Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Stori’r Pentecost

Cyflwyniad yn sôn am wyl y Pentecost

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Darparu cyflwyniad ar gyfer y plant er mwyn adrodd stori’r Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd ac 15 Darllenydd.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen 16 darn o gerdyn maint A4. Ar naw ohonyn nhw, ysgrifennwch un o bob un o’r llythrennau canlynol i ffurfio’r gair PENTECOST. Ar ochr arall pob cerdyn, argraffwch neu ysgrifennwch y llinellau ar gyfer eich darllenwyr i’w llefaru. Fe allech chi hefyd addurno’r cardiau gyda golygfeydd o’r stori.
  • Fe fydd gofyn i chi dreulio amser yn ymarfer y cyflwyniad cyn y gwasanaeth.
  • Efallai yr hoffech chi ymgyfarwyddo â stori dyfodiad yr Ysbryd Glân, sydd i’w chael yn Llyfr yr Actau 2.1-4.

Gwasanaeth

Arweinydd:Bore da, bawb! Heddiw rydyn ni adrodd stori ryfeddol o’r Beibl i chi.

Darllenydd 1:Gadewch i ni weld beth ddigwyddodd. Rydyn ni’n mynd i sillafu enw’r digwyddiad i chi.

Darllenydd 2 (yn dal y llythyren‘P’):‘P’Mae P am pobl. Roedd y bobl sydd yn y stori hon yn bobl a oedd wedi cael eu dewis yn arbennig gan Iesu.

Darllenydd 3 (yn dal y llythyren‘E’):‘E’Mae E am eistedd! Roedd y disgyblion yn eistedd mewn ystafell yn disgwyl i rywbeth ddigwydd. Roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw am aros. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd.

Darllenydd 4 (yn dal y llythyren ‘N’):‘N’Mae N am nerfusrwydd. Roedd y disgyblion yn teimlo’n nerfus iawn, ac roedd ofn arnyn nhw pan glywson nhw swn rhuo mawr y gwynt rhyfedd a lanwodd yr ystafell.

Darllenydd 5 (yn dal y llythyren‘T’):‘T’Mae T am troi a throsi! Roedd y gwynt nerthol yn troi ac yn trosi ac yn chwyrlio o’u cwmpas yn yr ystafell. Roedd hwn yn brofiad rhyfedd iawn i’r disgyblion.

Darllenydd 6 (yn dal y llythyren ‘E’):‘E’Mae E am effaith. Cafodd y profiad rhyfedd effaith fawr ar y disgyblion, a’u gwneud yn bobl newydd.

Darllenydd 7 (yn dal y llythyren ‘C’):‘C’Mae C am y Cristnogion! Ar ôl cael y profiad yma, roedd dilynwyr Iesu Grist, sef y Cristnogion, yn teimlo’n ddewr ac yn hapus iawn.

Darllenydd 8 (yn dal y llythyren‘O’):‘O’Mae O am ofn. Os oedd y disgyblion yn teimlo’n ofnus ar y dechrau, doedd dim ofn arnyn nhw wedyn. Roedden nhw’n hapus am eu bod wedi cael gallu arbennig gan Dduw.

Darllenydd 9 (yn dal y llythyren‘S’):‘S’ Mae S am syndod! Roedd pawb wedi synnu pan welson nhw beth oedd wedi digwydd i’r disgyblion. Roedd y disgyblion wedi cael eu llenwi ag Ysbryd Glân Duw.

Darllenydd 10 (yn dal y llythyren‘T’):‘T’Mae T am tafodau tân! Roedd rhywbeth tebyg i dafodau o dân wedi aros ar ben pob un o’r bobl a oedd yn yr ystafell, ac wedi rhoi gallu arbennig iddyn nhw. Roedd Ysbryd Glân Duw wedi disgyn arnyn nhw.

Darllenydd 11:Mae’r llythrennau hyn yn sillafu’r gair PENTECOST. Dyna’r adeg pan roddwyd nerth Duw i’r disgyblion.

Darllenydd 12: Fe ddywedodd un o’r rhai a oedd yn y dyrfa: ‘Onid pobl o Galilea yw’r bobl hyn sy’n siarad yma? Sut felly rydyn ni, y bobl sy’n eu clywed nhw’n siarad, yn gallu eu deall. Maen nhw fel pe bydden nhw’n siarad ein hiaith ni, a ninnau’n eu deall nhw!’

Darllenydd 13:Roedd Pedr yn un o’r disgyblion, ac fe ddywedodd Pedr wrth y dyrfa: ‘Mae Duw wedi arllwys ei Ysbryd Glân arnom ni. Yn awr, fe allwn ni ddweud wrth bawb am Dduw. Fe fyddwn ni’n clywed Duw yn siarad yn glir, fe fyddwn ni’n cael gweledigaethau ac yn gallu gwneud gwyrthiau rhyfeddol.’

Darllenydd 14:Fe ddywedodd Pedr hefyd: ‘Mae Iesu, yr un a gafodd ei groeshoelio, yn fyw ac mae Duw wedi ei wneud yn Arglwydd dros bawb. Os byddwch chi’n edifarhau am y pethau drwg rydych chi wedi eu gwneud, fe fydd yn maddau i chi.’

Darllenydd 15:Y diwrnod hwnnw, fe ddaeth tua 3,000 o bobl yn Gristnogion. Hyd heddiw, mae neges Duw’n cael ei lledaenu ledled y byd.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am Wyl y Pentecost.
Diolch bod dy ysbryd di’n gallu byw ynom ni ac yn dod â heddwch, gobaith a llawenydd i ni.
Amen.

Neu fe allech chi ddefnyddio’r geiriau canlynol fel gweddi, sy’n addasiad o eiriau cytgan yr emyn ‘Spirit of God’:

Ysbryd Duw, sydd mor gryf â’r gwynt,
Mor fwyn â’r golomen,
rho i ni dy lawenydd a rho i ni dy heddwch,
Dangos gariad Iesu i ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon