Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy fyddwn ni’n eu parchu

Pobl sy'n ein helpu i ennill ein parch

gan Manon Ceridwen Parry (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y mae pobl yn ein helpu, a sut y gwnaeth Iesu drin pawb â pharch, beth bynnag oedd eu rôl yn y gymdeithas.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod rhai delweddau ar gael gennych chi o wahanol bobl mewn iwnifform yn gwneud eu gwaith, a threfnwch fodd o arddangos y delweddau hyn yn ystod y gwasanaeth:

- ymladdwr tân, ar gael ar:https://tinyurl.com/gnz3oel
- dau swyddog o’r heddlu, ar gael ar:https://tinyurl.com/zz7bnhp
- rhai parafeddygon, ar gael ar:https://tinyurl.com/gufm9rw
- athro, ar gael ar:https://tinyurl.com/jgqjfwo
- ficer, ar gael ar:https://tinyurl.com/gsto2lv

Gwasanaeth

  1. Dangoswch i'r plant y delweddau o wahanol bobl mewn iwnifform yn gwneud eu gwaith.

    Gofynnwch i'r plant ddisgrifio beth mae’r bobl yn y lluniau ei wneud fel rhan o'u swyddi.

  2. Trafodwch bob delwedd yn ei thro, a pham y mae'r bobl hyn wedi ennill parch gan eraill. Er enghraifft, rydym yn parchu diffoddwyr tân oherwydd eu bod yn peryglu eu bywydau er mwyn achub pobl o danau.

  3. Ystyried gyda'r plant pa mor 'bwysig' yw pob rôl. Er enghraifft, mae glanhawyr yn perfformio gwaith pwysig iawn: efallai na fyddai pobl yn ystyried y swydd hon fel swydd a fyddai’n gallu arbed rhywun mewn argyfwng, ond os nad yw ein hysgolion a'n hysbytai yn lân, byddai germau’n lledaenu a byddai llawer o bobl yn mynd yn sâl. Yn wir, mae pob un o'r mathau hyn o rolau yn bwysig, ac mae’r rhai sy’n gwneud y gwaith yn bobl sy'n haeddu ein parch.

  4. Mae rhai swyddi yn swyddi amhoblogaidd, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gwneud gan rywun. Er enghraifft, efallai nad yw ein rhieni yn hoffi wardeiniaid traffig oherwydd eu bod wedi derbyn tocynnau parcio ganddyn nhw, ond os yw pobl yn parcio lle bynnag y mynnan nhw, fe allai hynny fod yn beryglus.

  5. Gofynnwch i'r plant a ydynt wedi clywed am y gwaith o gasglu trethi. Trafodwch beth yw rôl casglwr trethi, ac i ba bwrpas y mae trethi’n cael eu defnyddio. Esboniwch y gallai’r gwaith o fod yn gasglwr trethi gael ei ystyried yn swydd amhoblogaidd. Rhaid i oedolion dalu cyfran o'u cyflogau mewn treth, a dydyn nhw ddim bob amser yn hoffi rhoi'r arian y maen nhw wedi ei ennill i'r llywodraeth. Fodd bynnag, mae'r arian hwn yn helpu i dalu am ysgolion ac am ysbytai. 

  6. Trafodwch sut roedd casglwyr trethi, yn yr adeg yr oedd Iesu’n byw, yn arbennig o amhoblogaidd am eu bod yn anonest. Roedden nhw’n aml yn codi gormod ar y bobl ac yn cadw’r arian ychwanegol iddyn nhw’u hunain. Roedd y casglwyr trethi yn alltudion: pobl a oedd yn cael eu 'bwrw allan' - ddim yn cael eu cynnwys yn y gymdeithas - roedden nhw’n cael eu casáu ac roedd pobl yn edrych i lawr arnyn nhw. Nid yw'n braf bod mewn sefyllfa felly.

    Weithiau, fe allwn ninnau deimlo fel alltudion hefyd, neu’r wrthodedig, os nad ydyn ni’n cael ein cynnwys mewn gemau, neu os yw ein ffrindiau’n cweryla gyda ni. Ond doedd Iesu ddim eisiau i unrhyw un fod yn wrthodedig. Roedd am i bawb deimlo fod ar bobl eu heisiau a theimlo bod rhywun yn eu caru. 

  7. Darllenwch y stori am Iesu’n galw Mathew (o Efengyl Mathew 9.9-13) neu adroddwch y stori yn eich geiriau eich hun.

    Wrth i Iesu gerdded ar hyd y ffordd un diwrnod, fe welodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd ym mwth y casglwr trethi, ac meddai wrtho, "Canlyn fi." Cododd Mathew ar ei draed ac aeth ar ôl Iesu. Wrth i Iesu eistedd yn cael cinio yn nhy Matthew, fe ddaeth llawer o gasglwyr trethi eraill yno, a phechaduriaid hefyd, ac eistedd yno gyda Iesu a'i ddisgyblion. Pan welodd y Phariseaid hyn, roedden nhw wedi synnu ac fe wnaethon nhw ddweud wrth y disgyblion, "Pam y mae eich athro yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?" Ond pan glywodd Iesu hyn, fe ddywedodd, “Nid ar y cryfion ond ar y cleifion y mae angen meddyg.” Nid pobl iach sydd angen meddyg, ond y bobl sy’n sâl. Ac fe ddywedodd hyn hefyd “ Trugaredd a ddymunaf, nid aberth,” gan ddweud wrth y Phariseaid am fynd a dysgu beth oedd ystyr yr hyn yr oedd wedi ei ddweud. Fe ychwanegodd wedyn ‘Oherwydd i alw pechaduriaid, nid y rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.’

    Roedd ar Iesu eisiau i Mathew ei ddilyn a bod yn gynorthwywr iddo ac yn gyfaill. Gofynnodd i Mathew dalu'r holl arian yr oedd wedi ei ddwyn oddi ar bobl yn ôl iddyn nhw, ac fe roddodd gyfle iddo ddechrau eto. Roedd Iesu bob amser yn parchu pobl ac yn rhoi ail gyfle iddyn nhw.

Amser i feddwl

Rhowch amser i'r plant feddwl am sut deimlad yw bod yn alltud. Pwysleisiwch fod Iesu’n addysgu y dylai pawb gael eu cynnwys, eu parchu a'u caru, pwy bynnag ydyn nhw a pha swydd bynnag y maen nhw’n ei gwneud.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Helpa ni i garu pawb, pwy bynnag ydyn nhw.
Help ni i gynnwys pawb yn y pethau y byddwn ni’n eu gwneud.
Helpa ni i fod yn ddiolchgar am y bobl hynny sy’n ein helpu ni.
Helpa ni i drin pobl â pharch bob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon