Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nid fi wnaeth! (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’

Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried y syniad o gymryd y bai yn lle rhywun arall.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Dyma’r drydedd yn y gyfres o wasanaethau yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’ sy’n ymwneud â bywyd Joseff. Y gyntaf yn y gyfres yw’r un dan y pennawd, ‘Mae’n fy ngwneud i’n benwan’, ac mae ar gael ar wefan y gwasanaethau.  http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2705/mae-n-fy-ngwneud-i-n-benwan
    Yr ail yn y gyfres yw’r un dan y pennawd, ‘Dewis gwael!’: http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2899/dewis-gwael

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd Liwsi Jên yn crio pan ddaeth i mewn i’r stabl ar ôl iddi ddod o’r ysgol.

    Holwch y plant ydyn nhw’n gallu meddwl am reswm pam y byddai Liwsi Jên yn crio.

    ‘O, Sgryffi,’ dywedodd. ‘Fe ddywedodd yr athrawes y gallwn i orffen ysgrifennu fy stori ar y cyfrifiadur yn ystod yr amser chwarae. Roedd Sarah yn aros i mewn hefyd, ond roedd hi eisiau i mi frysio gwneud fy ngwaith fel y gallai hi chwarae gêm ar y cyfrifiadur, er ei bod hi'n gwybod yn iawn dydyn ni ddim i fod i wneud hynny oni bai ein bod wedi gofyn am ganiatâd. Fe ddechreuodd hi fy ngwthio i ffwrdd oddi ar y stôl, a phan wnes i ei gwthio yn ôl fe syrthiodd ac fe gollodd hi ei phecyn creision dros ddesg  y cyfrifiadur.

    ‘“O! Edrych beth sydd wedi digwydd am dy fod ti wedi fy ngwthio i,” gwaeddodd Sarah yn uchel, ac fe redodd allan o’r dosbarth. Ac yn waeth na hynny, cyn i mi allu clirio’r llanast, fe ddaeth yr athrawes i’r dosbarth ac roedd hi’n meddwl mai fi wnaeth y llanast.’

    ‘“Dwi’n hynod o siomedig ynot ti, Liwsi Jên,” dywedodd hi wrtha i gan edrych yn ddig iawn. “Rwyt ti’n gwybod yn iawn nad oes neb i fod i fwyta unrhyw beth wrth ddefnyddio’r cyfrifiadur. Gobeithio’n wir nad wyt ti wedi difrodi’r peiriant.”’

    Taflodd Liwsi Jên ei breichiau am wddf Sgryffi. Roedd y mul bach yn gallu teimlo ei dagrau gwlyb.

    ‘Ac am hynny, dydw i ddim yn gallu defnyddio'r cyfrifiadur am weddill yr wythnos!’ dywedodd gan grio.

    ‘Hi-ho, hi-ho!’ dywedodd Sgryffi’n dawel, gan geisio gwneud i Liwsi Jên deimlo’n well. 

  3. Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Pam ydych chi'n meddwl doedd Liwsi Jên ddim wedi dweud wrth yr athrawes mai bai Sarah oedd hyn i gyd?
    -Ydych chi'n meddwl y bydd Sarah yn mynd at yr athrawes i ddweud y gwir wrthi?

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  4. Ydych chi ryw dro wedi cael y bai am rywbeth na wnaethoch chi?

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  5. Efallai y byddwch yn dymuno atgoffa’r plant am stori Joseff, a adroddwyd yn y gwasanaeth cyntaf a'r ail yn y gyfres hon am fywyd Joseff.

    Gadewch i ni barhau gyda'r stori o'r Beibl am y bachgen o'r enw Joseff.

  6. Roedd brodyr Joseff wedi ei drosglwyddo i grwp o bobl a oedd yn teithio i'r Aifft. Roedd yn daith hir, ond pan gyrhaeddodd y teithwyr yr Aifft, fe aethon nhw i'r farchnad er mwyn cael gwerthu eu sbeisys. Yno, fe wnaethon nhw werthu Joseff hefyd! Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf, felly pan welodd swyddog o'r fyddin Joseff, dyn o'r enw Potiffar, roedd Potiffar yn barod i dalu pris da i gael Joseff fel gwas. Roedd Potiffar yn gweithio i arweinydd gwlad yr Aifft, dyn a oedd yn cael ei alw’n Pharo, sef Brenin yr Aifft.

    Gweithiodd Joseff yn galed, ac fe wnaeth Potiffar ei wobrwyo trwy ei roi yn gyfrifol am yr holl weision eraill yn y palas. Roedd yn swydd bwysig, ac roedd hyn yn dangos bod Joseff yn berson yr oedden nhw’n gallu ymddiried ynddo, yn enwedig pan oedd ei feistr i ffwrdd oddi cartref yn gwasanaethu gyda byddin yr Aifft.

    Roedd gwraig Potiffar yn meddwl bod Joseff yn ddyn ifanc golygus iawn, a dechreuodd ei ddilyn o gwmpas y ty pan oedd yn gweithio. Roedd Joseff yn gwybod mai dim ond gwas oedd ef, ac y byddai ei feistr yn flin petai'n cael ei weld yn siarad â meistres y ty. Un diwrnod, pan welodd Joseff wraig Potiffar yn dod tuag ato, aeth allan o'r ystafell yn gyflym. Roedd hi'n ddig iawn bod Joseff yn ei hanwybyddu hi.

    Pan gyrhaeddodd Potiffar adref, roedd ei wraig yn mynnu ei fod yn cosbi Joseff, felly fe ddywedodd gelwydd wrth ei gwr - dywedodd fod Joseff wedi ymosod arni. Roedd Potiffar mor ddig wrth Joseff pan glywodd hyn, fe wnaeth ei daflu i'r carchar ar unwaith.

    Joseff druan!Doedd ei frodyr ddim yn ei hoffi ac roedden nhw wedi ei anfon i ffwrdd. Cafodd ei werthu fel caethwas. Roedd wedi gweithio'n galed, ond erbyn hyn roedd yn cael ei gosbi am rywbeth nad oedd wedi'i wneud. Roedd ei fywyd yn ymddangos fel un hunllef hir!

Amser i feddwl

Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

- Ydych chi erioed wedi cael y bai am rywbeth na wnaethoch chi?
- Sut y gwnaeth hynny i chi deimlo?
-Oedd hynny'n gwneud i chi deimlo'n drist neu'n ddig? 
-Ydych chi ryw dro wedi beio rhywun arall am rywbeth a wnaethoch chi o'i le?
-Sut y gwnaeth hynny i chi deimlo?
-Sut ydych chi'n meddwl y gwnaeth y person arall deimlo?

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Weithiau, mae rhywun arall yn gwneud peth anghywir, ac fe gawn ni'r bai.
Mae hynny'n ymddangos mor annheg! Helpa ni i ddweud y gwir.
Weithiau, rydyn ni’n gwneud rhywbeth o'i le ac mae'n anodd cyfaddef hynny.
Helpa ni i gael y dewrder i ddweud y gwir.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon