Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae pob un yn enillydd

Rydyn ni i gyd yn ennill ac rydyn ni i gyd yn colli

gan Manon Ceridwen Parry (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar ein profiadau o ennill a cholli.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os bydd hynny’n bosib, trefnwch fod gennych chi dlws, medal, neu dystysgrif y gwnaethoch chi ei hennill ar ryw adeg yn eich bywyd i’w dangos i’r plant. Os nad yw hyn yn bosib, gofynnwch i aelod arall o staff gael rhywbeth o’r fath yn barod i’w ddangos.
  • Efallai y byddwch chi’n dymuno cael tystysgrifau i’w rhoi i’r plant i gyd, a fydd yn datgan y ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, yn enillydd.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen cannwyll gyfer yr 'Amser i feddwl' ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy fyfyrio ar ryw brofiad cystadleuol diweddar ym mywyd yr ysgol, fel y diwrnod mabolgampau blynyddol, gêm a chwaraewyd gan dîm yr ysgol neu ryw gystadleuaeth arall.

  2. Eglurwch eich bod wedi dod â rhywbeth gyda chi sy'n dangos i chi fod yn enillydd ryw dro. (Gall hyn fod yn gyflawniad o fyd chwaraeon, ennill cystadleuaeth lenyddol ac yn y blaen.) Soniwch am y modd yr ydych chi’n gallu bod yn dda mewn rhai pethau, ond ddim cystal gyda phethau eraill. Efallai y byddwch yn dymuno rhannu profiad am ryw adeg pan oeddech chi’n olaf mewn ras neu wedi methu mewn prawf.

  3. Eglurwch fod bywyd yn ymwneud ag ennill a cholli. Rydyn ni’n dda am wneud rhai pethau, ond ddim cystal am wneud pethau eraill. Mae gennym gryfderau a gwendidau mewn gwahanol rannau o fywyd. 

  4. Gofynnwch i'r plant rannu eu profiadau ynghylch sut deimlad yw ennill yn ogystal â cholli.

    Trafodwch yr hyn y mae rhai o'r plant wedi ei gyflawni, fel ennill medalau a thystysgrifau. Sut maen nhw'n teimlo? Yn nerfus? Yn llawn cyffro? Yn fodlon iawn?

    Archwiliwch sut deimlad yw peidio ag ennill. Soniwch sut roeddech chi’n teimlo un tro pan wnaethoch chi ‘golli’. Gofynnwch i'r plant enwi'r emosiynau sy'n rhan o brofiad fel hwnnw: siom, gofid, embaras, teimlad o annhegwch  (ond mae'n rhaid i rywun golli, bob amser). 

  5. Disgrifiwch sut y mae hi arnom mewn bywyd, pan fyddwn ni bob amser yn ennill gyda rhai pethau ac yn colli gyda phethau eraill. Eglurwch y bydd y plant wrth iddyn nhw dyfu’n hyn, yn gwneud cais am le mewn coleg, mewn swydd neu ryw waith arall, ac yn cael eu gwrthod ambell dro. Neu efallai y byddan nhw’n gwirioneddol hoffi ryw unigolyn neilltuol, ac eisiau bod gydag ef neu hi, ond yn anffodus gyda rhywun arall y bydd y person hwnnw’n dymuno mynd allan. Weithiau, bydd pethau'n mynd yn dda, ac fe fyddan nhw'n cael y swydd ddelfrydol neu'r lle mewn coleg y gwnaethon nhw ymgeisio amdano. Mewn bywyd, rydym weithiau'n ennill, weithiau'n colli. 

  6. Eglurwch fod Cristnogion y credu fod un rhan o fywyd lle mae modd i bawb fod yn enillydd. Maen nhw'n credu bod Duw yn caru pawb yn fawr iawn.

    Darllenwch yr adnod o'r Beibl, Ioan 3.16: ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu f beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’ 

  7. Pwysleisiwch fod y ffydd Gristnogol yn addysgu bod Duw wedi dod i'r byd ar gyfer pawb (y byd cyfan yn grwn) a bod Duw yn caru pawb. Gyda Duw, nid oes y fath beth â chollwyr, dim ond enillwyr. 

  8. Os ydych wedi paratoi tystysgrifau ar gyfer pawb, gallwch eu dosbarthu yn awr.                                              

Amser i feddwl

Goleuwch y gannwyll.

Gofynnwch i'r plant feddwl am sut maen nhw’n teimlo ynghylch ennill a cholli.

Pa feysydd y maen nhw’n disgwyl ennill ynddyn nhw, a pha bethau fyddan nhw’n eu cael yn fwy anodd?

Sut bydden ni’n gallu cefnogi ein gilydd pan nad yw pethau'n digwydd fel y bydden ni’n dymuno?

Gofynnwch i'r plant feddwl am y bobl sy'n eu caru nhw.

Atgoffwch y plant am y gred Gristnogol sy’n nodi fod Duw’n eu caru. Sut mae hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod ni i gyd yn enillwyr yn dy olwg di.
Rydyn ni’n diolch dy fod ti yn ein caru ni bob un,
a dy fod wedi rhoi gwahanol ddoniau i ni i gyd.
Helpa ni i beidio â bod yn drist pan fyddwn ni’n colli,
ond yn hytrach gwna i ni gofio am yr holl bethau da sydd gennym ni,
a chofio am y pethau rydyn ni’n gallu eu gwneud yn dda.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon