Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arwyddion ffyrdd

Sut rydyn ni’n byw ein bywyd?

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae Cristnogion ac eraill yn credu bod y Beibl yn arwyddbost sy’n dangos llwybr iddyn nhw trwy fywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r Beibl.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen delweddau o’r arwyddion ffyrdd a ddangosir yma. Mae’n bosib i chi lunio’r rhain eich hunan ar ddarnau o bapur neu eu llwytho i lawr oddi ar y wefan:www.bris.ac.uk/imagelib/ts.html

Roadsign - no entryRoad sign - stopRoad sign - one wayRoad sign - hazard

 

Gwasanaeth

  1. Dangoswch bob un o’r arwyddion hyn yn eu tro.

    Gofynnwch i'r plant beth mae pob arwydd ei olygu a pha gamau y dylai gyrrwr eu cymryd wrth eu gweld.

    - Mae’r arwydd cyntaf yn golygu 'Dim mynediad'. (No entry)
    - Mae’r ail arwydd yn golygu 'Stopiwch ac ildiwch’ (Stop and give way).
    - Mae'r trydydd arwydd yn golygu 'Traffig unffordd' (One-way traffic).
    - Mae'r pedwerydd arwydd yn golygu 'Perygl' (Danger).

  2. Dangoswch y Beibl i’r plant.

    Nodwch fod Cristnogion a phobl o grefyddau eraill yn credu bod y Beibl yn cynnwys llawer o ddoethineb a all ein helpu i fyw bywyd gwell.

  3. Dangoswch yr arwydd  'Dim mynediad' eto.

    Weithiau, mae'r Beibl yn dweud wrthym ei bod hi’n well i ni beidio â dilyn ffyrdd penodol o fyw (fel bod yn hunanol a pheidio â rhannu). Efallai yr hoffech chi dynnu sylw eich cynulleidfa at y Deg Gorchymyn. Mae Cristnogion yn credu nad oherwydd am fod Duw eisiau difetha ei hwyl, neu am ei fod yn ‘spoilsport’ y mae’n dweud hyn, ond am ei fod yn ein caru ni ac yn gofalu amdanom.

  4. Dangoswch yr arwydd  'Stopiwch ac ildiwch’ eto.

    Eglurwch fod rhai straeon a deddfau yn y Beibl, sy'n dweud wrthym am roi'r gorau i wneud rhywbeth. Efallai ein bod yn brifo teimladau pobl eraill neu yn gwneud rhywbeth rydyn ni’n gwybod sy’n anghywir. Mae'r Beibl yn dangos y dylem roi'r gorau i wneud y pethau hynny sydd ddim yn iawn, a dilyn bywyd sy'n dda ac sy’n cynnwys helpu a gofalu am eraill.

  5. Dangoswch yr arwydd  'Traffig unffordd' eto.

    Mae'r Beibl yn dangos ffordd o fyw sy'n ein hannog i feddwl am eraill o flaen ni ein hunain. Mae'n gofyn i ni beidio â rhoi ein hunain yn gyntaf, a mynnu pob math o bethau, ond i ystyried syniadau a dewisiadau pobl eraill bob amser. Fe fyddwn ni’n hapusach pan fyddwn ni yn byw fel hyn.

  6. Dangoswch yr arwydd  'Perygl' eto.

    Eglurwch fod Cristnogion yn credu nad yw’r Beibl yno i wneud ein bywydau yn ddiflas, ond i ddangos i ni yn ffordd dda o fyw sy'n gwneud y rhai o'n cwmpas yn hapus. Mae'n dangos i ni fod yna berygl o gael eu dal mewn sefyllfa lle rydyn ni mor hunanol fel ein bod yn y pen draw yn gwneud ein hunain, a'r rhai sydd o'n cwmpas hefyd, yn anhapus.

  7. Pwysleisiwch nad dim ond llyfr o reolau i Gristnogion eu dilyn yw'r Beibl; mae’n llyfr sy’n llawn o enghreifftiau o sut y gallwn ni fyw ein bywydau er mwyn eraill. Mae llawer o bobl yn teimlo ei fod yn rhoi cyfarwyddyd iddyn nhw, ac yn rhoi heddwch a chysur iddyn nhw. Mae rhai pobl yn credu bod Duw yn siarad yn uniongyrchol â nhw drwy'r Beibl, ac eraill yn gweld y Beibl fel ffynhonnell dda o straeon diddorol a doethineb o'r gwareiddiadau cynharaf. Mae'n adrodd hanes Iesu a'i ddilynwyr yn y Testament Newydd, ac yn adrodd hanes y bobl Iddewig yn yr Hen Destament.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am foment am yr arwyddion ffyrdd sy’n ein helpu ni i fod yn ddiogel ar y ffyrdd.

Gadewch i ni gymryd amser i feddwl am ble rydyn ni’n cael ein cyfarwyddiadau ar gyfer ein bywyd.

- Ydyn ni’n gwybod rhai o’r straeon sydd i’w cael yn y Beibl?
-A yw’r straeon hynny’n ein helpu i feddwl am sut i fyw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti eisiau ein helpu ni drwy gydol ein bywyd.
Diolch i ti am y Beibl, sy’n ein hannog ni i ofalu am bobl eraill.
Helpa ni i feddwl am y ffordd y mae ein bywydau ni yn effeithio ar y rhai sydd o'n cwmpas ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon