Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud ffrindiau

Gwahoddiad i gyfeillgarwch

gan Revd Sophie Jelley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd cyfeillgarwch ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r plant.

    - Sut oeddech chi’n teimlo ynghylch dod i’r ysgol heddiw?
    - Sut oeddech chi’n teimlo ynghylch dechrau tymor newydd?
    - Sut oeddech chi’n teimlo ynghylch mynd i ddosbarth newydd?
    - Sut oeddech chi’n teimlo ynghylch cael athro neu athrawes newydd?
    - Sut oeddech chi’n teimlo ynghylch cyrraedd ysgol sy’n newydd i chi?

  2. Eglurwch fod pawb yn teimlo'n od weithiau wrth fynd i sefyllfaoedd newydd. Weithiau, gall fod yn deimlad brawychus; weithiau yn gyffrous. Weithiau, gallwn fod yn ofni na fyddwn yn debyg o gael croeso yno, ac nid yw hynny'n deimlad braf i unrhyw un.

    Dangoswch y gwahoddiad i’r plant.

    Gofynnwch i wirfoddolwr ddod i'r tu blaen ac agor yr amlen sy’n cynnwys y gwahoddiad. Darllenwch y geiriau ar y gwahoddiad ac esbonio pa mor dda yr oeddech chi’n teimlo wrth gael dod i’r gwasanaeth wedi i fynd i’r drafferth o’ch gwahodd chi.

  3. Gofynnwch i'r plant sut y byddan nhw'n teimlo pan fyddan nhw’n derbyn gwahoddiad i rywbeth fel parti pen-blwydd neu fynd i gysgu noson gyda ffrindiau.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  4. Ailadroddwch stori Sacheus neu ei darllen i’r plant. Dyma’r prif bwyntiau.

    - Dyn bach iawn oedd Sacheus.
    - Ei waith oedd casglu trethi. Roedd hynny’n golygu nad oedd y bobl eraill yn ei hoffi’n fawr iawn.
    -Clywodd Sacheusfod Iesu’n dod i’r dref lle’r oedd yn byw, ac roedd Sacheus yn awyddus iawn i weld Iesu.
    - Fe benderfynodd ddringo coeden er mwyn gallu gweld dros ben y bobl a oedd yn y dyrfa.
    - Pan aeth Iesu heibio fe sylwodd ar Sacheus ar ben y goeden.
    - Fe arhosodd Iesu a chyfarchSacheus,ac wedyn fe aeth gydag ef i gael pryd o fwyd yn nhy Sacheus.
    - Roedd Sacheus wrth ei fodd ei fod wedi gwneud ffrind newydd o'r enw Iesu, ac roedd Iesu yn hapus iawn i fod yn ffrindiau gydag ef, er bod rhai pobl yn meddwl nad oedd Sacheus yn rhywun dymunol iawn.

  5. Ar ddechrau blwyddyn newydd, does neb yn gwybod pwy yw pawb. Mae bob amser rhywun newydd i gwrdd ag ef neu hi, boed yn y dosbarth, yn ystod amser cinio neu ar yr iard chwarae.

    Gadewch i ni gadw golwg yr wythnos hon am ffrindiau newydd y gallem eu cyfarfod. Efallai na fyddan nhw i fyny ar ben coeden, ond efallai eu bod yn teimlo'n ansicr ac yn amhoblogaidd, ychydig fel yr oedd Sacheus yn teimlo. Gadewch i ni geisio dod i adnabod yn well rhywrai nad ydyn ni’n eu hadnabod yn dda iawn. Fe allen ni eu gwahodd i chwarae gyda ni, neu eistedd yn eu hymyl yn ystod yr amser cinio. 

  6. Roedd Iesu yn dda am wneud ffrindiau, hyd yn oed gyda'r bobl hynny doedd y rhan fwyaf o bobl eraill ddim yn eu hoffi’n fawr iawn. Gadewch i ninnau geisio bod yn dda am wneud hynny hefyd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am eich ffrindiau - beth sy'n eich gwneud chi'n hapus wrth i chi dreulio amser gyda nhw? Efallai eich bod chi’n chwerthin gyda'ch gilydd, yn chwarae’n hapus gyda’ch gilydd, yn dyfeisio gemau ac yn gwneud pethau arbennig.

Meddyliwch am sut beth fyddai bywyd heb ffrindiau. Mae cyfeillion yn rhan arbennig iawn o fywyd pawb.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Diolch am ffrindiau newydd.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da.
Helpa ni i ddod i adnabod pobl yn well yn ystod y flwyddyn hon.
Helpa ni i fod yn gynhwysol a gad i ni bob amser annog eraill i ymuno gyda ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon