ‘Dw i’n meddwl eich bod yn dweud anwiredd,’ meddai mam Jenny.
    Dechreuodd y ddwy ferch grio. Roedden nhw’n teimlon euog iawn.
    ‘Pam na fyddech chi wedi dweud y gwir?’ holodd mam Raisa.
    ‘Am ein bod yn meddwl y byddech chi’n ein dwrdio ni,’ cyfaddefodd y ddwy.
    ‘Dydw i ddim yn ddig am eich bod chi wedi bwyta'r jam, rydw i’n fwy siomedig am nad oeddech chi’n ddigon dewr i ddweud y gwir,’ meddai mam Raisa. ‘Wyddoch chi ddim, er ei bod hi’n anodd iawn weithiau i ddweud y gwir, fe all un celwydd arwain at gelwydd arall, ac un arall wedyn, a hynny wedyn yn gallu gwneud pethau'n waeth fyth?’
    ‘Mae'n bwysig i ni wybod y gallwn ni bob amser ymddiried ynoch chi i ddweud y gwir,’ meddai mam Jenny.
    Teimlai’r ddwy ferch gywilydd o'r hyn roedden nhw wedi ei wneud ac fe ddywedodd y ddwy ei bod yn ddrwg ganddyn nhw. Fodd bynnag, roedden nhw wedi dysgu gwers bwysig iawn. 

  2. Efallai yr hoffech chi dreulio ychydig o amser yn trafod y stori. Pwysleisiwch fod dweud y gwir am rywbeth, yn hytrach na dweud celwydd am y peth, yn beth llawer mwy dewr i’w wneud.

  3. Yn stori'r Pasg, yn union ar ôl yr hanes am Iesu’n cael ei arestio, fe wnaeth Pedr wadu ei fod yn hyd yn oed yn adnabod Iesu. Roedd cymaint o ofn ar Pedr, pe dywedai ei fod yn un o ffrindiau Iesu, y byddai'r milwyr yn ei arestio yntau, hefyd. Felly fe ddywedodd Pedr, dair gwaith, nad oedd yn adnabod Iesu ac nad oedd yn un o'i ddilynwyr. Ar ôl dweud hynny dair gwaith, fe wnaeth Iesu droi ac edrych ar Pedr. Yn sydyn, sylweddolodd Pedr beth oedd wedi ei wneud ac, er ei fod yn bysgotwr garw, fe ddechreuodd wylo am ei fod yn teimlo mor ddrwg am yr hyn yr oedd wedi ei wneud. (Mae’r stori hon i’w chael ym mhob un o’r pedair Efengyl yn y Beibl. Fe allwch chi ddod o hyd iddi yn Mathew 26.31–35, 69–75; Marc 14.29–31, 69–72; Luc 22.31–34, 54–62; ac yn Ioan 18.25–27).

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant feddwl am bob un o'r cwestiynau hyn, yn eu tro, ac oedwch ar ôl pob un er mwyn rhoi amser i’r plant feddwl.

- Meddyliwch am y ddwy ferch yn y stori.
- Meddyliwch am Pedr yn dweud nad oedd yn adnabod Iesu.
- Ydych chi ryw dro wedi dweud nad oeddech chi’n ffrindiau gyda rhywun am eich bod yn ofni beth allai ddigwydd i chi?
- Beth fyddech chi wedi ei wneud pe baech wedi bod yn lle Pedr?

Gweddi
Duw fo yn fy mhen ac yn fy ymresymiad;
Duw fo yn fy nhrem ac yn f’edrychiad;
Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad;
Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad;
Duw ar ben fy nhaith, ar fy ymadawiad.  (cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS )
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon