Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Symbolau Heddwch

Mae Diwrnod Rhyngwladol Heddwch ar 21 Medi

gan Revd Catherine Williams (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried gwahanol symbolau yn ymwneud â heddwch, a'u hystyron.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: tudalennau o bapur a phinnau ffelt ar gyfer Rhan 2 y ‘Gwasanaeth’.

  • Dewisol: siâp colomen wedi’i dorri allan o gerdyn mawr, papurau nodiadau Post-it  a phinnau ffelt ar gyfer Rhan 3 y ‘Gwasanaeth’.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw’n gwybod am unrhyw symbolau neu arwyddion y mae pobl yn eu defnyddio i olygu 'heddwch'. Dewiswch awgrymiadau gan y plant sy'n cyd-fynd â'r delweddau o symbolau yr ydych chi wedi'u paratoi, ac eglurwch darddiad ac ystyr pob un.

    Dangoswch y ddelwedd o golomen.
    Mae'r golomen wedi bod yn symbol o heddwch ers yr hen amser. Fe'i defnyddiwyd gan y Groegiaid ac yn Japan hynafol. Mabwysiadodd Cristnogaeth y golomen fel symbol o Dduw, yr Ysbryd Glân, sy'n dod â'r rhodd o heddwch.

    Dangoswch y ddelwedd o golomen gyda brigyn olewydd yn ei phig.
    Mae'r gangen olewydd hefyd yn symbol hynafol o heddwch o Wlad Groeg. Roedd enillwyr yn y Gemau Olympaidd yn derbyn torchau wedi'u gwneud o frigau a dail y goeden olewydd. Yn y Beibl, yn stori Noa a'r dilyw, anfonwyd colomen i chwilio am dir. Yn y pen draw, dychwelodd y golomen gyda brigyn olewydd yn ei phig, gan nodi bywyd newydd a dechrau newydd. Mae baneri rhai gwledydd y byd â llun cangen olewydd arnyn nhw sy'n cynrychioli heddwch.

    Dangoswch y ddelwedd o enfys.
    Unwaith eto, yn stori Noa a'r dilyw, rhoddodd Duw enfys yn yr awyr i ddangos ei addewid na fyddai byth eto’n dinistrio'r byd. Mae enfys fel pont sy'n dod â phobl at ei gilydd.

    Dangoswch y ddelwedd o arwydd heddwch.
    Dyluniwyd y symbol hwn yn 1958 fel rhan o ymgyrch i wahardd arfau niwclear. Mae pobl wedi ei ddefnyddio ers hynny er mwyn nodi heddwch.

    Dangoswch y ddelwedd o’r aderyn garan origami.
    Mae'r symbol hwn yn tarddu o Japan. Roedd merch fach o'r enw Sadako Sasaki yn marw o lewcemia yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Ceisiodd wneud 1,000 o adar papur, garan, origami cyn iddi farw. Bob blwyddyn, mae miloedd o'r symbolau heddwch hyn yn cael eu gwneud a'u gosod ar gofeb heddwch Hiroshima.

    Dangoswch y ddelwedd o ‘ankh’.
    Yr enw ar y symbol hwn yw ‘ankh’ ac mae'n dod o'r hen Aifft. Mae'n cynrychioli bywyd ac anfarwoldeb. Roedd pobl yn arfer gosod ffrwythau wrth ymyl afonydd i annog i’r dwr lifo. Heddiw, defnyddir y symbol fel symbol ar gyfer heddwch a chytgord.

    Dangoswch y ddelwedd o arwydd-V.
    Mae'r arwydd hwn, lle mae dau fys yn cael eu codi a chledr y llaw yn wynebu allan, yn golygu buddugoliaeth a diwedd i ryfel. Fe'i defnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan enwog Winston Churchill.

    Dangoswch y ddelwedd o ddau’n ysgwyd dwylo.
    Mae ysgwyd dwylo yn symbol hynafol sy’n cyfleu heddwch. Mae'n dangos nad yw'r bobl sy'n ysgwyd dwylo yn dal arfau. 

  2. Os yw'r plant yn gwybod am unrhyw symbolau eraill ar gyfer heddwch, efallai yr hoffech eu gwahodd i’r tu blaen i dynnu llun y symbol ar ddarn o bapur.

  3. Gofynnwch i'r plant pa lefydd a sefyllfaoedd yn y byd sydd wir angen anrheg Duw o heddwch heddiw. Anogwch y plant i feddwl am sefyllfaoedd lleol a sefyllfaoedd rhyngwladol, gan fod yn sensitif ar yr un pryd i oedran y plant sy'n bresennol. Gwahoddwch y plant i ysgrifennu eu syniadau ar nodiadau Post-it a'u gosod ar y siâp colomen sydd gennych chi wedi ei dorri allan yn barod.

Amser i feddwl

Gwahoddwch y plant, yn ystod yr wythnos sydd i ddod, i edrych ar y siâp colomen rydych chi wedi ei dorri allan, a’u hannog i osod mwy o nodiadau Post-it wrth iddyn nhw feddwl am sefyllfaoedd sydd angen heddwch. Gwahoddwch nhw i dynnu lluniau o symbolau heddwch hefyd i'w hychwanegu at yr arddangosfa.

Esboniwch fod 21 Medi yn Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch. Sefydlwyd y diwrnod hwn yn 1981 gan y Cenhedloedd Unedig ac fe'i cadwyd fel diwrnod arbennig ledled y byd bob blwyddyn ers hynny. Mae'r diwrnod yn annog pobl i ymrwymo i heddwch uwchlaw pob gwahaniaeth arall.

Arweiniwch y weddi ganlynol i ddiweddu. Addasiad sydd yma o fendith Wyddelig, neu chwaraewch fersiwn John Rutter ohoni, sydd ar gael fel fideo YouTube o'r enw ‘Deep Peace a Gaelic Blessing Libera (John Rutter)’.

Heddwch dwfn symudiad y don i chi,
Heddwch dwfn yr awel iach i chi,
Heddwch dwfn y ddaear dawel i chi,
Heddwch dwfn y sêr disglair i chi,
Heddwch dwfn y noson dyner i chi,
Bydded i'r lleuad a'r sêr arllwys eu goleuni iachusol arnoch chi,
Heddwch dwfn Crist, goleuni'r byd i chi.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon