Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae dwr yn beth rhyfeddol!

Ystyried gwaith yr elusen, WaterAid, ac angen pobl am ddwr

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried pa mor bwysig yw dwr, a meddwl am ein cyfrifoldeb o ofalu am yr adnodd gwerthfawr hwn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd ac wyth Darllenydd.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen amser i ymarfer y cyflwyniad cyn y gwasanaeth.
  • Mae mwy o wybodaeth i’w chael am WaterAid ar:http://www.wateraid.org/uk

Gwasanaeth

Arweinydd: Holwch y plant ydyn nhw’n gallu dyfalu beth rydych chi’n mynd i sôn amdano heddiw? Rhowch rai cliwiau iddyn nhw fel y rhai sy’n dilyn: 

- Mae’n gorchuddio 75 y cant o arwynebedd y Ddaear.
- Fydden ni ddim yn gallu byw mwy nag wythnos heb hwn 
- Dyma beth yw dwy ran o dair o’ch corff.

Eglurwch mai’r ateb yw ‘dwr’.

Holwch y plant beth mae dwr yn ei olygu iddyn nhw. Eglurwch ein bod yn awr yn mynd i gael clywed sut y byddai rhai pobl eraill yn ymateb i’r un cwestiwn.

Darllenydd 1:  Rydw i wrth fy modd yn y dwr. Rydw i’n hoffi mynd i nofio gyda fy ffrindiau. Rydyn ni’n sefyll ar ein dwylo yn y dwr ac weithiau’n nofio rhwng coesau’r naill a’r llall. Rydw i wrth fy modd yn gwisgo gogls er mwyn i mi allu gweld o dan y dwr.

Darllenydd 2: Rydw i’n casáu dwr. Dydw i ddim yn hoffi rhoi fy wyneb yn y dwr o gwbl. Fydda i byth yn gallu codi fy nhraed oddi ar waelod y pwll. Rydw i o ddifrif ofn boddi.

Darllenydd 3: Mae fy mam wrth ei bodd yn cael bath. Bob nos, fe fydd hi yn gorwedd am hydoedd yn y dwr cynnes llawn swigod. Mae hi’n dweud bod hynny’n cael gwared â straen y diwrnod ac yn gwneud iddi ymlacio’n llwyr a theimlo’n hapus.

Darllenydd 4: Mae fy chwaer yn yfed tua wyth llond gwydr o ddwr bob dydd. Mae hi’n dweud ei fod yn beth da i gadw’i chorff a’i chroen iach.

Darllenydd 5: Ffermwr mewn gwlad yn Affrica yw fy nhad i. Mae’n gweithio’n galed i dyfu bwyd i fwydo ein teulu. Ond os na ddaw’r glaw, fydd y cnydau ddim yn tyfu. Yna, fydd gennym ni ddim digon o fwyd, ac fe fyddwn ni’n newynu ac yn mynd yn wael iawn. Yn ein hachos ni, mae dwr yn golygu glaw, ac mae glaw yn golygu y bydd gennym ni fwyd i’n cadw ni’n fyw ac yn iach.

Darllenydd 6:  Rydw i’n byw mewn pentref bach yn India. Rhaid i mi gerdded am awr cyn cyrraedd yr afon i gael dwr i’n teulu ni. Mae’r dwr yn drwm iawn i’w gario, ac mae’r tywydd yn boeth iawn, ond mae’n rhaid i mi wneud hyn bob dydd. Dyma’r unig ddwr a fydd gan fy nheulu cyfan am y diwrnod.

Darllenydd 7: Mae gennym ni ffynnon yn ein pentref ni yn Kenya. Mae’r dwr yn edrych yn ddigon glân, ond weithiau fe fydd germau yn y dwr sy’n amhosib eu gweld, ac maen nhw’n gallu ein gwneud yn sâl iawn os byddwn ni’n yfed y dwr. Rhaid i ni yfed y dwr, does dim dwr arall i’w gael, ond wyddon ni ddim pa bryd y bydd y dwr yn ein gwneud yn sâl.

Darllenydd 8: Yn ein ty ni fe fyddwn ni’n casglu ceiniogau ac arian mân ac yn rhoi’r arian tuag at elusen o’r enw WaterAid. Dyma elusen sy’n gweithio mewn gwledydd tlawd ledled y byd er mwyn darparu dwr glân, sy’n ddiogel i’w yfed, i’r bobl yn y gwledydd hynny.

Amser i feddwl

Arweinydd:Rydyn ni i gyd yn meddwl am ddwr mewn gwahanol ffyrdd. Ac eto, mae dwr yn bwysig iawn i fywyd pob un ohonom ni. Gadewch i ni ystyried pa mor bwysig yw dwr wrth i ni feddwl am y geiriau canlynol.

Darllenydd 1:Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am yr hwyl y gallwn ni ei gael yn y dwr.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Darllenydd 2:Gadewch i ni fod yn ymwybodol o beryglon dwr, a bod yn ystyriol tuag at y rhai hynny sydd ddim yn hyderus iawn yn y dwr.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Darllenydd 3:Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am y ffordd y mae dwr yn gallu ein glanhau a gwneud i ni edrych a theimlo’n well.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Darllenydd 4:Gadewch i ni gofio pa mor bwysig yw dwr i’n cyrff ni, a pha mor bwysig yw hi i ni yfed digon ohono.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Darllenydd 5:Gadewch i ni feddwl am y bobl hynny sydd angen dwr i dyfu cnydau.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Darllenydd 6:Gadewch i ni feddwl am y bobl hynny sy’n gorfod cerdded milltiroedd i nôl dwr a’i gario i’w cartrefi.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Darllenydd 7:Gadewch i ni feddwl am y bobl hynny sydd yn methu cael dwr glân i’w yfed.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Darllenydd 8:Gadewch i ni gefnogi asiantaethau cefnogi felWaterAid,asiantaethau sy’n helpu pobl ledled y byd i gael dwr glân er mwyn iddyn nhw allu byw.

Oedwch i roi amser i feddwl.

Arweinydd:Nawr, gwrandewch ar eiriau’r weddi hon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae dwr yn beth rhyfeddol, ac rydyn ni’n diolch i ti amdano.
Gall dwr fod yn hwyl, ond eto fe all fod yn beth peryglus.
Helpa ni i ymddwyn yn gyfrifol pan fyddwn ni’n ymwneud â dwr.
Fe allwn ni fod wedi ein hamgylchynu â dwr, ac eto fe allwn ni gael anhawster i ddod o hyd i ddwr glân.
Helpa ni i beidio â chymryd dwr yn ganiataol.
Mae dwr i’w gael yn rhad ac am ddim, ond eto mae’n adnodd gwerthfawr.
Helpa ni i beidio â gwastraffu dwr.
Diolch i ti unwaith eto am y rhodd werthfawr o ddwr.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon