Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dechrau newydd

Blwyddyn ysgol newydd – dechrau newydd!

gan Rachael Crisp

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar y ffaith ein bod i gyd yn cael cyfle i newid neu ddechrau ar rywbeth newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (A New Beginning) a’r modd o’u dangos. Neu fe allech chi argraffu’r delweddau i’r plant eu dal a’u dangos.
  • Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno goleuo cannwyll yn ystod rhan 'Amser i feddwl' y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i ddangos cyfres o ddelweddau, a’ch bod chi’n awyddus i'r plant edrych arnyn nhw’n ofalus a cheisio canfod y cysylltiad rhwng y delweddau.

    Dangoswch y sleidiau.

  2. Wrth i’r delweddau ymddangos, cynhaliwch drafodaeth fer am yr hyn y mae pob delwedd yn ei gynrychioli. Ceisiwch beidio â defnyddio geiriau a fyddai'n rhoi cliw i'r syniad o ddechreuadau newydd neu rywbeth yn dechrau o'r newydd.

  3. Ar ôl trafod y ddelwedd olaf, gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei feddwl sy’n gyffredin ym mhob un o'r delweddau.

    Eglurwch fod pob un o'r lluniau yn dangos dechrau newydd o ryw fath.

    Dangoswch y sleidiau eto, gan nodi’r sylwadau canlynol.

    - Yn y ras, mae’r athletwyr i gyd yn dechrau ar y llinell gychwyn.
    - Mae'r cywion bach yn dechrau ar eu bywyd wrth iddyn nhw ddeor o'r wyau.
    - Dyma lun o gathod bach newydd gael eu geni.
    - Mae'r aderyn yn dechrau dysgu hedfan.
    - yn achos y baban bach, mae newydd wneud ei ymddangosiad yn y byd.
    - Fe fydd y lindysyn yn mynd drwy lawer o gyfnodau 'newydd’ yn ei fywyd.

    - Yma, mae llawer o bobl yn dathlu dechrau blwyddyn newydd.

  4. Eglurwch ein bod i gyd, ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, yn cael y cyfle i ddechrau o’r newydd. Mae'n flwyddyn newydd, yn dymor newydd. Mae llawer o blant yn mynd i ddosbarthiadau newydd, neu’n cael athrawon newydd, ac mae plant newydd yn dechrau ysgol am y tro cyntaf. Efallai yr hoffech chi gyflwyno rhai o'r plant sy’n newydd yn yr ysgol.

  5. Eglurwch fod blwyddyn ysgol newydd yn rhoi cyfle i bawb ddechrau eto. Efallai y bydd rhai ohonom yn dymuno newid agwedd ar ein hymddygiad, efallai drwy geisio gweithio’n galetach, ymuno â chlybiau newydd, gwneud ffrindiau newydd neu osod nodau newydd i ni ein hunain. Efallai y byddwn yn awyddus i ddangos mwy o garedigrwydd, bod yn fwy cyfeillgar, neu fod yn barod i helpu.

    Os hoffech chi wneud hynny, fe allech chi rannu eich enghraifft eich hun o rywbeth yr ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod y flwyddyn.

  6. Nodwch fod Cristnogion yn credu bod Duw yn awyddus i bobl gael dechrau newydd. Maen nhw’n credu bod Duw eisiau maddau iddyn nhw am y pethau anghywir y maen nhw wedi eu gwneud. Maen nhw’n credu fod grym gan Dduw a fydd yn gallu helpu pobl i newid.

Amser i feddwl

Dewisol: Goleuwch gannwyll wrth i chi ddweud y geiriau canlynol.

Wrth i ni oleuo'r gannwyll hon, gadewch i ni feddwl am yr hyn yr ydym wedi'i glywed, a meddwl sut mae'n effeithio arnom ni.

Gadewch i ni feddwl am un peth y byddem yn hoffi cael dechrau newydd ar ei gyfer eleni. Fe allai’r peth hwnnw fod yn rhywbeth fel ymgymryd â hobi newydd, rhoi help llaw i ffrind sydd angen ein help, dweud geiriau caredig wrth siarad â rhywun, ceisio ein gorau glas i sillafu’n gywir, bod yn fwy amyneddgar, darllen mwy - mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Os ydych chi eisiau, fe allech chi ymuno yn y weddi hon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ddechreuadau newydd.
Diolch ein bod yn gallu dechrau o’r newydd eto eleni.
Helpa ni i gyflawni’r pethau y byddwn ni’n gobeithio amdanyn nhw yn y flwyddyn sydd i ddod.
Diolch.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon