Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llyfrau gwych

Pwysigrwydd darllen

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw llyfrau a meddwl am sut rydyn ni’n eu defnyddio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch gasgliad o lyfrau a’u gosod ar fwrdd yn barod ar gyfer y gêm matsio y mae cyfeiriad ati yng Ngham 3 y Gwasanaeth. Er enghraifft, geiriadur, cyfeirlyfr ffôn, gwyddoniadur, Beibl, llyfr stori ac unrhyw lyfrau eraill yr hoffech chi eu hychwanegu.

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y gerdd fach syml hon fel cyflwyniad i’r gwasanaeth.

    Ewch i mewn i’r llyfrgell ac edrych ar y llyfrau.
    Ewch i’r byd rhyfeddol sydd i’w gael tu mewn i’r cloriau.
    Mae rhai llyfrau’n llawn storïau am antur a digwyddiadau,
    A rhai eraill diddorol yn cofnodi llu o ffeithiau.
    Drwy bori mewn llyfrau, fe ddysgwn gymaint o bethau.
    Mae’n fyd llawn gwybodaeth i chi ac i minnau.

  2. Mae gennym rai llyfrau hyfryd yn llyfrgell yr ysgol. Mae gan y rhan fwyaf ohonom ein hoff lyfr stori. O’r llyfrau, gallwn ddysgu am anifeiliaid ac adar, coed a blodau. Gallwn gywain gwybodaeth am blant mewn gwledydd eraill a dysgu am sut roedd pobl yn byw flynyddoedd yn ôl. Mae llyfrau i’w cael sy’n sôn am geir, trenau, llongau, awyrennau ac am y gofod. Gallwn ddarllen am fyd Duw ac am grefyddau eraill. Mae byd llyfrau a gwybodaeth yn ddiddiwedd. Mae rhai yn llyfrau ffeithiol ac mae rhai yn ffuglen.

    Holwch y  plant ydyn nhw’n gallu esbonio'r gwahaniaeth rhwng llyfrau ffeithiol a llyfrau ffuglen.

  3. Pwyntiwch at y bwrdd ac at y detholiad o lyfrau sy’n cael eu harddangos. 

    Mae gan lawer ohonom lyfrau gartref a byddwn yn mwynhau cael stori pan fydd hi’n adeg mynd i’r gwely. Pan fyddwn ni wedi dysgu darllen fe allwn ni fynd i mewn i fyd sy’n llawn o bethau newydd a diddorol. Meddyliwch am yr holl lyfrau diddorol sydd yn llyfrgell ein hysgol.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Pa lyfrau rydych chi’n hoffi eu darllen?
    - Oes gennych chi hoff lyfr?

    Treuliwch gyfnod byr yn gwrando ar atebion y plant. Nodwch fod yna lawer o wahanol fathau o lyfrau ar gael, ac mae angen i ni ddysgu sut i'w defnyddio. Holwch y plant ydyn nhw’n gallu dweud wrthych chi, er enghraifft, pa fath o lyfr y byddai angen iddyn nhw ei ddefnyddio i gael gwybod ble mae rhywun yn byw. Pan fydd yr ateb cywir yn cael ei roi, daliwch y llyfr penodol hwnnw i fyny.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol, gan ddal y llyfr cywir i fyny i’r plant ei weld pan fyddwch chi’n cael yr ateb cywir.

    - Pa lyfr fyddai’n dweud wrthych chi sut i sillafu gair yn gywir?
    - Mewn pa fath o lyfr y gallem ddod o hyd i rai straeon am Iesu?
    - Pa lyfrau fyddai'n dweud mwy wrthych chi am bethau a ddigwyddodd amser maith yn ôl?

    Ewch drwy’r holl lyfrau sydd gennych chi ar y bwrdd yn eu tro.

  4. Ydych chi erioed wedi meddwl am yr holl bobl glyfar sy'n ysgrifennu eich hoff gerddi, yn creu'r holl straeon rhyfeddol neu’n treulio oriau yn ymchwilio er mwyn dod o hyd i’r holl wybodaeth? Mae llawer o lyfrau yn cynnwys lluniau hardd: mae rhai o’r lluniau’n cael eu tynnu neu eu paentio gan artistiaid medrus, mae eraill yn lluniau a dynnwyd gan ffotograffwyr dawnus. Mae pobl sy'n paratoi'r llyfrau ar gyfer eu hargraffu, a phobl eraill sydd wedyn yn gwneud y gwaith argraffu. Maen nhw’n treulio oriau er mwyn dod â’r deunydd ynghyd ar gyfer ein pleser ni. 

  5. Fe allech chi ddweud bod llyfrau fel y ffrindiau da sydd gennym ni: dydyn ni ddim bob amser yn eu defnyddio ond rydyn ni’n gwybod ble maen nhw pan fyddwn ni eu hangen.

Amser i feddwl

Meddyliwch am eich hoff lyfr – ydych chi’n gallu dewis dim ond un?

Beth sy’n gwneud y llyfr hwnnw mor arbennig o dda? Dywedwch ‘diolch’ yn ddistaw yn eich meddwl am y bobl sydd wedi ysgrifennu’r llyfr, wedi gwneud y lluniau, a’r bobl eraill sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith dylunio ac wedi argraffu’r llyfr, heb anghofio’r rhai sy’n gweithio yn y siop hefyd lle'r oedd y llyfr ar werth.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ein llyfrau a diolch am y bobl sydd wedi eu paratoi ar ein cyfer ni.
Diolch am yr holl bethau diddorol y gallwn ni eu dysgu o’r llyfrau 
ac am y pleser a gawn ni wrth eu darllen.
Helpa ni i ddal ati i ddarllen llyfrau o bob math
fel y gallwn ni fwynhau byd rhyfeddol llyfrau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon