Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Bugail Da

Y drydedd yn y gyfres sy’n ystyried datganiadau Iesu, ‘Myfi yw ... ’

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried datganiad Iesu mai ef yw’r bugail da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi ymgyfarwyddo â’r gwasanaethau blaenorol yn y gyfres hon oddi ar wefan y Gwasanaethau, sef ‘Bara’r Bywyd’ a ‘Goleuni’r Byd’. 
    - Mae’r fersiwn Saesneg‘Bread of Life’, ar gael trwy’r ddolen ganlynol:http://www.assemblies.org.uk/pri/2845/bread-of-life
    - Mae’r fersiwn Saesneg‘Light of the World’, ar gael trwy’r ddolen ganlynol:http://www.assemblies.org.uk/pri/2866/light-of-the-world
  • Trefnwch  fod y darn canlynol o'r Beibl ar gael gennych chi, Luc 15.3-7. Efallai yr hoffech chi drefnu i un o’r plant ddarllen y stori hon.

Gwasanaeth

  1. Os ydych chi eisoes wedi cynnal y gwasanaethau eraill yn y gyfres hon, atgoffwch y plant am y defnydd o drosiad er mwyn disgrifio unigolyn. Nid torth o fara na goleuni mewn gwirionedd yw Iesu, ond mae'r disgrifiad yn dweud rhywbeth pwysig wrthym amdano. Eglurwch fod y gwasanaeth hwn yn mynd i roi sylw i un arall o'r datganiadau ‘Myfi yw’ am Iesu.
  2. Eglurwch fod Iesu’n dweud yn y Beibl (Ioan 10.11), ‘Myfi yw’r bugail da. Y mae’r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.’
  3. Gofynnwch i'r plant beth tybed mae Iesu'n ei olygu gyda'r datganiad hwn.
  4. Eglurwch y bydd y gwasanaeth hwn yn trafod defaid, eu nodweddion a rôl y bugail. Yn y cyfnod Beiblaidd, roedd llawer o ddefaid yn y caeau, felly roedd angen llawer o fugeiliaid.
  5. Mae angen bugail i ofalu am ddefaid. Gallwn weld defaid yn y caeau wrth i ni deithio trwy gefn gwlad, ac mae'n bwysig fod y defaid yn cael eu cadw mewn lle y mae modd iddyn nhw gael gafael yn y cyfan o'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i'w cadw'n iachus. Rhaid i fugail eu gosod nhw ar borfa dda lle gallan nhw gael dwr. Yn yr ardal sych lle'r oedd Iesu'n byw, roedd yn bwysig bod y bugeiliaid yn arwain eu preiddiau i borfa dda a nentydd o ddwr.
  6. Dangoswch y ddelwedd o’r ddau fugail a phraidd o ddefaid.

    Yng nghyfnod Iesu, byddai bugail yn cerdded o flaen ei ddefaid ac fe fydden nhw'n ei ddilyn. Byddai bugail yn cario math o bastwn ynghyd â ffon gydag ef. Fe fyddai’n defnyddio'r pastwn er ei ddiogelwch ei hun, i ddychryn ymaith unrhyw fleiddiaid neu anifeiliaid gwylltion a fyddai'n bygwth ei braidd. Roedd gan ei ffon dro fel bachyn ar ei phen fel y gallai’r bugail ddefnyddio’r bachyn i’w helpu i dynnu’r ddafad pe byddai hi’n mynd yn sownd mewn perth neu ar glogwyn.

    Mae defaid yn gallu mynd i bob math o drafferthion!

    Holwch y plant am y ffyrdd y gallai defaid fynd i drafferthion.

    Dangoswch y delweddau o’r defaid mewn perygl.

  7. Pan oedd Iesu'n siarad am ddefaid roedd, mewn gwirionedd yn siarad am bobl. Mae'n ein disgrifio ni fel ei ddefaid.

    A ydych chi weithiau yn cael eich hun mewn dryswch gyda rhyw broblem, mewn rhwystredigaeth lwyr? A'r mwyaf y byddwch yn ceisio ymryddhau o'r dryswch, y mwyaf y bydd y broblem yn dwysau?

    A ydych chi weithiau'n teimlo'n ofnus a heb wybod at bwy i droi?

    A ydych chi weithiau'n teimlo'n ddiymadferth, neu'n wan, neu ar goll neu mewn perygl?

    Onid ydyn ni ychydig fel defaid?

Amser i feddwl

Dangoswch y ddelwedd o’r ddafad, a enwyd wedyn yn Aretha, pan oedd hi’n sownd ar silff gul.

Rai blynyddoedd yn ôl, roedd stori yn y newyddion am ddafad a gafodd ei hun yn sownd ar silff clogwyn. Rhoddwyd y llysenw 'Aretha' iddi gan bobl leol er anrhydedd i gân enwog Aretha Franklin, ‘Rescue me’. Roedd rhywun wedi gweld y ddafad yn sownd ar y silff, ond doedd neb yn siwr iawn sut roedd hi wedi cyrraedd i'r fath le. Gwaetha'r modd, yn y diwedd, methodd y timau achub a chyrraedd ati.

Mae stori yn y Beibl am fugail sy'n chwilio am ddafad sydd ar goll. Cewch hyd i'r stori yn Efengyl Luc15.3-7. Fe sylwodd bugail gyda phraidd o gant o ddefaid bod un ohonyn nhw ar goll. Mae'n gadael y 99 dafad arall ac yn mynd i chwilio am y ddafad a oedd ar goll. Mae Iesu'n defnyddio'r stori hon i ddangos na fydd byth yn ein hanwybyddu. Mae'n ein caru gymaint, ac mae'n gwybod ein bod ni angen ei gariad a'i nodded. Dyna paham mai ef yw'r bugail da.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n fugail da.
Diolch dy fod ti’n gwybod ein henwau a dy fod ti’n gofalu amdanom.
Diolch dy fod ti’n gwybod am yr holl beryglon y gallwn ni eu hwynebu yn ein bywyd.
Diolch nad wyt ti byth eisiau i ni gerdded ar ben ein hunain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon