Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Tywod a sêr

Gormod i’w cyfrif!

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod Duw yn cadw ei addewidion.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tywod bras mewn jar, a hambwrdd fel y gallwch chi daenu’r tywod arno. Os yn bosibl, trefnwch fod gennych chi chwyddwydr hefyd.
  • Trefnwch fod y delweddau canlynol ar gael gennych chi, a'r modd o’u harddangos yn ystod y gwasanaeth:

    - sêr yn awyr y nos, ar gael ar:https://tinyurl.com/hu9ykff
    - traeth o dywod, ar gael ar:https://tinyurl.com/ydbwsu94
  • Dewisol: efallai yr hoffech chi chwarae’r gân, ‘Father Abraham had many sons’, ac os felly, fe fydd arnoch chi angen trefnu’r modd o chwarae’r recordiad. Mae fersiwn ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=5o_J30x6E6s ac mae’n para am 2.53 munud.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi sylwi fod y dyddiau'n byrhau a'i bod hi'n dechrau tywyllu'n gynharach gyda'r nos y dyddiau hyn.

    Gofynnwch a oes unrhyw un ohonyn nhw wedi sylwi ar y sêr cyn iddyn nhw noswylio. Nodwch nad yw'r plant yn gweld y sêr yn aml yn ystod yr haf, oherwydd fe fyddan nhw'r plant wedi mynd i’w gwelyau cyn iddi dywyllu. Fodd bynnag, wrth i'r hydref a'r gaeaf ddod, fe fydd modd i ni, efallai, weld y sêr yn yr awyr. 

  2. Gofynnwch i'r plant faint maen nhw’n ei feddwl sydd o sêr yn yr awyr.

    Dangoswch y ddelwedd o’r sêr yn awyr y nos.

    Gofynnwch am wirfoddolwr i gyfri'r sêr sydd yn y llun.

    Eglurwch fod miliynau o sêr yn bod. Hyd yn oed gyda'r telesgopau mwyaf nerthol, ni allwn weld y cyfan ohonyn nhw. Allwn ni fyth gyfri'r cyfan ohonyn nhw!

  3. Dangoswch y ddelwedd o’r traeth tywod.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi bod yn chwarae ar y traeth ryw dro ac wedi teimlo'r tywod rhwng bodiau eu traed.
    Holwch y plant am eu profiadau yn ddiweddar, efallai bod rhai wedi treulio eu gwyliau ar draethau.

  4. Eglurwch fod gennych her i'w gosod i'r plant.

    Gwahoddwch ddau wirfoddolwr i ddod ymlaen ac eglurwch iddyn nhw eich bod chi eisiau iddyn nhw gyfri'r gronynnau o dywod sydd gennych mewn potyn. Nodwch fod gennych hambwrdd a chwyddwydr i'w helpu nhw, a bod ganddyn nhw hyd at ddiwedd y gwasanaeth i gwblhau'r dasg. 

  5. Ar ôl i'r gwirfoddolwyr geisio gwneud y dasg a gweld yr olwg ddryslyd ar eu hwynebau, eglurwch ei bod hi'n dasg amhosib rhifo'r holl ronynnau tywod sydd yn y potyn yn y ffordd honno. 

  6. Eglurwch i'r plant bod dyn o'r enw Abraham yn ymddangos fel cymeriad mewn sawl llyfr addysg grefyddol. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi gwneud addewid arbennig i Abraham. Roedd Abraham a'i wraig, Sarai, yn hen iawn a doedd ganddyn nhw ddim plant. Yna, fe siaradodd Duw â nhw a gwneud addewid iddyn nhw: fe fydden nhw'n cael mab. Mae'n rhaid bod hyn wedi ymddangos yn rhywbeth amhosib i Abraham, ond yna fe wnaeth Duw addo mwy na hynny iddo. Fe ddywedodd y byddai disgynyddion Abraham yn fwy niferus na'r holl dywod ar lan y môr, na'r holl sêr yn yr awyr! 

  7. Dychmygwch Abraham yn edrych i fyny i’r awyr ar noson ddigwmwl, heb unrhyw olau gan lampau'r stryd i ddifetha'r olygfa. Faint o sêr ydych chi'n meddwl y byddai'n eu gweld? Cant? Mil, efallai? Gadewch i ni geisio ei helpu i gyfrif. Fe ddechreuwn ni gyda’r rhif 183, a chyfrif ymlaen ....

    Anogwch y plant i barhau i gyfrif am gyfnod byr.

    Cofiwch: doedd dim ysbienddrych i’w gael yn y dyddiau hynny, na Thelesgop Hubble ychwaith i astudio'r gofod ac edrych i'r gwagle diddiwedd o'i flaen. 

  8. Meddyliwch am Abraham yn codi dyrnaid o dywod oddi ar y llawr. Faint o ronynnau o dywod oedd ganddo yn ei law tybed? Mil? Deg mil? Gadewch i ni geisio ei helpu. Beth am ddechrau cyfrif gyda'r rhif 1,417....

    Anogwch y plant i ddal ati i gyfrif eto am gyfnod byr.

    Cofiwch: roedd yno anialwch mawr o’i gwmpas ym mhob man. 

  9. Gofynnwch i'r plant, ‘Ydych chi'n meddwl fod Abraham wedi credu'r addewid wnaeth Duw iddo?’

    Eglurwch fod Abraham yn credu bod Duw mor hollalluog fel y gallai gyflawni unrhyw beth.

    Nid oedd Abraham yn gwybod sut y byddai Duw yn cyflawni ei addewid, ond fe gredai y byddai'n cadw at ei air ac yn gwneud hynny. Heddiw, gallwn olrhain disgynyddion Abraham yn ôl trwy'r oesau. Bellach mae biliynau ohonyn nhw! 

  10. Nodwch y pwyntiau canlynol.

    - Wyddai Abraham ddim bod yno fyd mawr y tu hwnt i'w wlad ei hun.
    - Wyddai Abraham ddim bod yno anialdiroedd fyddai'n cymryd oriau i'w croesi.
    - Wyddai Abraham ddim am ehangder y gofod.

    Fodd bynnag, roedd Abraham yn credu y byddai Duw yn cadw at ei air ac yn cyflawni ei addewid - ac fe wnaeth!

Amser i feddwl

Mae llawer o addewidion wedi'u cofnodi yn y Beibl. Dyma rai ohonyn nhw.

- Mae Duw wedi ein gwneud ni’n arbennig.
- Mae Duw wedi ein gwneud ni’n unigryw.
- Mae Duw’n gwybod beth yw ein meddyliau, felly mae’n ein deall ni.
-Wnaiff Duw byth ein gadael ni.
-Mae Duw’n ein caru ni’n fawr iawn.

Awgrymwch y gallai’r plant chwilio am addewidion eraill yn y Beibl. Fe allai hyn fod ar ffurf cystadleuaeth er mwyn gweld pwy sy'n gallu dod o hyd i'r nifer fwyaf.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gadw dy addewid i Abraham.
Diolch ein bod ni’n gallu ymddiried ynot ti i gadw dy addewidion i ni.
Diolch dy fod ti'n gwybod beth yw nifer y gronynnau tywod yn y byd, a nifer y sêr yn yr awyr, a dy fod ti hyd yn oed yn fy adnabod i.
Helpa ni bob amser i gofio pa mor enfawr yw dy gariad di tuag atom ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dewisol: ‘Father Abraham had many sons’, ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=5o_J30x6E6s

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon