Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Cinio Mawr

Mae Cinio Mawr yr Eden Project yn cael ei gynnal ar 18 Mehefin 2017

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried creu cymuned a chyfeillgarwch trwy rannu bwyd gyda'n gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiad Cinio Mawr gan yr Eden Project ar gael ar:https://www.edenprojectcommunities.com/thebiglunch 

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddarllen neu adrodd yr hanes am fwydo’r 5,000, sydd i'w gael yn Efengyl Mathew 14.13-21.

  • Nodwch:mae’r gwasanaeth hwn yn cyfeirio at gymdogion a phwysigrwydd cymuned. Efallai y byddwch am bwysleisio na ddylai'r plant byth ymweld â chymdogion heb ganiatâd eu rhieni neu eu gofalwyr.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ddeall gyda'r gair ‘cymydog’. Ar ôl cael trafodaeth, gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw'n adnabod unrhyw gymdogion sy'n byw yn y strydoedd lle maen nhw'n byw.

    - A ydyn nhw'n gwybod pwy sy'n byw drws nesaf i'w cartref?
    - A ydyn nhw'n gwybod pwy sy'n byw ar draws y ffordd?
    - A ydyn nhw'n gwybod faint o deuluoedd sy'n byw yn y stryd?
    - Faint o bobl oedrannus sy'n byw ar eu pen eu hunain?
    - Faint o bobl sydd yn berchen cwn neu gathod 

  2. Nodwch, yn yr oes ddigidol hon, mae'n hawdd cysylltu'n gyson â'n ffrindiau a theuluoedd. Fodd bynnag, efallai nad ydyn ni'n gwybod beth yw enw'r bobl sy'n byw yn ein hymyl ni. O ganlyniad, gall pobl yn eu cymunedau weithiau deimlo'n unig iawn. 

  3. Dangoswch y delweddau o bobl yn rhannu pryd o fwyd gyda’i gilydd.

    Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n feddwl y mae’r bobl ym mhob un o'r lluniau yn ei ddathlu. Gofynnwch iddyn nhw pam y maen nhw'n meddwl fod yr adegau hyn yn rhai sy'n rhoi mwynhad.

  4. Nodwch fod llawer o ddathliadau yn ymwneud â rhannu pryd o fwyd fel rhan ohonyn nhw. Yn gyffredinol, mae cyd-fwyta yn cael ei weld fel rhywbeth pleserus. Mae'n adeg sy'n dod â phobl ynghyd, gyda chyfle i bobl sgwrsio, chwerthin a chael mwynhad. 

  5. Eglurwch fod stori i'w chael yn y Beibl am adeg y cafodd Iesu a'i ddisgyblion bicnic yng nghwmni dros 5,000 o bobl! Os hoffech chi, gallwch ddarllen y stori sydd i'w gweld yn Efengyl Mathew 14.13-21. 

  6. Sawl blwyddyn yn ôl, fe sylweddolodd elusen o'r enw, 'The Eden Project' pa mor unig yr oedd rhai pobl yn y gymuned, a dechrau datblygu gweithgaredd o'r enw, 'The Big Lunch'. Cafodd y 'The Big Lunch'  ei lansio yn y flwyddyn 2009, ac erbyn hyn tyfodd yn ddigwyddiad lle mae miliynau o bobl yn dod ynghyd i fwyta a chael mwynhad. Mae tîm 'The Big Lunch'  wedi datgan: ‘Fe wnaethom ni ddechrau gyda syniad syml iawn: 'un diwrnod y flwyddyn, am ychydig oriau gogoneddus, pan fydd ceir yn stopio, swildod yn peidio â bod, tristwch yn cael ei leddfu, a’r wlad yn dod ynghyd yn y stryd i gyfarfod ei gilydd, er mwyn cyfarch, rhannu, cyfnewid, canu, chwarae a chwerthin, am ddim rheswm mwy na bod angen i bawb ohonom ni wneud hynny.’

    Mae'r 'The Big Lunch'  yn digwydd yn awr bob blwyddyn ar un dydd Sul ym mis Mehefin.  Eleni, bydd y digwyddiad ar ddydd Sul 18 Mehefin. 

  7. Nid ydy'r 'Big Lunch' , fodd bynnag, yn golygu ein bod yn bwyta cymaint nes ein bod yn methu â chwythu! Yn hytrach, mae'n golygu bod grwp niferus o bobl yn dod ynghyd ac yn cyd-fwyta. Y flwyddyn ddiwethaf, bu mwy na 7.3 miliwn o bobl yn rhan o'r 'Big Lunch'  - pawb yn cyd-fwyta mewn gwahanol rannau o'r wlad. Dros saith miliwn o bobl - mae hynny'n bryd bwyd anferthol! 

  8. Gall y'Big Lunch' olygu bwyta brechdanau yng ngardd rhywun, picnic ar gae chwarae gerllaw, neu hyd yn oed barti stryd. Y syniad yw cael cymaint ag sy'n bosib o bobl ledled y wlad i gael cinio canol dydd gyda'u cymdogion yr adeg hon ym mis Mehefin bob blwyddyn. Felly, pwy fyddai'n debygol o ddod o'ch stryd chi?

    - Y bobl sy'n byw drws nesaf i'ch cartref
    - Y bobl sy'n byw gyferbyn â chi yn y stryd
    - Teuluoedd
    - Pobl hyn sy'n byw ar ben eu hunain
    - Pobl sydd â chwn a chathod 

  9. Mae'r 'The Big Lunch'  wedi cael ei gynllunio i ddod â'r gymuned at ei gilydd mewn ysbryd o gyfeillgarwch a hapusrwydd. Cafodd ei brofi bod y cynulliadau hyn yn gwella hapusrwydd a lles pobl trwy helpu i adeiladu cymunedau mwy hydwyth, sy’n cyd-gysylltu'n dda â'i gilydd. Mae teuluoedd yn dod i adnabod ei gilydd, cenedlaethau'n cymysgu â'i gilydd, a phobl yn gwneud ffrindiau a phob amser, mae llawer o sgwrsio a chwerthin yn digwydd! 

  10.  Dangoswch y clip fideo YouTube, ‘The big lunch 2015’.

Amser i feddwl

Efallai nad yw pob un ohonom â Chinio Mawr wedi ei gynllunio ar gyfer 18 Mehefin ond gall pob un ohonom fod yn rhan o wneud i bobl deimlo bod croeso iddyn nhw, a'u cynnwys yn ein gweithgareddau. Nid yw'r teimlad o fod yn ynysig ac yn unig yn deimlad pleserus. Beth allwn ni ei wneud er mwyn sicrhau nad yw’r rhai sydd o'n cwmpas yn teimlo felly?

Fe ddywedodd Iesu, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Sut y gallai Cinio Mawr gyflawni’r gorchymyn hwnnw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n caru ein cymunedau.
Diolch i ti am ffrindiau a theulu.
Helpa ni i feddwl am y bobl sydd o’n cwmpas.
Helpa ni i gynnwys pobl eraill ac i wneud amser i siarad â phobl a allai fod yn teimlo’n unig.
Boed i bob Cinio Mawr eleni fod yn llwyddiannus.
Amen.

Syniadau Dilynol

Fe fyddai’n bosib gofyn i'r plant wneud tudalen gynllunio ar gyfer Cinio Mawr, gan ystyried lleoliad, dyddiad, gwahoddiadau, bwyd, addurniadau, cefnogaeth leol, gemau a’r tywydd wrth gwrs. Gall yr ysgol hyd yn oed drefnu digwyddiad, efallai. Mae mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn ar gael ar: https://www.edenprojectcommunities.com/thebiglunch

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon