Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daliwch Ati I Rwyfo

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos bod rhai dyddiau a rhai tasgau yn gofyn am fwy o ddyfalbarhad nag eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gwybodaeth a delweddau o’r Ras Gychod rhwng Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Chaergrawnt o www.theboatrace.org/gallery/2010. Mae’r ras gychod yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 3 Ebrill 2010.
  • Cerddoriaeth ddewisol: Emyn ‘O Dduw ein cymorth ym mhob oes’. (Elis Wyn o Wyrfai, 1827-1895 ar yr emyn dôn gyfarwydd, ‘O God our help in ages past’.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i ddechrau’r gwasanaeth y bore yma gyda chân. Gofynnwch i’r plant ieuengaf ganu’r hwiangerdd Saesneg: ‘Row, row, row the boat’ (efallai y bydden nhw’n hoffi dod allan i wneud y symudiadau hefyd). Dyma addasiad Cymraeg o’r geiriau:

    Rhwyfo, rhwyfo’r cwch,
    Rhwyfo tua’r tir,
    Rhwyfo, rhwyfo, rhwyfo a rhwyfo,
    O! Mae’r dydd yn glir!.

  2. Gofynnwch i’r plant faint ohonyn nhw sydd wedi bod mewn cwch rhwyfo? Beth wnaethon nhw ei weld, beth wnaethon nhw ei glywed, a sut oedden nhw’n teimlo? Nodwch, trwy gwestiynu bod hwn yn weithgaredd pleserus y bydd pobl yn ei wneud er mwyn ymlacio yn ystod dyddiau hirfelyn, tesog a dioglyd yr haf.

    Yn awr, dangoswch luniau o griwiau ras Gychod Rhydychen – Caergrawnt oddi ar y wefan. Gofynnwch, ym mha ffordd y byddai taith gychod fel honno’n wahanol i’r gwaith pleserus o rwyfo er mwyn ymlacio?

  3. Soniwch ychydig wrth y plant am hanes y Ras Gychod. Dechreuodd y ras yn 1829, pan anfonodd myfyriwr o Brifysgol Caergrawnt her i’w ffrind, a oedd yn astudio yn Rhydychen, i gael ras rwyfo cychod. Mae’r traddodiad hwn wedi parhau hyd heddiw, gyda’r sawl a gollodd y ras y flwyddyn flaenorol yn gosod her i’w gwrthwynebwyr y flwyddyn ganlynol er mwyn cael cystadleuaeth arall.

    Mae’r Ras Gychod yn cael ei chynnal ar yr Afon Tafwys, a bydd yn agos at 250,000 o wylwyr yn heidio i lannau’r afon i weld y ras, a miliynau’n ychwanegol yn edrych arni ar y teledu. Caergrawnt sydd ar y blaen ar hyn o bryd, ar ôl ennill 79 buddugoliaeth o’i chymharu â 75 buddugoliaeth gan Rydychen. Bydd y ras eleni yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 3 Ebrill, a hon fydd ras rhif 156 yn y gyfres.

    Rhaid i’r criwiau fod yn fyfyrwyr yn y naill brifysgol neu’r llall. Caiff criw Caergrawnt eu hadnabod fel y ‘Light Blues’, a chriw Rhydychen fel y ‘Dark Blues’. Bydd y rhwyfwyr sydd â rhyw siawns o gymryd rhan yn y ras yn dechrau hyfforddi ym mis Medi, a chaiff aelodau’r sgwad eu dewis tua mis Rhagfyr. Mae pob aelod o’r sgwad yn ymgymryd â rhaglen lethol o ymarfer bob dydd o fis Medi hyd at fis Ebrill, mewn gymnasiwm yn ogystal ag allan ar yr afon. Rhaid iddyn nhw hefyd wrth gwrs barhau gyda’u hastudiaethau! Bydd rhan o’u hyfforddiant yn cael ei wneud gyda chwmni comando y fyddin.  Dangoswch y lluniau hyn o’r rhai sydd ar y wefan.

  4. Yn awr canwch y fersiwn yma o’r pennill gyda’r plant, sydd efallai yn fwy priodol i’r Ras Gychod:

    Rhwyfo, rhwyfo’r cwch,
    Rhwyfo tua’r tir,
    Rhwyfo, rhwyfo, rhwyfo a rhwyfo,
    Ni fydd yn gyntaf yn wir!


    Anogwch y plant i edrych ar y ras ar y dydd Sadwrn,3 Ebrill, i weld pwy fydd yn ennill eleni!

  5. Eglurwch fod bywyd yn eithaf tebyg i’r ddau fath yma o daith ar gwch rhwyfo. Weithiau mae ein bywyd yn mynd yn ei flaen yn llyfn. Weithiau fydd ein gwaith ni ddim yn ormod o sialens i ni, weithiau does yna ddim gormod o bwysau yn cael ei osod arnom yn yr ysgol, ac weithiau fe fyddwn yn cael perthynas dda gyda’n teulu a’n ffrindiau.  Mae hynny’n debyg i’r daith gwch ddioglyd hamddenol!


    Ond wedyn, mae rhai dyddiau, neu adegau mewn diwrnod, pan fydd bywyd yn ymdrech fawr. Efallai bod ambell aelod o’n teulu yn ymddangos mewn tymer ddrwg, efallai bod ein gwaith ysgol yn ymddangos yn neilltuol galed, efallai ein bod yn teimlo braidd fel pe byddem ni wedi codi yr ochr anghywir i’r gwely!

    Weithiau gall gweithio mewn tîm fod yn dipyn o ymdrech. Efallai eich bod chi’n awyddus i weithio’n galed iawn, a bod rhywun arall yn eich tîm ddim mor awyddus, Neu, efallai fod pawb arall yn ymddangos yn frwdfrydig ynghylch rhyw dasg neu’i gilydd a’ch bod chi heb lawer o awydd i drafferthu rhagor.

  6. Meddyliwch eto am Ras Gychod Rhydychen - Caergrawnt. Dychmygwch beth fyddai’n digwydd pe byddai un o’r rhwyfwyr yn y ras yn penderfynu rhoi’r gorau i rwyfo.  Mae ei goesau’n boenus, cyhyrau ei freichiau’n brifo’n arw, mae’n rhy oer a’r cyfan y mae’n dyheu amdano yw cael mynd yn ei ôl i’r ty clwb, cael cawod ac yna mynd yn ôl i’r gwely!  Ac mae’n dweud. ‘Rydw i wedi cael digon, rydw i’n rhoi’r gorau iddi am heddiw!’

    Fe allai peth felly fod yn waeth byth pe byddech chi’n filwr ac yn rhan o dîm. Mae llawer o ddynion a merched yn gwasanaethu dramor mewn lleoedd fel Afghanistan. Mae’n anodd iawn yn y gwledydd hynny. Dychmygwch beth fyddai’n digwydd pe byddai un neu ddau o filwyr mewn catrawd yn penderfynu’n sydyn i roi’r gorau iddi?

    Ymhle y mae rhwyfwyr a milwyr a phobl gyffredin yn cael y nerth a’r penderfyniad i ddal ati pan fydd pethau’n mynd yn anodd? Mae llawer yn darganfod eu bod yn gallu dal ati’n fwy nag yr oedden nhw erioed wedi dychmygu. Maen nhw’n gallu gwthio’u hunain fymryn rhagor, maen nhw’n gallu ymdrechu fymryn caletach, maen nhw’n gallu dal i fynd fymryn yn hirach.  Nhw sy’n penderfynu os ydyn nhw am wneud hynny!

  7. Fe fydd rhai yn troi tuag at Dduw am gymorth. Mae un emyn adnabyddus y bydd ein milwyr sy’n ymladd dramor yn gallu cael nerth ohono. Yn Saesneg maen nhw’n canu, ‘O God our help in ages past’ – neu, yn Gymraeg:

    O Dduw ein cymorth ym mhob oes
    A’n gobaith tra bo byd
    Ein cysgod dan bob tymestl groes
    A’n bythol noddfa glyd.

  8. Gall Duw fod yn gymorth i ni, yn obaith ac yn gysgod i ni, pan fydd y daith yn mynd yn anodd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y dydd newydd hwn.

Dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth fydd y gofynion fydd arnom ni heddiw.

Efallai y bydd gofyn i ni gynhyrchu swm enfawr o ymdrech ar gyfer rhyw dasg.

Meddyliwch am y ffynhonnell o nerth sydd yn cronni ym mhob un ohonom.
Meddyliwch hefyd am nerth aruthrol Duw sy’n barod bob amser i’n helpu ni.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y dydd newydd hwn.

Gall heddiw fod yn ddiwrnod hawdd i ni, gyda llawer o lawenydd a hwyl a thangnefedd.

Neu, fe all heddiw ddod â sialensiau mawr i ni.
Diolch i ti fod gennym y nerth oddi mewn i ni i oresgyn llawer o anawsterau.

Mae ein cyrff yn gryf, mae gennym ni lawer o bobl sy’n barod i’n helpu ni, ac mae ein teuluoedd a’n ffrindiau yn ein caru ni.
Diolch dy fod ti eisiau rhannu’r diwrnod hwn gyda ni hefyd, gan roi i ni gymorth, gobaith a chysgod.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon