Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llygaid Bach Yn Eich Gwylio Chi

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog ymwybyddiaeth o’r ffaith y bydd plant y Dosbarth Derbyn yn efelychu ymddygiad ac agwedd plant hyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y gerdd ‘Llygaid Bach yn eich Gwylio Chi’ ar dryloywder OHP neu fwrdd gwyn.
  • Copïau o’r datganiadau canlynol, i’w torri a’u gludo fel bo’n briodol (gwelwch rhif 4).
    Mae’r rhai bach yn eich gwylio.
    Mae’r rhai bach yn gwrando arnoch chi.
    Mae’r rhai bach yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud.
    Mae’r rhai bach yn eich trystio.
    Mae’r rhai bach eisiau bod yr un fath â chi.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch nifer o wirfoddolwyr o ddosbarthiadau’r plant ieuengaf i ddod i chwarae  gêm o ‘Mae Seimon yn dweud’ gyda chi. Neu os yw hynny’n briodol, chwaraewch y gêm gyda’r gynulleidfa gyfan.

  2. Eglurwch mai’r hyn sy’n gwneud y gêm yn anodd yw ei bod hi’n haws copïo symudiadau na gwrando ar gyfarwyddiadau bob tro. Fe fyddwn ni’n gweld rhywun yn rhoi ei ddwylo ar ei ben, er enghraifft, ac yn gwneud yr un fath ar unwaith heb wrando am y geiriau hud, ‘Mae Seimon yn dweud’.

    Bydd pob un ohonom yn ei gweld hi’n rhwydd copïo rhywun arall.  Sawl gwaith rydych chi wedi clywed plentyn yn dweud, ‘Ond fe wnaeth ‘hwn a hwn’ hynny’n gyntaf’? Sawl gwaith rydych chi wedi clywed oedolyn yn dweud wedyn, 'Pe bai ‘hwn a hwn’ yn dweud wrthyt ti am roi dy fys yn y tân, fyddet ti’n gwneud hynny?' Yr hyn y mae’r oedolion hynny’n ei feddwl yw bod yn rhaid i chi ddysgu meddwl drosoch eich hunan a pheidio â chopïo’r hyn y mae rhywun arall yn ei wneud bob tro.

    Yn y Beibl, mae pobl yn cael eu disgrifio fel defaid! Fe wyddoch chi sut bethau yw defaid - pa mor dda ydyn nhw am gopïo’r lleill. Fe fydd un yn penderfynu mynd i fyny’r cae i un cyfeiriad, ac fe fydd y gweddill yn mynd ar ei hôl! Fe fydd un yn neidio dros y ffens, ac fe fydd pob un o’r lleill yn ei dilyn, ac yn neidio dros y ffens!

  3. Mae llawer ohonom yn gyfarwydd â hyn am fod gennym ni frodyr a chwiorydd iau na ni. Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo os oes ganddyn nhw frodyr neu chwiorydd bach. Nawr gofynnwch iddyn nhw godi eu dwylo os yw eu brawd neu eu chwaer fach yn copïo’r hyn maen nhw’n ei wneud weithiau. Mae hynny’n gyfrifoldeb mawr. Wrth gwrs, mae’n beth ardderchog os ydyn nhw wrth eich copïo chi yn dysgu dweud ‘plîs’ a ‘diolch', neu’n dysgu defnyddio cyllell a fforc i fwyta’n daclus. Ond nid mor ardderchog yw eich copïo’n dweud geiriau cas neu dynnu wynebau hyll, ac ati! Weithiau mae rhieni’n methu deall sut mae eu plentyn bach wedi dysgu gwneud y pethau hyn. Fe all y rhan fwyaf ohonom ddyfalu!

    Dywedwch wrth y plant fod gennym ni yn yr ysgol blant bach newydd, ifanc, sydd newydd ymuno â theulu’r ysgol. Mae popeth yn yr ysgol yn newydd iddyn nhw, a wyddoch chi pwy y byddan nhw’n eu gwylio ... ac yn eu copïo? Maen nhw braidd yn ifanc i allu penderfynu drostyn nhw’u hunain a yw rhywbeth yn iawn i’w wneud ai peidio. Maen nhw’n gweld plentyn hyn yn gwneud rhywbeth, ac maen nhw’n meddwl ei bod hi’n iawn iddyn nhw wneud yr un fath, ac wrth gwrs, maen nhw’n copïo.

  4. Darllenwch y gerdd, 'Llygaid bach yn gwylio'.

    Mae llygaid bach yn eich gwylio,
    Gwylio popeth rydych chi’n ei wneud.
    Mae clustiau bach wrthi’n gwrando
    Gwrando ar bopeth rydych chi’n ddweud.

    Mae dwylo bach yn awyddus
    I wneud popeth ’run fath â chi;
    A meddyliau bach sy’n dychmygu
    Cael bod yn union ’run fath â ni.

    Rydych chi’n arwr i’r plentyn bach,
    Rydych chi’n un o ryfeddodau mawr y byd.
    Pan fydd y rhai bach yn eich gwylio,
    Chi yw’r doethaf o’r doethion i gyd.

    Maen nhw’n credu ynoch chi’n hollol,
    Rydych chi’n destun edmygedd llawn;
    Fe fyddan nhw’n efelychu pob symudiad o’ch eiddo,
    Felly gofalwch fod popeth a wnewch yn iawn.

    (Addasiad o gerdd gan awdur anhysbys)

    Dangoswch y datganiadau sydd gennych chi wedi’u paratoi, a gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gallu cyfateb y datganiadau i rannau o’r gerdd. Er enghraifft, pa ran o’r gerdd sy’n dweud fod ‘Rhai bach yn gwrando arnoch chi’? Os yn bosib, fe allech chi lynu’r datganiadau ar y gerdd, neu ochr yn ochr â’r gerdd, fel mae’n briodol.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Treuliwch foment i feddwl am blant hyn ac oedolion yn eich bywydau chi sydd wedi gosod esiampl dda i chi trwy eu hymddygiad a’u hagwedd tuag at bethau.
Meddyliwch am sut esiampl yr hoffech chi fod, i’r plant bach eich copïo chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr ysgol, a diolch am yr hyn rydyn ni ei ddysgu yn yr ysgol.
Diolch i ti am y plant a’r oedolion sy’n ceisio dangos i ni'r ffordd orau o fyw.
Helpa ni i gyd fod yn esiampl dda i eraill, yn enwedig i’r plant sy’n iau na ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon