Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Winwydden

Y bumed yn y gyfres sy’n ystyried datganiadau Iesu, ‘Myfi yw ... ’

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried datganiad Iesu mai ef yw’r winwydden.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen naw cerdyn chi gyda'r geiriau 'Cariad', 'Llawenydd', 'Heddwch', 'Amynedd', 'Caredigrwydd', 'Daioni', 'Ffyddlondeb', 'Addfwynder' a 'Hunanreolaeth' wedi eu hysgrifennu arnyn nhw, un gair ar bob cerdyn.
  • Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno rhannu swp o rawnwin gyda'r plant. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â photel o win neu sudd grawnwin i’w dangos i'r plant.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o winllan.

    Gofynnwch i'r plant awgrymu beth sy'n tyfu yn y winllan hon yn y llun. (Ateb: grawnwin)

    Sylwch mai mewn rhesi hirion y mae grawnwin yn cael eu tyfu. A yw'r grawnwin yn tyfu mewn gwledydd poeth neu wledydd oer? Pa gliwiau sydd yn y llun i'n helpu ni i ateb y cwestiwn hwn?

  2. Dangoswch y ddelwedd o swp o rawnwin.

    Gofynnwch i'r plant ym mha le arall y gallan nhw weld gweld grawnwin yn tyfu. (Ateb posib: mewn ty gwydr)

    Ym mha ffordd yr ydyn ni’n defnyddio grawnwin? (Atebion posib: i’w bwyta fel byrbryd neu mewn pwdin, neu i'w yfed fel sudd grawnwin neu win)

    Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno dangos swp o rawnwin i'r plant a/neu botel o win neu sudd grawnwin. 

  3. Gofynnwch y cwestiynau canlynol er mwyn cael syniad faint mae'r plant yn ei wybod am rawnwin.(Efallai yr hoffech chi wobrwyo'r plant gyda grawnwin am ateb yn gywir!)

    - Enwch dri lliw grawnwin. (Atebion posib: gwyn (gwyrdd mewn gwirionedd), coch, du, glas-tywyll, melyn, oren a phinc)
    - Beth ydyn ni'n galw'r lle mae grawnwin yn tyfu fel cnydau ac yn cael eu cynaeafu? (Ateb: gwinllan)
    - Beth ydyn ni'n galw astudiaeth o rawnwin ac amaethu grawnwin: grawnwinoleg, gwin amaethu neu winwyddaeth? (Ateb: gwinwyddaeth)
    - Pa wledydd yn Ewrop sy'n cynhyrchu’r mwyaf o win? (Ateb: Yr Eidal, Sbaen a Ffrainc)
    - Beth yw'r enw a roddwn ar rawnwin sych? (Ateb: rhesins a syltanas)

  4. Dangoswch y diagram sy’n dangos rhannau o blanhigyn y winwydden.

    Dyma'r ffordd y mae'r winwydden yn cael ei harwain i dyfu.  Sylwch fod y clystyrau o rawnwin yn dod o bob cangen unigol o'r winwydden.

    Un o'r datganiadau a wnaeth Iesu amdano'i hun oedd, ‘Myfi yw'r wir winwydden a chi yw'r canghennau.’

    Efallai ei fod yn digwydd cerdded drwy winllan ar y pryd a'i fod yn awyddus i roi cymorth gweledol i'w ddisgyblion fel y bydden nhw'n cofio ei neges.

    Efallai ei fod wedi cyfeirio at blanhigyn gwinwydden a oedd wedi hen sefydlu: gan gyfeirio at y boncyff, y canghennau i gyd yn tyfu'n llorweddol, a'r holl rawnwin braf llawn sydd. Efallai ei fod ef a'i ddisgyblion wedi casglu rhai o'r grawnwin ac wedi eu bwyta.

    Gallai fod wedi holi. ‘Beth fyddai'n digwydd pe byddwn i'n tynnu’r gangen hon oddi ar y winwydden a'i gadael hi ar y llawr?’

    Sut y byddai'r disgyblion wedi ateb?

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Eglurwch byddai'r gangen yn gwywo, yn sychu ac yn marw. Mae'n rhaid i'r gangen aros ynghlwm wrth y winwydden os yw'n mynd i gynhyrchu unrhyw ffrwyth. Mae'r gangen yn cael ei holl gynhaliaeth oddi wrth y winwydden.

  5. Yn union fel y grawnwin llawn sudd ar y winwydden hon, roedd Iesu eisiau i'r disgyblion gynhyrchu ffrwyth da.

    Holwch y plant pa fath o ffrwyth y byddai Iesu wedi bod yn sôn amdano.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Eglurwch nad oedd Iesu'n golygu y dylem gynhyrchu afalau neu orenau! Yn hytrach, roedd yn golygu y dylai ein bywyd arddangos nodweddion da a rhinweddol.

  6. Mae'r Beibl yn dweud wrthym y dylai'r ffrwyth fod yn debyg i hyn . . .

    Gofynnwch i’r plant ddal i fyny'r naw cerdyn gyda'r geiriau 'Cariad', 'Llawenydd', 'Heddwch', 'Amynedd', 'Caredigrwydd', 'Daioni', 'Ffyddlondeb', 'Addfwynder' a 'Hunanreolaeth' wedi eu hysgrifennu arnyn nhw, i’r plant eraill eu gweld.

    Dewisol: gall y plant sy'n dal y cardiau i fyny, fod yr union blant sydd wedi dangos y rhinweddau neilltuol hyn yn yr ysgol, ac fe fyddai’n bosib dathlu'r ffaith hon yn y gwasanaeth hwn.

    Mae'r ‘ffrwythau’ hyn yn aml yn ymddangos yn yr ysgol.  Gofynnwch i’r plant chwilio amdanyn nhw heddiw.

Amser i feddwl

Dychmygwch sut le fyddai yn ein cartrefi pe byddem ni i gyd yn cynhyrchu'r ffrwythau hyn.

Dychmygwch sut le fyddai yn ein hysgol pe byddem ni i gyd yn cynhyrchu'r ffrwythau hyn.

Dychmygwch sut le fyddai yn ein cymuned, yn ein tref/ein dinas, a'n gwlad pe byddem ni i gyd y'n cynhyrchu'r ffrwythau hyn.

Gweddi
Annwyl Duw,
Rydyn ni’n diolch i ti am rawnwin hyfryd, llawn sudd.
Helpa ni i dyfu ffrwythau cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth ynom ein hunain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon