Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wonderfully Made!

Dangos i’r plant fod ganddyn nhw i gyd gorff gwirioneddol ryfeddol!

gan Rebecca Parkinson (revised, originally published in 2007)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos i’r plant fod ganddyn nhw i gyd gorff gwirioneddol ryfeddol!

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen 3 darn o bapur ar gyfer pob cwestiwn sy’n cael eu defnyddio gennych chi o’r casgliad isod. Ar gyfer pob cwestiwn, ysgrifennwch y tri ateb posib ar ddarnau o bapur gwahanol. Neu, lluniwch gyflwyniad PowerPoint o’r cwis, y cwestiynau a’r atebion. Neu, fe allech chi beidio â defnyddio’r atebion ysgrifenedig a gofyn i’r plant gofio’r gwahanol atebion.

  • Dewisol: tudalen fawr o bapur gyda’r geiriau o Salm 139.14 wedi eu hysgrifennu arni: ‘Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.’ Duw sydd wedi ein gwneud ac mae’r ffordd mae pob un ohonom ni wedi ein gwneud yn destun rhyfeddod.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant ei fod yn dweud yn y Beibl fod y ffordd rydym i gyd wedi cael ein gwneud yn beth rhyfeddol iawn, a dyfynnwch y geiriau o’r Salm (139.14). Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y geiriau  - Duw sydd wedi ein gwneud ac mae’r ffordd mae pob un ohonom ni wedi ein gwneud yn rhyfeddol iawn.

  2. Eglurwch ein bod heddiw’n mynd i gael rhywfaint o hwyl, ond eich bod eisiau iddyn nhw ddysgu pa mor wirioneddol ryfeddol yw corff pob un ohonom! Rydych chi’n mynd i ofyn rhai cwestiynau, ac fe fydd dewis o dri ateb. Dim ond un o’r tri ateb sy’n gywir. Ond nid cystadleuaeth yw hon, ymarferiad sydd gennym ni i wneud i’r plant feddwl a rhyfeddu. 

    Gallwch chi fel arweinydd y gwasanaeth benderfynu pa ffordd yr ydych chi am dderbyn yr atebion, a ydych chi eisiau rhannu’r plant yn ddau dîm, neu ofyn i’r plant godi eu dwylo beth bynnag fyddan nhw’n ei feddwl yw’r ateb cywir? Ydych chi eisiau i rai plant ddod i’r blaen yn eu tro i ddyfalu’r atebion, neu ydych chi am adael i’r plant gadw’u hatebion iddyn nhw’u hunain, fel mai dim ond nhw fydd yn gwybod a yw eu hatebion yn gywir ai peidio?

  3. Gofynnwch y cwestiynau fesul un, gan ddangos y tri ateb bob tro, os ydyn nhw wedi’u hysgrifennu gennych chi, (fe allech chi gael rhai o’r plant i ddal yr atebion i fyny er mwyn i bawb eu gweld, o bosib).

    Dangoswch pa un yw’r ateb cywir, yn eu tro, ac anogwch y plant i feddwl am y ffactor ‘waw!’, cyn symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf. Yma, fe welwch gwestiynau’n dilyn, ac efallai fod mwy yma nag a fyddwch chi eu hangen, felly dewiswch y rhai sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi, neu lunio rhai eraill tebyg atyn nhw. Mae’r atebion cywir wedi’u tanlinellu.

    (1) Ar gyfartaledd, pa mor aml mae rhywun yn ‘blincio’ mewn munud? 
    10   25   50

    (2) Faint o’n corff ni sydd yn ddwr? 
    30%   70%   80%

    (3) Wrth i ni fwyta, faint o amser mae’n ei gymryd i’n bwyd ni fynd o’r geg i’r stumog ar hyd yr oesoffagws? 
    7 eiliad   9 eiliad   12 eiliad

    (4) Sawl gwaith y mae angen i chi wgu i greu un crych (wrinkle)? 
    100   1000   2000

    (5) Sawl swyddogaeth sydd i’r iau neu’r afu? 
    Mwy na 100   Mwy na 300   Mwy na 500

    (6) Beth yw’r cyflymder uchaf sydd wedi’i gofnodi yn achos tisian? 
    100 km yr awr   165 km yr awr   200 km yr awr

    (7) Pa mor drwm yw pelen y llygad oedolyn cyffredin? 
    22 gram   25 gram   28 gram

    (8) Faint o bwysau ein corff yw ein cyhyrau? 
    Hanner pwysau ein corff   Tri chwarter pwysau ein corff   Holl bwysau ein corff

    (9) Sawl gwaith mae ein calon yn curo bob dydd? 
    1000 gwaith   10,000 gwaith   100,000 gwaith

    (10) Ble mae asgwrn lleiaf y corff?
    Yn y glust   Yn y llygad   Yn y bys bach

    (11) Faint o esgyrn sydd yn y sgerbwd dynol? 
    106   206   306

    (12) Meddyliwch am eich ysgyfaint, pa un yw’r lleiaf? 
    Yr ysgyfant ar yr ochr chwith (i wneud lle i’ch calon!)   Yr ysgyfant ar yr ochr dde  Mae’r ddau ysgyfant yr un faint 

    (13) Faint o esgyrn sydd gennych chi yn y dwylo a’r arddyrnau?
    54   63   72

    (14) Faint o esgyrn sydd yn eich wyneb?
    10   14   20

    (15) Pe byddai’r holl wythiennau sydd yn eich corff yn cael eu gosod ben wrth ben i ffurfio un bibell hir, pa mor hir y byddai’n ymestyn? 
    6 milltir   2,000 milltir   60,000 milltir

  4. Ailadroddwch rai o’r ffeithiau mwyaf diddorol a rhyfeddol. Pwysleisiwch fod y ffeithiau hyn yn gywir yn achos pob un ohonom ni, ac yn wir rydyn ni i gyd, pawb ohonom ni, yn bethau gwirioneddol ryfeddol!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Caewch eich llygaid a meddwl am foment am eich corff. Hyd yn oed nawr, a ninnau’n gwneud dim byd, mae eich calon yn curo ac yn pwmpio gwaed i  bob rhan o’n corff. Mae eich stumog hefyd yn treulio’r bwyd rydych chi wedi’i  fwyta. Mae pob un ohonom ni wedi cael ein gwneud mewn ffordd ryfeddol iawn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am roi i ni gorff mor rhyfeddol!
Diolch i ti am yr holl wahanol ffyrdd y gallaf fi ddefnyddio fy nghorff,
ac am y gallu i wneud pob math o bethau gwahanol!
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon