Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae’n dda cerdded!

Paratoi ar gyfer Wythnos Cerdded i’r Ysgol

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i gerdded mwy.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai y byddwch yn dymuno cael y rhestr o ffeithiau pwysig sy’n cael eu cynnwys yng Ngham 3 y 'Gwasanaeth' i’w harddangos ar sgrin, ac os felly, bydd angen i chi drefnu’r modd o wneud hyn.
  • Mae rhagor o wybodaeth am Wythnos Cerdded i'r Ysgol ar gael ar:http://tinyurl.com/h9slzwq
  • Mae gwybodaeth bellach am waith Living Streets, yr elusen Brydeinig ar gyfer cerdded bob dydd, ar gael ar:https://www.livingstreets.org.uk/

Gwasanaeth

  1. Cynhaliwch arolwg cyflym i gael gwybod sut mae'r plant yn teithio i'r ysgol. Efallai yr hoffech chi gofnodi’r niferoedd sy’n teithio mewn car, ar feic, bws neu ar droed, ac yn y blaen.

  2. Gofynnwch faint o'r plant sydd wedi cerdded i'r ysgol ryw dro.
    Eglurwch eich bod am ddweud ychydig o ffeithiau pwysig wrth y plant ynghylch cerdded, ffeithiau nad ydyn nhw’n eu gwybod efallai.

    Ffeithiau pwysig
    - Ar gyfartaledd, gall pob munud o gerdded ymestyn eich bywyd tua 1.5 i 2 funud.
    - Byddai cerdded 20 munud yn ychwanegol bob dydd yn llosgi 7 lb (3 kg) o fraster y corff mewn blwyddyn. Ar gyfartaledd, byddai'n cymryd tuag awr a 43 munud o gerdded i losgi’r gwerth 510 o galorïau sydd mewn Big Mac.
    - Mae cerdded yn well i chi na rhedeg neu loncian am fod llai o straen yn cael ei roi ar y cymalau. Mae'n lleihau braster y corff ac yn gostwng pwysedd gwaed.
    - Mae cerdded yn darparu'r lles canlynol:
    - mae'n gwella effeithlonrwydd ein calon a'r ysgyfaint
    - mae'n llosgi braster y corff
    - mae'n helpu i reoli ein harchwaeth
    - mae’n cynyddu ein hegni
    - mae'n cryfhau'r cyhyrau yn ein coesau, y cluniau a'r torso
    - mae'n gwella bywiogrwydd y meddwl a’r cof

  3. Eglurwch i'r plant fod llawer o blant eu hoed nhw, genhedlaeth yn ôl, yn cerdded i'r ysgol. Roedd cymaint â 70 y cant o’r plant yn cerdded i’r ysgol. Y dyddiau hyn, mae llai na 50 y cant o blant yn cerdded i'r ysgol yn rheolaidd. Mae'r duedd hon yn cyfrannu at lai o weithgarwch corfforol a mwy o ordewdra ymhlith plant, tagfeydd traffig, a llygredd aer.

  4. Eglurwch fod yr ymgyrch Cerdded i'r Ysgol yn y D.U. yn rhan o ymgyrch ryngwladol sy'n annog plant i gerdded o leiaf ran o'r ffordd i'w hysgol. Eleni, bydd Wythnos Cerdded i'r Ysgol yn digwydd o 15-19 Mai.

  5. Fel ysgol, efallai y byddwch wedi penderfynu cymryd rhan yn yr Wythnos Cerdded i'r Ysgol, ac felly efallai eich bod eisoes wedi trefnu rhywfaint o ddigwyddiadau. Os nad oes unrhyw beth wedi ei drefnu, anogwch y plant i gael golwg ar y wefan Living Streets a’u hannog i gymryd rhan yn yr ymgyrch eu hunain, o bosib. Efallai y bydd hynny’n golygu dim ond ceisio cerdded mwy ac annog eu rhieni i wneud hynny. Fel arall, fe allech roi 'her gerdded' benodol iddyn nhw, a gweld a fyddan nhw’n gallu ei chyflawni. Er enghraifft, faint o weithiau y gallan nhw gerdded o amgylch y maes chwarae mewn pum munud?

  6. Yn y Beibl, mae adnod sy’n disgrifio mor rhyfeddol y’n gwnaed ni gan Dduw, ‘Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.’ (Salm 139.14). Atgoffwch y plant fod Cristnogion yn credu bod Duw wedi ein gwneud ni, a’n bod ni’n wirioneddol anhygoel! Atgoffwch nhw, hefyd, er bod Duw wedi ein gwneud ni â chyrff sy'n gallu gwneud pethau anhygoel, mae gennym hefyd gyfrifoldeb i ofalu am y corff a roddodd Duw i ni.

Amser i feddwl

Meddyliwch am funud pa mor anhygoel yw eich corff. P'un a ydych chi’r gorau ym myd chwaraeon neu’n cael chwaraeon yn anodd, mae pob un ohonom â chorff sy'n gallu gwneud pethau rhyfeddol. Treuliwch foment yn anadlu'n ddwfn a meddyliwch pa mor wych yw hi ein bod ni’n gallu anadlu. Dychmygwch sut mae ein calon, ar hyn o bryd, yn pwmpio gwaed o amgylch ein corff fel y gallwn ni aros yn fyw - mae hyn yn beth anhygoel!

Treuliwch foment yn meddwl ynghylch sut y dylem ofalu am ein corff. A oes rhywbeth y gallwn ei wneud yn ystod Wythnos Cerdded i'r Ysgol a fydd yn ein helpu i wneud ein corff yn fwy iach?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein corff rhyfeddol.
Helpa ni i ofalu am ein corff, a’i gadw’n iach.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon