Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dysgu oddi wrth Deyrnas yr Anifeiliaid – y Cameleon

Y bumed mewn cyfres o bum rhan am wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth deyrnas yr anifeiliaid

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Amlygu’r ansawdd o allu addasu, gan gyfeirio at y cameleon.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o’r cameleonod.

    Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod beth yw enw’r anifail.

  2. Gofynnwch i'r plant edrych yn ofalus ar y lluniau ac yna geisio disgrifio gwahanol nodweddion y cameleon, yr hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol am y gwahanol rai. Holwch oes rhywun yn gallu dweud mwy wrthych chi am y cameleon.

  3. Eglurwch mai math o fadfall yw’r cameleon. Mae yna lawer o wahanol fathau o gameleon, ac fel arfer maen nhw i’w cael mewn mannau lle mae’r hinsawdd yn gynhesach, mannau sy'n amrywio o amgylchedd yr anialwch i amgylchedd coedwig law. Fe fydd cameleon yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes weithiau hefyd. Maen nhw’n amrywio o ran eu lliw, a gall rhai newid eu lliw i gyd-fynd â'u hamgylchedd. Mae'r nodwedd hon yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer cuddliw a chyfathrebu. Fodd bynnag, fe fydd chameleonod fel y cameleon Namaqua sy’n byw yn yr anialwch yn defnyddio eu gallu i newid lliw er mwyn helpu i reoleiddio tymheredd y corff. Maen nhw’n newid eu lliw i lwyd golau er mwyn adlewyrchu'r gwres pan fyddan nhw’n boeth, ac yn newid i ddu pan fydd arnyn nhw angen amsugno gwres yn fwy effeithlon.
  4. Dewisol: chwaraewch rannau o’r fideo gan y gymdeithas National Geographic, ‘Beautiful footage: chameleons are amazing’, ar gael ar:http://tinyurl.com/zs8j5x9
  5. Esboniwch fod cameleonod y gallu addasu eu hunain i newidiadau yn eu hamgylchedd cyfagos. Maen nhw’n gwneud hynny’n gyflym ac yn effeithlon.

  6. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw’n hapus pan fydd pethau o’u cwmpas yn newid. Defnyddiwch amrywiaeth o gwestiynau priodol er mwyn ystyried newidiadau a allai fod yn rhan o brofiad y plant, fel yr enghreifftiau canlynol :

    - Sut byddwch chi'n teimlo pan fyddwch chi’n symud i ddosbarth newydd?
    - Sut byddech chi’n teimlo pe byddai eich ffrind yn symud i fyw i ran wahanol o'r wlad?
    - A oes unrhyw un ohonoch chi wedi symud i fyw i dy arall ryw dro? Sut oeddech chi'n teimlo bryd hynny?

  7. Mae rhai newidiadau yn digwydd yn rheolaidd, fel cael athro neu athrawes wahanol ar ddechrau pob blwyddyn ysgol newydd. Mae rhai newidiadau yn hwyl, fel cael ymweld â rhywle newydd ar wyliau. Mae rhai newidiadau yn hwyl ac yn gallu peri ychydig o bryder ar yr un pryd. Er enghraifft, pan fydd babi bach newydd ymuno â'r teulu, mae’n achlysur cyffrous, ond fe all cael ychydig llai o sylw nag arfer brofi’n anodd am ychydig ar y dechrau. Weithiau, fe fyddwn yn penderfynu gwneud newidiadau ein hunain. Efallai y byddwn yn penderfynu rhoi cynnig ar hobi newydd, gwneud mwy o ymdrech gyda’n gwaith yn yr ysgol, gwneud mwy o waith tacluso yn ein hystafell wely, neu geisio bwyta llai o felysion! Mae rhai newidiadau yn anodd i'w gwneud, ond fe allai’r newidiadau hynny fod yn fuddiol ac yn werth eu gwneud.

  8. Nodwch fod rhai pobl yn ymddangos fel petai newidiadau’n amharu dim arnyn nhw, ond fe all rhai pobl eraill ei chael yn anodd iawn dygymod â newidiadau. Mae llawer o bobl yn hoffi cael trefn reolaidd ac yn hoffi bod yn gwybod beth sy'n digwydd nesaf – mae hynny’n rhoi ymdeimlad o ddiogelwch iddyn nhw. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo'n ddiogel pan fyddwn gyda phobl yr ydym yn eu hadnabod ac yn gallu ymddiried ynddyn nhw. Weithiau, gall newid ddod ag ansicrwydd a gwneud i ni deimlo'n ansicr.

  9. Bydd pawb yn profi newid ar wahanol adegau yn eu bywyd. Mae bywyd yn symud ac yn mynd yn ei flaen yn barhaus. Mae rhai newidiadau yn fach, neu'n digwydd yn naturiol ac yn raddol dros gyfnod o amser. Mae newidiadau eraill yn digwydd yn sydyn ac fe allen nhw gael effaith fawr ar ein bywyd. Weithiau, fe allwn ni deimlo ein bod yn cael ein llethu gan y newidiadau, ac ambell dro fe allwn ni fod yn meddwl tybed sut y byddwn yn gallu ymdopi mewn sefyllfaoedd penodol.

Amser i feddwl

Dangoswch y ddelwedd o gylch bywyd y pili-pala.

Esboniwch y bydd y newidiadau’n digwydd drwy gydol ein bywydau. Mae newid yn rhan naturiol o fywyd, ac mae angen i ni ddysgu deall, derbyn ac ymdopi â newidiadau sy'n digwydd i ni. Pan fydd newidiadau yn digwydd, mae angen i ni ddysgu sut i fod yn hyblyg, fel y cameleon. Fodd bynnag, yn wahanol i'r cameleon, fe allwn ni bob amser ofyn am help! Weithiau, mae angen i ni ddysgu bod yn wydn - mae angen i ni gymryd anadl ddofn a dysgu sut i ymdopi - ond does dim rhaid i ni wneud hyn i gyd ar ein pen ein hunai, byth.

Anogwch y plant i siarad ag oedolyn y maen nhw’n ymddiried ynddo os ydyn nhw’n cael trafferth gydag unrhyw newidiadau yn eu bywyd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni gyda’r newidiadau y byddwn ni’n eu hwynebu yn ein bywyd.
Helpa ni pan fyddwn ni’n cael pethau’n anodd.
Helpa ni i fod yn amyneddgar gyda phobl eraill pan fyddan nhw’n cael pethau’n anodd.
Helpa ni i ymddwyn yn garedig ac yn ofalgar.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon