Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Does neb yn ynys

Rydym angen ein gilydd

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ein hannog i feddwl ynghylch pa mor bwysig yw ein perthynas â phobl eraill, ac am gymaint yr ydym eu hangen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cylchgrawn clecs, rhywbeth sy’n siâp calon (efallai y gallech chi ddefnyddio clustog siâp calon?), mat bach i gynrychioli ynys (byddai tywel gwyrdd yn ddelfrydol), llyfr, teclyn rheoli teledu o bell a rhywfaint o siocledi.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi chwarae’r gân, ‘Everybody in love’ gan JLS yng ngham 2 y gwasanaeth, ac os felly fe fydd gofyn i chi drefnu modd o’i chwarae. Mae’n para am 3.17 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=tSryWcRD_tw

Gwasanaeth

  1. Gwasanaeth yn ymwneud â pherthnasoedd yw’r gwasanaeth hwn.

    Dangoswch y cylchgrawn clecs.

    Pan fyddwn ni’n cyfeirio at y gair ‘perthnasoedd’, tybed faint ohonom ni sy’n meddwl am y math o berthnasoedd yr ydym yn cael eu hanes mewn cylchgronau fel hyn (dangoswch y cylchgrawn): pwy sydd mewn cariad â phwy, pwy sy’n canlyn pwy, pwy sy’n priodi pwy, pwy sydd ddim mewn cariad mwyach.  Mae’n hawdd iawn meddwl bod pob perthynas yn ymwneud â CHARIAD.

    Dangoswch y siâp calon. 

  2. Holwch y plant oes rhywun yn gyfarwydd â’r gân, ‘Everybody in love’ gan JLS. Os oes copi gennych chi o’r gân, efallai yr hoffech chi chwarae rhan ohoni ar y pwynt hwn.

  3. Wel, efallai y bydd y rhan fwyaf ohonoch yma yn falch o ddeall nad yw’r gwasanaeth hwn yn mynd i fod yn ymwneud â chariad rhamantus (gwnewch esgus o daflu’r siâp y galon), nid yw'n mynd i fod yn sôn am y math o gariad a gaiff ei drafod yn aml mewn cylchgronau fel hyn (taflwch y cylchgrawn clecs) ac nid yw hyd yn oed yn mynd i fod yn ymwneud â’r math o gariad y bydd cantorion yn aml yn canu amdano  (diffoddwch y clip fideo o JLS)

  4. Dechrau'r gair 'perthynas' yw'r gair 'perthyn'. Ac rydym yn ‘perthnasu’ â llawer o bobl wrth ymwneud â nhw o ddydd i ddydd – pobl rydyn ni’n siarad â nhw, pobl rydyn ni’n gwenu arnyn nhw, a phobl na fydden ni’n gallu byw hebddyn nhw.

    Ond efallai eich bod yn adnabod rhywun nad yw'n dymuno perthnasu neu ymwneud â phobl eraill, rhywun sy'n dweud nad oes arnyn nhw angen unrhyw un arall yn eu bywyd. Neu, efallai eich bod chi yn meddwl nad oes angen pobl eraill arnoch chi.

  5. Gosodwch y mat bach ar y llawr a sefwch arno.

    Dywedwch rywbeth tebyg i hyn: 'Edrychwch, dyma fy lle i. Fy lle i yw hwn ac rwyf am i chi i gyd i gadw draw! Dydw i ddim yn angen unrhyw un, ac yn sicr nid oes arnaf eich angen chi. Mae gen i lyfr da i’w ddarllen, teclyn rheoli’r teledu o bell a rhywfaint o siocledi - beth arall fyddai ei angen arnaf? Fe alla i ofalu amdanaf fy hun. Fe alla i gadw fy hun i mi fy hun. Dydi perthnasoedd yn ddim byd ond trafferth.’

  6. Dros 400 o flynyddoedd yn ôl, fe ysgrifennodd bardd o'r enw John Donne y geiriau hyn: ‘No man is an island entire of itself’. Meddyliwch pa mor wir yw’r geiriau yma. Nid oes neb yn ynys. Nid oes unrhyw ddyn yn ynys. Nid oes unrhyw wraig yn ynys. Dim bachgen yn ynys ar ben ei hun, nag unrhyw ferch yn ynys. Ni all unrhyw un oroesi heb bobl eraill. 

    Rhowch yr eitemau rydych chi’n gafael ynddyn nhw i lawr. Camwch oddi ar y mat neu’r tywel, ei blygu a’i gadw.

    Mae ar bawb ohonom ni angen pobl eraill o’n cwmpas. Rydyn ni i gyd mewn perthynas â phobl eraill.

  7. Ydych chi’n gallu meddwl am bobl yr ydych chi’n cynnal perthynas â nhw neu’n ymwneud â nhw o ddydd i ddydd? Gyda phwy y byddwch chi’n siarad? Pwy ydych chi ei angen?

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion. Gall y rhain gynnwys, ffrindiau, anifeiliaid anwes, athrawon, gyrwyr bysiau a siopwyr.

    Mewn gwirionedd, mae pawb ohonom yn cynnal perthynas â llawer o wahanol bobl.

Amser i feddwl

Mae bod mewn perthynas â rhywun yn beth gwerthfawr. Mae angen i ni ofalu am y math yma o berthynas.

Meddyliwch am y perthnasoedd sydd gennych chi. Treuliwch foment i fod yn ddiolchgar ohonyn nhw, ac i feddwl sut rydych chi’n ymwneud â phobl yr ydych mewn perthynas â nhw.

Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon a gwnewch nhw’n eiriau i chi eich hun os dymunwch chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl berthnasoedd sydd gennym ni:
Ein ffrindiau ac aelodau ein teulu, ein hathrawon a’r rhai sy’n ein helpu,
ein hanifeiliaid anwes, ein cymdogion, a’r rhai sy’n ein hyfforddi a’n cyfarwyddo.
Helpa ni i gofio bod perthnasoedd yn werthfawr.
Helpa ni i ofalu amdanyn nhw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

We’re all in this together’ o’r sioe High School Musical

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon