Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Parod i helpu!

Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw bod yn garedig wrth eraill, hyd yn oed pan fyddan nhw'n brifo ein teimladau ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Dyma’r bedwaredd yn y gyfres o wasanaethau yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’ sy’n ymwneud â bywyd Joseff. Mae’r rhai blaenorol yn y gyfres i’w cael ar wefan y gwasanaethau:

- Y gyntaf yn y gyfres yw’r un dan y pennawd ‘Mae’n fy ngwneud i’n benwan’, ac mae’r fersiwn Saesneg ‘He Makes Me Mad!’, ar gael ar:http://www.assemblies.org.uk/pri/2705/he-makes-me-mad
- Yr ail yn y gyfres yw’r un dan y pennawd, ‘Dewis gwael!’, ac mae’r fersiwn Saesneg ‘A Bad Choice!’, ar gael ar:http://www.assemblies.org.uk/pri/2899/a-bad-choice
- Y drydedd yn y gyfres yw’r un dan y pennawd, ‘Nid fi wnaeth!’ ac mae’r fersiwn Saesneg ‘It Wasn’t Me!’, ar gael ar:http://www.assemblies.org.uk/pri/2918/it-wasnt-me

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd Sgryffi’n bryderus wrth ddisgwyl am Liwsi Jên.

    Y diwrnod blaenorol, roedd Liwsi Jên wedi bod yn drist iawn. Roedd ei ffrind, Sarah, wedi colli creision dros ddesg y cyfrifiadur, ac wedi rhoi’r bai ar Liwsi Jên. Bu Liwsi Jên mewn trafferth gyda'r athrawes, er bod hynny’n annheg iawn.

    Y bore hwnnw, roedd Liwsi Jên yn parhau i fod yn anfodlon pan aeth i'r stabl i frwsio Sgryffi a rhoi ei frecwast iddo.

    ‘Dw i ddim eisiau mynd i’r ysgol, Sgryffi,’ dywedodd yn drist.

    Gweryrodd Sgryffi’n dawel, fel pe byddai’n dweud, ‘Paid â phoeni, bydd popeth yn iawn.’

    Erbyn hyn, roedd yn bnawn, ac yn fuan iawn fe fyddai Liwsi Jên yn dod i ddweud hanes ei diwrnod wrtho.

    Clywodd Sgryffi swn traed Liwsi Jên yn dod ar draws yr iard, ac yn fuan roedd hi'n dod i’r golwg rownd y gornel. Fe redodd hi at Sgryffi a rhoi cwtsh mawr iddo.

    Mae gen i gymaint o bethau eisiau eu dweud wrthyt ti, Sgryffi!’ meddai gan fwytho ei got.

    ‘Roeddwn i ar fy ffordd i'r ysgol pan glywais swn rhywbeth yn crashio a rhywun yn gweiddi wedyn. Fe wnes i redeg rownd y gornel i weld beth oedd wedi digwydd. Roedd Sarah yn gorwedd ar y palmant, yn crio. Roedd hi wedi syrthio oddi ar ei beic, ac roedd ei phen-glin yn gwaedu.’

    Gofynnwch i'r plant beth fydden nhw wedi'i wneud yn y sefyllfa honno.

    ‘Ar y dechrau,’ dywedodd Liwsi Jên, ‘fe wnes i feddwl: mae hi'n haeddu hyn ar ôl beth ddigwyddodd ddoe! Ond wedyn allwn ni ddim ei gadael yno, er fy mod i'n ddig iawn gyda hi. Felly, fe wnes i godi beic Sarah a'i wthio ymlaen tra roedd hithau’n cerdded yn araf ac yn gloff wrth fy ochr. Fe wnaeth hi grio yr holl ffordd i'r ysgol.’

    Gofynnwch i'r plant ddyfalu beth ddigwyddodd wedyn.

    ‘Wyt ti’n gallu dyfalu beth ddigwyddodd wedyn, Sgryffi?’ gofynnodd Liwsi Jên.

    Trodd Sgryffi ei ben ar un ochr fel pe byddai’n ceisio meddwl am ateb.

    ‘Wrth i ni fynd trwy giatiau'r ysgol, fe stopiodd Sarah ac fe ddywedodd wrtha i ei bod hi'n ddrwg ganddi ei bod wedi achosi trwbl i mi ddoe. Fe ddywedodd ei bod hi'n mynd i ddweud y gwir wrth yr athrawes ynghylch beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd. Felly, pan wnaethon ni gyrraedd yr ysgol, a thra roedd yr athrawes yn rhoi plastr ar ei phen-glin, fe ddywedodd Sarah y gwir wrthi. Fydd hi ddim yn cael defnyddio'r cyfrifiadur am weddill yr wythnos, ond fe ddywedodd yr athrawes ei bod hi'n falch ohoni am ddweud y gwir.’

    ‘Hi-ho, hi-ho!’ meddai Sgryffi’n frwdfrydig.

    ‘A hyd yn oed yn well na hynny,’ dywedodd 'Liwsi Jên wedyn, ' fe wnaeth yr athrawes sefyll o flaen y dosbarth cyfan a dweud fy mod i’n esiampl dda i bawb, ac erbyn hyn mae Sarah a finnau’n ffrindiau gorau eto!’

    Gwenodd Liwsi Jên.

    ‘Felly,’ ochneidiodd yn hapus, ‘mae'n ymddangos bod popeth yn iawn eto, yn y diwedd. Beth bynnag, Sgryffi, gad i ni fynd am dro bach cyn te!’

    ‘Hi-ho, hi-ho!’ meddai Sgryffi’n frwdfrydig eto, yn hapus am fod Liwsi Jên yn hapus.

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Ydych chi ryw dro wedi cael eich beio am rywbeth na wnaethoch chi? A oedd popeth yn iawn yn y diwedd?
    -Pam ydych chi'n meddwl bod yr athrawes wedi dweud bod Liwsi Jên yn esiampl dda i bawb arall?

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

  4. Efallai y byddwch am ail-adrodd y rhannau o stori Joseff sydd i’w cael yn y gwasanaethau blaenorol yn y gyfres hon am fywyd Joseff.

    Gadewch i ni barhau gyda'r stori o'r Beibl am y bachgen o'r enw Joseff.

  5. Cafodd Joseff ei daflu i’r carchar oherwydd bod ei bennaeth, Potiffar, yn ddig iawn. Roedd dau ddyn arall yn y carchar ar yr un pryd. Roedd un yn bobydd a distain oedd y llall. Pobi bara oedd gwaith y pobydd, ond gwaith y distain oedd gweini ar y brenin. Y distain fyddai'n arllwys y gwin ac yn ei flasu cyn i'r brenin ei yfed. Roedd y ddau ddyn yma wedi digio’r Pharo, am ryw reswm, ac wedi cael eu rhoi yn y carchar. Roedd y ddau yn meddwl na fydden nhw byth yn cael dod yn rhydd.

    Un noson, cafodd y dynion hyn freuddwydion. Breuddwydiodd y distain am winwydden gyda thair cangen. Tyfodd clystyrau o rawnwin ar y winwydden. Roedden nhw’n aeddfed a hyfryd, ac roedd y distain yn gallu casglu’r grawnwin a gwasgu’r sudd i mewn i wydr er mwyn i Pharo ei yfed.

    Roedd y pobydd wedi breuddwydio ei fod yn cario tair basgedaid o fara ar ei ben. Roedd y fasged uchaf yn llawn bwyd ar gyfer Pharo, ond mae'r adar yn hedfan i lawr ac yn dechrau bwyta’r bwyd.

    Roedd y ddau ddyn yn pryderu’n fawr am y breuddwydion hyn am eu bod yn credu eu bod yn cynnwys neges ynghylch yr hyn a fyddai'n digwydd iddyn nhw yn y dyfodol. Fe wnaethon nhw ofyn i Joseff beth oedd ystyr y breuddwydion.

    Esboniodd Joseff fod y tair cangen ym mreuddwyd y distain yn cynrychioli tri diwrnod. Dywedodd y byddai Pharo, ymhen tri diwrnod, yn rhyddhau’r distain ac yn rhoi ei hen swydd yn ôl iddo. Yna fe fyddai’n ddiogel ac yn hapus. Gofynnodd Joseff i'r distain gofio amdano pan fyddai wedi mynd yn ei ôl i'r palas a gwneud cymwynas ag ef. Roedd Joseff yn awyddus i’r distain ofyn i Pharo adael iddo ef, Joseff, gael ei ryddhau o’r carchar am nad oedd wedi gwneud dim o'i le.

    Aeth Joseff ymlaen i esbonio na fyddai'r pobydd mor lwcus, yn anffodus. Byddai Pharo yn parhau i fod yn ddig gydag ef, ac ni fyddai'r pobydd yn cael mynd yn ei ôl i'r palas.

    Fe ddaeth y cyfan o’r hyn ddywedodd Joseff a fyddai’n digwydd yn wir. Ond, yn anffodus, fe anghofiodd y distain bopeth am Joseff yn syth, a chafodd Joseff ei adael yn y carchar.

    Joseff druan: roedd ei fywyd yn ymddangos fel un hunllef hir!

Amser i feddwl

Cafodd Liwsi Jên a Joseff eu beio a'u cosbi am rywbeth nad oedden nhw wedi'i wneud. Fodd bynnag, doedd hynny ddim yn eu hatal rhag helpu'r rhai hynny oedd angen help.

Gofynnwch i'r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am enghreifftiau eraill o achosion lle mae rhywun wedi parhau i garu a helpu, hyd yn oed pan gawson nhw eu trin yn annheg.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn barod i roi help llaw, hyd yn oed i rywun sydd wedi bod yn annheg neu hyd yn oed yn gas wrthym ni.
Helpa ni i fod yn barod i faddau.
Helpa ni i beidio â dal dig.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon