Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llygaid y dydd

Gwersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth flodau llygad y dydd

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod llawer o bobl yn ein caru ni, a bod Duw yn ein caru ni yn fawr iawn.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o’r blodyn llygad y dydd.

    Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r plant.

    - Beth yw enw'r blodyn hwn?
    - Faint ohonoch chi sydd wedi gweld llygad y dydd?
    - Ble mae llygad y dydd yn tyfu?
    - Faint ohonoch chi sydd â llygad y dydd yn eich gerddi?

  2. Gofynnwch i'r plant ddisgrifio’r blodyn. Mae'n debyg y byddan nhw’n defnyddio geiriau fel bach, gwyn a melyn, llachar, siriol ac yn y blaen.

  3. Nodwch y gallech chi ystyried fod llygad y dydd mewn gwirionedd yn ddau flodyn yn un: mae’r canol melyn llachar yn cyfrif fel un ac mae'r petalau gwyn yn cyfrif fel un arall!

  4. Mae'r llygad y dydd yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf ym myd planhigion, sef teulu blodyn yr haul. Mae blodau llygad y dydd i’w gweld ym mhob man ar y Ddaear ac eithrio Antarctica.

  5. Mae’n debyg fod y gair Saesneg am lygad y dydd, ‘daisy’, yn dod o hen air Saesneg a oedd yn golygu, yn llythrennol, ‘llygad y dydd’ neu ‘day’s eye’.Gofynnwch i'r plant pam eu bod yn meddwl y gallai'r llygad y dydd fod wedi cael ei alw yn 'llygad dydd' – pam yr enw ‘day’s eye’?

    Y rheswm am yr enw yw bod blodau llygad y dydd yn cau eu petalau yn y nos ac yn eu hagor gyda’r wawr. Mae llygad y dydd nodi dechrau ddiwrnod newydd.

  6. Holwch y plant,‘Ble yn yr ardd y mae blodau llygad y dydd yn tueddu i dyfu?’

    Yr ateb yw bod llygad y dydd fel arfer yn tyfu ar y lawnt. Yn union fel glaswellt, maen nhw’n tyfu yn gyflym iawn! Hyd yn oed os ydyn ni’n cerdded dros y blodau llygad y dydd, maen nhw rywsut yn bownsio’n ôl. Hyd yn oed os ydyn ni’n chwarae pêl-droed ac yn sathru’r llygad y dydd, maen nhw’n bownsio’n ôl er hynny.

  7. Dangoswch y delweddau o’r lawnt yn cael ei thorri a’r lawnt yn llawn blodau llygad y dydd..

    Hyd yn oed os ydyn ni’n torri'r lawnt ac yn torri'r pennau oddi ar y llygad y dydd, maen nhw’n dal i dyfu'n ôl yn gyflym. Mae'r llygad y dydd bob amser yn ymddangos fel pe bydden nhw’n ‘bownsio’n ôl’! Maen nhw’n blanhigion bach gwydn iawn.

  8. Weithiau mewn bywyd, gall pethau fynd o chwith. Fe allwn ni deimlo fel pe baem wedi cael ein brifo ac wedi cael ein sathru. Ar adegau fel hyn, mae angen i ni ddatblygu rhywbeth o'r enw gwydnwch. Mae hynny'n golygu bod â'r gallu i 'fownsio’n ôl', i beidio â gadael i broblemau bwyso cymaint arnom ni nes ein bod yn mynd yn anhapus ac yn drist am gyfnodau hir. Pan fyddwn ni’n teimlo fel hyn, mae bob amser yn well siarad â rhywun am y ffordd yr ydyn ni’n teimlo. Yn aml, bydd oedolion sy'n gofalu amdanom ni yn gallu ein helpu mewn rhyw ffordd, ac yn gallu dangos i ni y ffordd orau i oresgyn ein problemau a 'bownsio yn ôl’! 

  9. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi chwarae gemau gyda llygad y dydd erioed, neu wedi eu defnyddio ar gyfer gwneud unrhyw beth. Un ffordd o ddefnyddio blodau llygad y dydd yw gwneud cadwyni llygad y dydd.

    Dangoswch y ddelwedd o’r gadwyn blodau llygad y dydd.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi gwneud cadwyn llygad y dydd ryw dro.

  10. Gêm arall y mae pobl weithiau'n ei chwarae gyda llygad y dydd yw, ‘Fy ngharu i, ddim yn fy ngharu i.’(Loves me, loves me not.)

    Dangoswch y ddelwedd o’r petalau’n cael eu tynnu oddi ar lygad y dydd.

    Gyda’r gêm‘Fy ngharu i, ddim yn fy ngharu i’, mae’r rhai sy’n ei chwarae’n tynnu un petal oddi ar y blodyn ar y tro. Wrth wneud hynny, maen nhw’n dweud 'Fy ngharu i'. Yna, maen nhw’n tynnu petal arall ac yn dweud, ‘Ddim yn fy ngharu i'. Mae'n gêm i benderfynu a yw bachgen neu ferch yn caru’r person sy'n cael gwared â’r petalau. Dim ond ychydig o hwyl yw hyn wrth gwrs, ond fe all rhai pobl deimlo'n drist os yw’r gêm yn nodi nad yw'r person yn eu caru. Fodd bynnag, gall chwaraewyr bob amser ddefnyddio llygad y dydd arall er mwyn cael canlyniad gwahanol!

Amser i feddwl

Holwch y plant ydyn nhw'n meddwl bod y gêm hon yn ffordd dda o benderfynu a yw rhywun yn caru rhywun arall ai peidio.

Holwch sut gallwn ni ddweud a yw pobl eraill yn caru ni yn wir.

Eglurwch nad yw cariad yn ymwneud â phigo’r petalau oddi ar flodyn llygad y dydd. Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn ein caru ni oherwydd y ffordd y maen nhw’n ein trin ni a'r pethau maen nhw’n eu gwneud.

Gofynnwch i’r plant,‘Sut ydyn ni’n gwybod fod Duw yn ein caru ni?’

Pwysleisiwch y gallwn ni edrych ar y byd hardd rydyn ni’n byw ynddo, a gweld y gofal a’r cariad sydd wedi bod ynglyn â’i greu i ni. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi dangos faint mae'n ein caru ni trwy anfon Iesu i'r byd. Maen nhw’n credu bod Duw wedi dangos ei gariad tuag atom ni pan ofynnodd i Iesu, ei unig Fab, farw drosom ar y groes. Mae Cristnogion yn dathlu hyn drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig ar adeg y Pasg.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y blodau llygad y dydd bach siriol.
Diolch i ti eu bod yn ein hatgoffa o harddwch dy greadigaeth.
Diolch i ti am y gwersi y maen nhw’n eu haddysgu i ni.
Helpa ni pan fydd pethau'n anodd.
Helpa ni i rannu ein problemau gydag eraill fel y gallwn ni 'fownsio’n ôl'.
Diolch i ti am yr holl bobl sy'n ein caru ni.
Diolch dy fod ti hefyd yn ein caru ni.
Helpa ni i garu pobl eraill ac i ddangos hynny iddyn nhw drwy ein gweithredoedd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon