Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Awyrennau gweddi

gan the Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod Duw bob amser yn gwrando ar ein gweddïau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tair o awyrennau papur. Mae’n bosib i’r rhain gael eu gwneud ymlaen llaw neu yn ystod y gwasanaeth. Efallai y byddwch yn dymuno cael papur yn barod fel y gall rhai o'r plant wneud yr awyrennau.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen rhywbeth ar gyfer gwneud i’r awyrennau deithio i mewn iddyn nhw neu drwyddyn nhw, fel cylchyn hwla, bwced neu focs.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant ydyn nhw'n gallu meddwl am rywun y maen nhw’n hoff iawn o siarad ag ef neu hi. Gofynnwch iddyn nhw pam eu bod yn hoffi siarad gyda'r person hwnnw - efallai eu bod yn gwneud iddyn nhw chwerthin, neu efallai eu bod yn dda am wrando a ddim yn torri ar eu traws wrth iddyn nhw ddweud rhywbeth.

  2. Eglurwch ein bod yn gallu siarad â Duw ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le. Rydyn ni’n galw’r weithred o siarad â Duw yn 'gweddïo'. Mae Duw’n hoffi ein clywed ni’n gweddïo. Yn aml, pan fyddwn ni’n gweddïo, rydyn ni’n rhoi ein dwylo gyda’i gilydd ac yn cau ein llygaid. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ni wneud hyn er mwyn i Dduw wrando arnom ni. Mae Duw bob amser yno i wrando ar beth bynnag fyddwn ni eisiau ei ddweud wrtho.

  3. Gwahoddwch dri gwirfoddolwr i'r tu blaen a rhoi awyren bapur bob un iddyn nhw. (Neu, fe allech chi wahodd tri o blant i'r tu blaen i wneud awyrennau papur eu hunain os hoffech chi. Ond, gwiriwch cyn y gwasanaeth y bydd y plant yn gallu gwneud hyn yn gyflym!)

  4. Gofalwch bod y plant yn sefyll gan wynebu draw oddi wrth y gynulleidfa, fel eu bod yn anelu’r awyrennau i ffwrdd oddi wrth y plant sy’n eistedd. Eglurwch eich bod eisiau i’r tri gwirfoddolwr, un ar y tro, anelu i hedfan eu hawyrennau i mewn i'r targed (y cylchyn, y bwced neu’r bocs).

  5. Ar ôl i'r plant gael cyfle i geisio i hedfan awyrennau i mewn i'r targed, fe allech chi wneud yr her yn fwy anodd neu'n haws drwy symud y targed.

  6. Ar yr ymgais olaf, gwnewch yn siwr bod pob plentyn yn llwyddo i gyrraedd y targed drwy symud y targed i ddal yr awyrennau.

Amser i feddwl

Eglurwch, pan fyddwn yn gweddïo, y gall ymddangos weithiau fel pe na bai Duw yn gwrando. Ambell dro, mae'n teimlo fel pe baem yn methu taro'r targed. Fodd bynnag, mae Cristnogion yn credu fod Duw bob amser yn gwrando ar ein gweddïau. Mae fel pe byddai’n plygu i lawr ac yn dod yn agos atom fel bod ein geiriau yn mynd yn syth i mewn i’w glust!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ei bod hi’n bosib i ni siarad â thi ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le.
Diolch dy fod ti bob amser yn gwrando.
Diolch dy fod ti wrth dy fodd ein bod ni yn siarad â thi.
Helpa ni i wneud amser i wrando ar bobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon