Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llestr neu lamp?

‘Nid llestr i’w lenwi yw plentyn, ond lamp i’w goleuo’

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Ystyried fod gan bob un ohonom ei ran unigryw i’w chwarae yn y ffordd rydyn ni’n dysgu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch i arddangos y ddihareb Hebraeg hon: ‘Nid llestr i’w lenwi yw plentyn, ond lamp i’w goleuo.’
  • Trefnwch fod y pethau canlynol gennych chi i’w dangos: bag ysgol newydd, rhai llyfrau mawr, rhai llyfrau ysgrifennu, geiriadur, atlas, microsgop, cyfrifiannell a nifer o bensiliau a beiros.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen lamp olew neu lamp gannwyll.

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y datganiadau canlynol i’r plant.

    - Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol i ddysgu am bethau.
    - Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol i orlenwi eich pen gyda llawer o ffeithiau.
    - Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol i lwyddo mewn profion a phasio arholiadau.
    - Mae rhai pobl yn meddwl eich bod yn mynd i’r ysgol, ac yna’n mynd i’r coleg a phrifysgol, er mwyn cael swydd dda ac ennill cyflog da.

    Ail adroddwch bob brawddeg fesul un a holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl o’r gosodiadau.

    Gwrandech ar ymateb nifer o’r plant.

  2. Dangoswch y ddihareb Hebraeg.

    Darllenwch y ddihareb yn uchel: ‘Nid llestr i’w lenwi yw plentyn, ond lamp i’w goleuo.’

    Dangoswch y bag ysgol newydd ac yna ei lenwi â’r llyfrau mawr, y llyfrau ysgrifennu, y geiriadur, yr atlas, a’r microsgop, y gyfrifiannell a’r pensiliau a’r beiros ac ati.

    Daliwch y cyfan i fyny gan ddweud, ‘Nid llestr i’w lenwi yw plentyn . . .’

    Mae’r ddihareb yma’n dweud nad ydych chi’n dod i’r ysgol gyda phen fel bag gwag yn barod i’w lenwi gyda phob math o bethau, hyd yn oed os yw’r pethau hynny’n cynnwys rhywbeth sy’n cael ei alw’n wybodaeth!

  3. Dangoswch y lamp, ac yna ei goleuo.

    Gorffennwch y ddihareb trwy ddweud, ‘. . . ond lamp i’w goleuo.’

    Ystyr hyn yw eich bod yn dod i’r ysgol gyda photensial o’ch mewn. Mae rhywbeth unigryw ym mhob un ohonom, a’ch gwaith chi a gwaith yr athrawon yw dod o hyd i’r rhywbeth unigryw hwnnw, a rhoi cyfle iddo ddisgleirio.

  4. Efallai mai rhyw sgil neilltuol fyddai’r peth unigryw hwnnw, neu ddiddordeb arbennig efallai, neu allu creadigol. Mae’n bosib bod rhai ohonoch chi eisoes yn ymwybodol o’ch doniau, efallai bod rhai eraill heb fod yn sylweddoli eto bod gennych chi ddawn arbennig. Dyna beth yw swyddogaeth yr ysgol, meithrin y doniau hynny. Yn yr ysgol, efallai bod athro neu athrawes, neu lyfr, rhaglen gyfrifiadurol neu gwrs, fydd yn gallu eich helpu chi ddatblygu’r diddordeb hwnnw neu’r ddawn honno neu’r sgil. Mae gennych chi, fel disgyblion, botensial enfawr ynoch chi i ddisgleirio.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am eiriau’r ddihareb yn dawel am foment neu ddwy:‘Nid llestr i’w lenwi yw plentyn, ond lamp i’w goleuo.’

Gofynnwch iddyn nhw feddwl am dalent sydd ganddyn nhw, neu sgil neu ddiddordebau, y bydden nhw’n hoffi eu datblygu yn ystod y misoedd sydd i ddod. Sut bydden nhw’n mynd ati i gyflawni hyn?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti fy mod i’n unigryw.
Diolch i ti fy mod i wedi cael fy nghreu ar dy ddelw di, gyda gallu creadigol a doniau arbennig.
Rho i mi yr awydd i ddysgu ac i werthfawrogi fy addysg a gwneud yn fawr ohono.
Diolch i ti am fy ysgol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon