Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bara'r Bywyd

Y gyntaf yn y gyfres sy’n ystyried datganiadau Iesu, ‘Myfi yw ... ’

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried datganiad Iesu mai ef yw bara’r bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi arddangos y trosiadau canlynol yn ystod y gwasanaeth, ac os felly, bydd hefyd angen i chi drefnu modd o wneud hynny:

    - ‘Rhosyn wyf fi, gyda pherarogl hyfryd a drain pigog’
    - ‘Enfys wyf fi, yn lliwgar ag addewid’
    - ‘Y gaeaf wyf fi, wedi rhewi ac yn oer'
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddangos y clip fideo YouTube, ‘I am the bread of life(John 6.35) - NIV’, ac os felly, bydd angen i chi drefnu modd o wneud hynny. Mae’n para am 2.38 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=xdRDgaOgJlA

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o Muhammad Ali.

    Gofynnwch o'r plant a ydyn nhw'n gwybod beth yw enw'r dyn sydd yn y llun. Eglurwch fod Muhammad Ali yn focsiwr proffesiynol ac yn actifydd o America, a fu farw yn y flwyddyn 2016. Mae'n cael ei gydnabod fel un o'r unigolion mwyaf arwyddocaol ym myd chwaraeon yn yr ugeinfed ganrif. Caiff Muhammad Ali ei gofio am y ffordd yr oedd yn disgrifio'i hun, trwy ddweud: ‘I’m not the greatest. I’m the double greatest.’

    Does ddim amheuaeth felly o'r disgrifiad hwnnw, beth yr oedd Muhammad Ali yn feddwl ohono'i hun.

  2. Efallai nad oes gennym un MuhammadAli yn y gwasanaeth hwn heddiw , ond mae gennym lawer o ‘sêr disglair’, ‘uwch-sêr’, ‘cyfrifianellau ar droed’ a ‘rhedwyr uwch sonig’. Dyma ffordd o ddisgrifio pobl trwy ddefnyddio trosiadau. Ffigur ymadrodd yw trosiad sy'n cael ei ddefnyddio am wrthrych (yn yr achos hwn, pobl), er nad yw'n ddefnydd llythrennol. Mae'n wahanol i gymhariaeth, sydd yn cymharu dau beth gwahanol ac sy'n cynnwys y geiriau ‘yn debyg i’ neu ‘fel’.

  3. Rydyn ni'n gwybod nad oes sêr go iawn wedi disgyn o'r ffurfafen y funud hon i'r ystafell yma. Fodd bynnag, fe allwn ni gyfeirio at unigolyn fel seren, oherwydd ei fod ef neu hi’n goleuo'r ystafell â'u gwên hyfryd.

  4. Darllenwch yn uchel y tri throsiad canlynol a gofynnwch i'r plant beth y mae pob un ohonyn nhw'n ei olygu:

    - ‘Rhosyn wyf fi, gyda pherarogl hyfryd a drain pigog’
    - ‘Enfys wyf fi, yn lliwgar a chydag addewid’
    - ‘Y gaeaf wyf fi, yn rhewllyd ac yn oer'

  5. Mae'r Beibl yn aml yn defnyddio trosiadau wrth ddisgrifio Iesu. Efallai bod rhai o'r trosiadau sydd cael eu defnyddio yn swnio braidd yn od. Yn Efengyl Ioan 6.35, mae Iesu’n dweud, ‘Myfi yw bara’r bywyd.’

    Dangoswch y ddelwedd o’r torthau bara.

    Gofynnwch i'r plant feddwl faint o fathau gwahanol o fara y maen nhw’n gallu meddwl amdanyn nhw. Efallai y byddwch yn dymuno llunio rhestr. Mae enghreifftiau yn cynnwys bara gwenith cyflawn, bara pitta, bara naan, bara brown garw (granary), a rhai sy’n cynnwys hadau, heb sôn am y bara gwyn cyffredin.

  6. Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - O beth y gwneir bara? (Ateb: Caiff bara ei wneud â'r grawn sydd ar gael ym mhob gwlad a dyna beth yw’r prif ymborth mewn llawer o wledydd y byd.)
    -Beth mae bara yn ei roi i'n cyrff? (Ateb: mae bara yn rhywbeth yr ydym yn dueddol o'i fwyta bob dydd oherwydd nid yw wrth i ni ei fwyta unwaith yn unig yn ei bodloni am byth.)

Amser i feddwl

Mae Cristnogion yn credu pan oedd Iesu'n disgrifio'i hun fel ‘bara'r bywyd’, roedd yn golygu ei fod Ef yn gallu diwallu anghenion pobl. Pan fyddwn yn bwyta bara ar gyfer ein cinio, bydd chwant bwyd arnom ymhen ychydig oriau'n ddiweddarach.  Fodd bynnag, mae Cristnogion yn credu bod gan Iesu'r gallu i'w bodloni am byth. Maen nhw'n credu ei fod yn dod â heddwch, bodlonrwydd, maddeuant, llawenydd a phwrpas i'w bywyd.

Efallai yr hoffech chi ddangos y clip fideo YouTube, ‘I am the bread of life(John 6.35) - NIV, ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=xdRDgaOgJlA

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y bwyd rydyn ni’n ei fwynhau bob dydd.
Helpa ni i gofio’r rhai hynny sydd heb ddigon o fwyd i’w fwyta.
Diolch dy fod ti’n gallu bodloni ein hanghenion mewnol,
a diolch dy fod ti’n gallu ein llenwi â llawenydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon