Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cofleidio

Sut gallwn ni helpu pobl eraill ar ddechrau'r flwyddyn ysgol?

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Codi ymwybyddiaeth o effaith gweithredoedd cariadus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod y delweddau canlynol ar gael gennych chi, a'r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:
    - crud cynnal, ar gael ar:https://tinyurl.com/ybyshert
    - efeilliaid mewn crud cynnal, ar gael ar :https://tinyurl.com/y94wb95p
    -Brielle a Kyrie Jackson yn oedolion, ar gael ar :https://tinyurl.com/yc8ts8ph
  • Nodwch:Mae’n debyg y bydd angen sensitifrwydd yn ystod y gwasanaeth hwn, yn enwedig os yw aelod o’r staff neu blant wedi cael y profiad o fabanod yn cael gofal mewn unedau newydd-enedigol.
  • Dewisol: Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio'r stori o'r Beibl, a geir yn Marc 10.13-16, yn ystod y rhan 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant ydyn nhw'n gwybod beth yw crud cynnal neu ‘incubator’. Eglurwch fod crud cynnal yn offer arbenigol sy'n darparu amgylchedd rheoledig ac amddiffynnol. Mae’n cael ei ddefnyddio'n aml ar gyfer babanod bach iawn neu fabanod sydd wedi eu geni’n gynamserol.

    Dangoswch y ddelwedd o’r baban mewn crud cynnal, ac yna adroddwch y stori ganlynol.

  2. Roedd yr efeilliaid, Brielle a Kyrie Jackson, wedi eu geni 12 wythnos cyn pryd. Roedd hyn yn golygu eu bod yn fach iawn a heb ei ddatblygu yn gyfan gwbl, ac oherwydd hynny roedd arnyn nhw angen gofal ychwanegol. Cafodd y ddwy eu gosod mewn dau grud cynnal ar wahân mewn adran arbennig o'r ysbyty a elwir yn uned babanod newydd-anedig.

    Mae unedau babanod newydd-enedigol yn arbenigo mewn gofalu am fabanod sydd wedi eu geni yn gynnar ac sydd o bwysau isel neu sydd â chyflwr meddygol sy'n galw am driniaeth arbenigol.

  3. Yn yr uned babanod newydd-anedig, roedd Brielle a Kyrie yn derbyn gofal bob awr o’r dydd a’r nos gan feddygon a nyrsys oedd wedi'u hyfforddi'n arbennig. Gall babanod sydd yn fach iawn ar eu genedigaeth gael llawer o broblemau iechyd, ond ar ôl ychydig fe ddechreuodd Kyrie ennill pwysau ac roedd eu hiechyd yn sefydlogi. Fodd bynnag, dim ond 1kg oedd pwysau Brielle ar ei genedigaeth – dyna’r un pwysau â saith afal - roedd hi’n fach iawn, ac nid oedd yn ymddangos ei bod yn gwneud unrhyw gynnydd. Roedd y nyrs a oedd yn gofalu am Brielle yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu, ond doedd dim byd fel petai’n ymddangos ei fod yn gweithio. Yna, fe gafodd y nyrs syniad ac fe ofynnod hi i rieni’r efeilliaid a allai hi roi Kyrie yn y crud cynnal gyda'i chwaer fach a oedd yn wannach. Fe adawodd y nyrs i’r babanod bach gysgu gyda’i gilydd, ond pan ddaeth yn ei hôl roedd hi’n methu â chredu’r hyn roedd hi’n ei weld, ac fe alwodd hi ar y meddygon a'r nyrsys i ddod yn gyflym. A dyma beth welson nhw.

  4. Dangoswch y ddelwedd o’r baban bach yn cofleidio’i gefeilles yn y crud cynnal

    Roedd Brielle wedi cwtsio at ei chwaer. Yna roedd Kyrie wedi rhoi ei braich fach o'i chwmpas fel pe bai i’w chofleidio a’i chynnal hi. O'r eiliad honno ymlaen, fe ddechreuodd anadl a churiad calon Brielle sefydlogi ac fe ddechreuodd wella.

  5. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n feddwl oedd wedi gwneud y gwahaniaeth.

    Awgrymwch mai tamaid bach arbennig o gariad ac anwyldeb a wnaeth y gwahaniaeth i’r efeilles fach.

    Dangoswch y ddelwedd o Brielle a Kyrie Jackson yn oedolion.

    Dyma stori hyfryd o'r gwahaniaeth y mae cariad yn gallu ei wneud.

  6. Nodwch y bydd y plant, ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd, yn teimlo ystod eang o emosiynau. Bydd rhai plant yn newydd i'r ysgol a bydd llawer o blant mewn dosbarthiadau newydd gydag athrawon newydd. Bydd rhai plant yn llawn cyffro ond efallai y bydd rhai eraill yn pryderu, neu hyd yn oed yn drist. Mae'r ffordd yr ydym yn trin pobl ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd yn bwysig iawn.

    Nodwch y gallai rhywun yn yr ysgol fod mewn angen ychydig o gysur neu garedigrwydd.

  7. Gofynnwch am awgrymiadau ynghylch sut y gallai rhywbeth mor syml â gwên newid diwrnod rhywun a gwneud gwahaniaeth i ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd.

    - Gallai gwên wneud i athro neu athrawes newydd deimlo bod croeso yn yr ysgol iddo ef neu hi.
    - Gallai gwên wneud i aelodau o’r staff deimlo bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.
    - Gallai gwên wneud i blentyn deimlo ei fod ef neu hi yn cael ei hoffi a’i dderbyn.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant, 'Beth allwn ni ei wneud heddiw i roi dechrau gwych i'r flwyddyn ysgol newydd i bob person yn yr ysgol?’

Oedwch i ganiatáu amser i feddwl.

Efallai yr hoffech chi wrando ar ymateb rhai o’r plant.

Mae stori yn y Beibl (Marc 10.13-16) lle mae pobl yn dod â'u plant bach at Iesu. Ar y dechrau, roedd y disgyblion (grwp arbennig o ffrindiau Iesu) yn dweud wrth y bobl am fynd â'u plant i ffwrdd. Fodd bynnag, mae Iesu'n dweud wrth y disgyblion am beidio â gwneud hynny, ac mae’n nodi pa mor bwysig yw plant. Yna, mae'n rhoi ei fraich o amgylch y plant ac yn cymryd amser i wrando arnyn nhw, ac yn gweddïo drostyn nhw. Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn gofalu am bobl o bob oed, ac yn eu caru, ac mae am i ni wneud yr un peth.

Gadewch i ni i gyd feddwl am rywun yn yr ysgol heddiw a allai fod angen cysur neu air caredig.

Pan awn ni adref o'r ysgol heddiw, gadewch i ni gofleidio rhywun yn ein teulu, a gweld beth sy'n digwydd!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am y stori hyfryd hon am BrielleaKyrieJackson.
Helpa ni i fod yn garedig ac yn gariadus tuag at ein gilydd, ac i sylweddoli faint o wahaniaeth y gallwn ni ei wneud.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon