Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Afal y dydd . . .

Beth sydd ei angen ar ein corff?

gan Rachael Crisp

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio paentiadau Giuseppe Arcimboldo i feddwl am dymor y Cynhaeaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (An Apple a Day)a’r modd o’u dangos.
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi oleuo cannwyll yn ystod y rhan 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth, ac os felly bydd angen i chi drefnu modd o wneud hynny.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod am ddangos cyfres o ddelweddau, ac rydych am i'r plant edrych arnyn nhw’n ofalus gan geisio nodi'r pa ffrwythau a llysiau maen nhw’n gallu eu gweld yn y delweddau.
  2. Dangoswch sleidiau 1-5.

    Wrth i'r delweddau gael eu harddangos, siaradwch ychydig gyda'r plant am y ffrwythau a'r llysiau sydd i’w gweld.
    Gofynnwch y cwestiynau canlynol.
    -pwy sydd wedi bwyta’r gwahanol lysiau/ffrwythau?
    -Pa rai yw hoff ffrwythau a hoff lysiau’r plant?
    -Pam y byddai artist yn defnyddio ffrwythau yn y fath fodd?
  3. Esboniwch fod y delweddau yn ddetholiad o baentiadau gan Giuseppe Arcimboldo, a oedd yn byw rhwng 1527 a 1593. Roedd Arcimboldo yn arlunydd Eidalaidd y mae ei baentiadau mwyaf enwog yn cynnwys ei baentiadau o bennau dynol a adeiladwyd o wahanol ffrwythau a llysiau a gwreiddiau coed. O bellter, mae lluniau Arcimboldo yn edrych yn debyg i bortreadau arferol. Fodd bynnag, pan fyddwch chi'n dod yn agos atyn nhw, fe welwch chi’n glir bod y darluniau'n ddarluniau bywyd llonydd sydd wedi cael eu creu'n ofalus.
  4. Dangoswch sleidiau 6-7.

    Gofynnwch i'r plant edrych ar y delweddau hyn ac ystyried pam maen nhw wedi cael eu henwi dan y teitl 'Pedwar tymor’.
  5. Eglurwch fod paentiadau Arcimboldo yn gallu ein hatgoffa o ddathlu'r Cynhaeaf. Mae dathlu'r cynhaeaf yn ddathliad o ddiolchgarwch i Dduw am yr holl fwyd yr ydym yn ei fwynhau, ac yn arbennig am y ffrwythau a'r llysiau sy'n tyfu o'r ddaear.
  6. Mae paentiadau Arcimboldo hefyd yn ein hatgoffa o'r gwahanol fathau o fwyd y mae eu hangen ar ein corff i gadw'n iach. Mae bwyd yn rhoi egni i’n corff. Fel mae petrol neu ddisel yn cadw car i fynd, mae ar bobl angen bwyd er mwyn cadw eu cyrff i ddal i fynd. Mae'r bwydydd yr ydyn ni’n eu bwyta'n rhoi maetholion i ni a fydd yn ein helpu i dyfu, yn rhoi egni i ni allu symud, ac yn ein cadw rhag mynd yn sâl.
  7. Gofynnwch i'r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am rai o'r maetholion sy'n hanfodol i'n corff. Gallai'r cynigion gynnwys atebion fel protein, carbohydradau, braster, fitaminau, mwynau, dwr, ffibr ac yn y blaen. Trafodwch pam mae ein cyrff angen y maetholion. Er enghraifft, mae carbohydradau a brasterau yn rhoi egni i ni, mae protein yn ein helpu i dyfu ac atgyweirio ein cyrff, ac mae mwynau fel calsiwm yn helpu i gadw ein hesgyrn yn gryf.
  8. Pwysleisiwch fel y mae'r ffrwythau a'r llysiau'n rhan o'r bobl a welir yn narluniau Arcimboldo, felly hefyd mae'r pethau yr ydyn ni’n eu bwyta'n dylanwadu ar sut fath o gorff a fydd gennym ninnau. Mae bwyd yn bwysig iawn!
  9. Atgoffwch y plant fod gennym ni lawer o bethau i fod yn ddiolchgar amdanyn nhw. Mae'r cynhaeaf yn amser da nid yn unig i fod yn ddiolchgar am ein bwyd, ond hefyd i gofio'r rhai nad oes ganddyn nhw ddigon i'w fwyta. Atgoffwch y plant fod rhai pobl nad oes ganddyn nhw lawer o fwyd. Mae rhai pobl sydd ddim yn gwybod a fyddan nhw’n bwyta yfory neu a fyddan nhw’n mynd i'r gwely yn newynog.
  10.  Os yn bosibl, cysylltwch y syniad bod pobl yn newynu â digwyddiad elusen neu ddigwyddiad cymunedol sy'n anelu at helpu'r rhai sydd mewn angen. Gallai enghreifftiau fod yn fanc bwyd lleol, elusen sy'n gweithio gyda phobl dan anfantais, neu elusennau tramor. Anogwch y plant i feddwl am sut y gallen nhw helpu yn ystod yr amser hwn o Ddiolchgarwch am y Cynhaeaf.

 

Amser i feddwl

Dewisol: goleuwch gannwyll wrth i chi ddweud y geiriau canlynol.

Wrth i ni oleuo'r gannwyll hon, gadewch i ni feddwl am yr hyn yr ydyn  ni wedi'i glywed, a meddwl sut mae hyn yn effeithio arnom ni.

Gadewch i ni feddwl am eiliad am ein hoff fwyd. Pryd wnaethoch chi fwyta’r bwyd hwnnw ddiwethaf?

Gadewch i ni feddwl am yr amseroedd pan fyddwn ni eisiau bwyd, efallai cyn i'r gloch fynd am amser cinio, neu pan gyrhaeddwn adref o'r ysgol. Sut beth fyddai deffro yn newynog bob dydd a sylweddoli nad fyddai dim i'w fwyta?

Gadewch i ni feddwl am ffyrdd sut y gallwn ni helpu pobl mewn angen.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y doniau rwyt ti’n eu rhoi i ni.
Diolch i ti am bobl greadigol felGiuseppe Arcimboldo.
Diolch y gallwn ni edrych ar ei luniau a chofio fod bwyd yn helpu i gadw ein cyrff yn gryf ac yn iach.
Helpa ni bob amser i feddwl am y rhai hynny sydd â llai o bethau nag sydd gennym ni.
Helpa ni i ofalu amdanyn nhw a gwneud beth bynnag a allwn ni i wneud eu bywydau yn well

Amen

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon